31.3.06

gorllanw y gwanwyn




Roedd teimlad o'r gwanwyn yn yr awyr heddiw o'r diwedd. Dros amser cinio es i lawr i'r prom i weld y gorllanw. Does dim llawer o ddyfodol tymor hir i'r maes parcio yn ystyried yr holl son am 'cynhysu byd eang' 'does! Ond pwy fasai byw reit ar y 'ffrynt', heddiw doedd dim ond awel bach tu cefn i'r llanw..

30.3.06

Dadorchuddio y plac

Dwi'n edrych ymlaen at dydd sul a'r digwyddiadau ar y Cae Ras er mwyn dathlu canflwyddiant y ffilm cyntaf o gem peldroed rhwngwladol. Mi gafodd y ffilm bach ei tynnu ar y Cae Ras yn ystod gem rhwng Cymru ac Iwerddon lle chwaraeodd cefnder pell i mi (sef Leigh Roose) rhwng y pyst i Gymru. Mae fy Mam a Dad wedi cael tocynau ar gyfer y VIP buffet lle fydden nhw'n rwbio ysgwyddau efo John Toshack ac hen chwaraewyr eraill, ond yn anffodus does dim ond dau tocyn pob teulu, felly i'r stondin byrgyrs a ninnau!

Mae 'na ddigwyddiadau yn y maes parcio (ciciau gosbi ac ati) yn ol yr hysbyseb ac fydd JT yn dadorchuddio plac sy'n dathlu ffilm Mitchell a Kenyon.

Mae'r digwydddiad ar agor i'r cyhoedd gan cynnwys gem bechgyn rhwngwladol o ddeg munud pob ffordd. Fydd y gatiau ar agor hanner wedi un efo'r dadorchuddio am 2.20 a'r gem byr ar ol hynny.

27.3.06

Chwilio am ty?

Tasech chi am symud i'r penrhyn yma am rai rheswm neu arall, wel falle fasai'r ty yma yn lle delfrydol i chi. Mi fyddech chi'n cael golygfeydd eithriadol o dda ar draws y Dyfrdwy tuag at y Gogledd, complecs nofio efo stafelloedd newid i ddynion a merched, stafell snwcer, 'orangery' wrth rheswm a bron popeth arall o dan yr haul mi allech chi angen. Mi fasech chi mewn cwmni da yno hefyd, enwogion o'r maes peldroed, datblygwyr tai a dynion busnes drwgdrybus eraill, ond wedi dweud hynny dychi ddim yn debyg o weld llawer ohonynt tu cefn i'r 'gatiau trydanol' ffasiynol iawn ffordd yna.

Er cyn i chi brysio i'r gwerthwyr tai sy'n delio efo'r 'cynnig' yma, well i chi sicrhau eich morgais o saith miliwn o bunoedd (ie, £7,000,000 yn ol hysbys yn cylchgrawn y 'Cheshire Life') efo eich rheolwr banc.

Dwi wedi clywed sibrydion bod Raffa Benitez rheolwr clwb peldroed Lerpwl wedi cael cipolwg arni hi hefyd, felly well i chi brysio, mae o newydd arwyddo cytundeb newydd.

26.3.06

Dysgwr o Efrog Newydd

Roedd 'na ddysgwr (sy'n bellach yn rhugl) arall o'r Unol Daliethau ar raglen 'Beti a'i Phobl' y wythnos yma yn siarad am ei bywyd diddorol. Dwi'n dweud 'arall' gan bod erbyn hyn dwi'n nabod o ychydig eraill o dros Mor yr Iwerydd sy wedi llwyddo i gael gafael o'r iaith 'ma.
Ar wahan i eraill sydd wedi dysgu'r iaith 'ma mae ganddo fo cysylltiad amlwg Cymreig, sef tad o Ferthyr Tudful. Mae ei hanes yn siwr o ysbrydoli unrhyw dysgwr ac mae o'n rhoi ei lwyddiant lawr i gwrs wlpan, rhywbeth hanfodol yn o^l fo.

Mae o'n son am glywed cwpl o dwristiaid yn siarad Cymraeg ar y 'subway' yn ddiweddar a dechrau sgwrs efo nhw, nid fasen nhw wedi disgwyl cael sgwrs yn eu hiaith eu hunan gyda Americanwr ar y tren danddaearol yno.

21.3.06

gem cyfrifiadur dwyieithog

Mi ddarllenais i ar wefan BBC Cymru'r Byd ddoe am gem cyfrifiadur dwyieithog a chafodd ei dyfeisio gan criw o blant ysgol.

Dwi erioed wedi clywed am gem o'r math yn y Cymraeg, ar wahan i'r rhai ar gyfer plant bach. Syniad clyfar oedd cael thema Cymreig i'r gem hefyd, sef Y Mabinogi. Felly hyd yn oed tasai pobl yn chwarae'r gem yn Saesneg mae 'na elfen wahanol iddi hi.

20.3.06

'playboy goalie'.....perthyn i fi



Leigh Roose yn barod i arbed ergyd tra chwarae dros Stoke. Mae'r llun lliw yn dod o cerdyn sigaret o'r cyfnod.


O'n i wedi son o'r blaen am y golgeidwad enwog (wel cant mlynedd yn ol o leia) o'r enw Leigh Roose sy'n perthynas pell i mi. Mae o'n cefnder 'wedi symud tairwaith', a chofiodd fy Nhaid fo'n dod i ymweled a'i deulu ambell waith. Ta waeth, y bore 'ma mi ges i galwad ffon oddi wrth fy Mam i ddweud bod 'na erthygl amdanhi a lluniau ohono yn y Daily Post, ac fasai hi'n ei sganio ac ei e-bostio i fi. Wrth cyd-ddigwiddiad llwyr, o'n i'n sbio ar y papurau tu allan i'r siop papur jysd o gwmpas y cornel o'r weithdy pan welais i copi unig o'r 'Welsh' Daily Post, rhywbeth sydd ddim ganddyn nhw fel arfer.



Mae'r erthygl yn son amdano fo fel 'playboy goalie' oedd mewn rhestr y 'top ten' gwynebau adnabyddus ym Mhrydain tua troi'r canrif. Un o'i 'concwests' o oedd y se^r 'musichall' Marie Lloyd yn ol yr erthygl, felly wnaeth o gampau eraill ar wahan i'r rhai ar y maes peldroed, chawarae teg iddo fo, dim rhy ddrwg am fab mans Presbyteraidd!

Roedd L.R. Roose yn hoff iawn o cario'r pel ymlaen at y llinell hannerr ffordd er mwyn cicio'r pel reit mewn canol 'geg gol' y tim arall. Roedd hyn yn hollol 'cyfreithlon' yn y gem ar y pryd ond gan bod o'n gwneud cymaint ohonhi wnaeth y FA newid y rheolau er mwyn rhwystro golgeidwadau' rhag cyswllt a'r pel a'u dwylaw tu allan i'r 'cwrt cosbi' (bocs penalty).

Wedi ymddeol o chwarae pel droed yn ei dridegau ar ol 24 capiau dros Cymru, mi aeth o mewn i'r fyddin ac yn anffodus mi gafodd o ei ladd allan yn y Ffrainc ar ol ennill medalau dros ei ddewrder. Dwi'n edrych ymlaen at darllen llyfr amdano 'Lost in France' gan Spencer Vignes sy'n dweud fo oedd y peldroedwr enwocaf ei genedlaeth.

18.3.06

dim ond balchder...

Mi ddychwelais i adre ddoe ar ol trip i'r siopau jysd mewn amser i weld y gem rygbi o Gaerdydd.
Dwn i ddim o le, ond roedd Cymru wedi dod o hyd ysbryd newydd ar gyfer y gem yn erbyn Y Ffrainc. Mi wnaethon nhw colli yn y diwedd, ond rhodd y cochion eu perfformiad gorau y pencampwriaeth yn ol sylwebydd y bbc, ac mi welom ni atseiniau o 2005 yn enwedig efo cic gosb anhygoel Gavin Henson trwy'r pyst. Ennillodd y Ffrainc y chwe gwlad yn y diwedd (ar ol canlyniad Iwerddon yn erbyn Lloegr) ond does dim un tim sydd wedi dod trwy'r pencampwriaeth eleni fel buddugolwyr amlwg.

Mi brofiodd Cymru hyd yn oed efo gwendidau sylfaenol oherwydd anafiadau, mi allen nhw dal i chwarae fel tim y camp lawn o lynedd. Chwarae teg i Scott Johnson, mae o'n gallu ysbrydoli carfan Cymru i berfformio a^ balchder o hyd. Mae gan y WRU helyntion go fawr i ddatrys dros y misoedd nesa.

17.3.06

Diwedd y wythnos

Mae hi wedi teimlo fel wythnos eitha galed ar ran gwaith a dweud y gwir, felly dwi'n falch iawn i gael gwared ohoni. Dwi'n dal i ddiodde o'r effaith y ffliw (neu beth bynnag roedd arni fi yn ddiweddar) a'r antibiotics dwi newydd gorffen. Siwr o fod dydy hi ddim syniad da i yfed alcohol tra bod arnyn nhw, ond dyna ni, ond roedd fy nhgoesau wedi teimlo fel plwm trwy'r p'nawn.

Mi ges i noson da yn dafarn y Castell Rhuthun ddoe. Fel arfer dyni'n cael hwyl a dysgu dipyn bach hefyd! Gofynodd un o'r dysgwyr eraill be' ydy'r gair Cymraeg dros 'Evil' (dwn i ddim pam). Meddwl cyntaf Daf druan (sy'n cashau cwestiynau ieithyddol fel arfer) oedd 'diafol', ond na , 'devil ydy hynny dwedodd ar ol aelfeddwl. 'Drwg iawn iawn' mi awgrymais i yn jocio, ond wedi meddwl amdanhi dydy hi ddim mor bell o'r wir, mae'r geiriadur mawr yn rhoi 'drwg' (a 'drygionus') fel ystyr 'wicked', felly gallai 'drwg' yn golygu mwy na 'bad' yn Saesneg. Fel arfer mae 'na ffordd rownd dweud pethau heb cyfieithu geiriau neu syniadau yn union yr un fath ag yn y Saesneg.

Felly dwi'n edrych ymlaen at penwythnos o ymlacio. Mae fy merch eisaiu mynd i'r siop llyfrau yfori er mwyn gwario tocynnau llyfrau, felly dwi'n gobeithio bod adre cyn i'r gem mawr o Gaerdydd yn dechrau yn y p'nawn. Pwy sy'n gwybod beth i ddisgwyl....

16.3.06

Cwrw a sgwrs peldroed......

Wel ar ol mis o fethu cael mynd i'r sesiwn sgwrs wythnosol draw yn Yr Wyddgrug (salwch, eira, diogi...), yr heno 'ma dwi'n gobeithio mynd. Dyni wedi cael ambell cawod o eira yn ystod y dydd, ond dim digon i effeithio'r ffyrdd, hyd yn oed mewn bryniau Sir y Fflint. Mi ffoniais i Daf o Fenter Iaith Sir y Fflint er mwyn sicrhau fydd y sesh yn digwydd, felly iffwrdd a fi ar ol cinio.

A dweud y gwir dwi'n edrych ymlaen at hanner neu ddau o gwrw (rhaid i mi yrru) a sgwrs Cymraeg. Siwr o fod fydd 'na dipyn o siarad am sefyllfa Clwb peldroed Wrecsam sy wedi cael 'reprieve' yn y llysoedd y wythnos yma. Mae'r Castell Rhuthun Yr Wyddgrug yn llawn o gefnogwyr brwd Wrecsam, a rhaid i mi cyfadde mae gen i ddidordeb drostyn nhw fy hun. Mi es i fel plentyn i'r Cae Ras yn aml iawn efo fy Nhad sy'n dod o'r dref yn wreiddiol.

13.3.06

hwyl yn yr oer...

Dyma Mr Eira, ffrwyth llawer o waith galed efo'r merch yn yr ardd. Yn anffodus mae Mr Eira wedi diflannu erbyn hyn, ond o leia mae genom ni llun bach er mwyn ein atgoffa ni o'r camp o gerfluniaeth 'ma.

Mi gawsom ni lot o hwyl yn taflu pelau eira at ein gilydd hefyd, ond y peth gorau i'w wneud efo nhw oedd i drio achosi avalansau o do y consyfatori ar ben unrhywun sy'n dod allan trwy'r drws...trist ond dydhi!

12.3.06

Eira mawr





Go brin dyni'n cael llawer o eira ar y penrhyn yma. Ambell waith dyni'n weld yr eira ar y bryniau dros yr aber, ac ar fynyddoedd Eryri wrth cwrs, ond mae'r blanced gwyn fel y welon ni heddiw ar y tir yma yn eithriadol iawn, yn enwedig mewn canol mis mawrth. Dwi'n edrych ymlaen at tipyn o hwyl...

11.3.06

taclau hanfodol y blogwr/dysgwr


Er mod i wedi prynu copi o'r Geiriadur Mawr ers cwpl o flynyddoedd erbyn hyn, mae'r hen 'Oxford Pocket Modern' geiriadur i ddysgwyr yn dal i fod teclyn hanfodol iawn i fi, gan bod 'na gymaint o enghreifftiau ynddi o geiriau yn cael ei defnyddio.

cymhorth

Oes 'na unrhywun sy'n darllen y blog bach 'ma sy'n gallu fy helpu? Dwi'n darllen nifer o flogiau eraill, ond fel arfer dwi'n jysd anghofio i'w siecio nhw neu dwi'n eu siecio ac does dim post newydd yna. Dwi'n sicr mae 'na ffordd o gofrestru rhywle ar y we er mwyn cael gwybod trwy'r e-bost os mae 'na post newydd ar un blog neu'r llall. Siwr o fod dwi 'di darllen rhywun yn son amdanhi neu rhywbeth.

Diolch

Y chwe gwlad

Wel mae Cymru wedi osgoi canlyniad annifyr iawn iawn trwy dod yn ol i 18-18 yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm y Mileniwm y pnawn 'ma. Mae'r sgor yn digon annifyr fel y mae hi wrth cwrs, ond fasai colled wedi bod anfeddyladwy. Mae'n ymddangos bod yr olwynion i gyd wedi disgyn oddi wrth carfan Cymru ers i'r llanast Mike Ruddock, felly efallai roedd o'n gwneud swydd mwy effeithiol nag sylweddolodd yr WRU.
Wedi dweud hynny, mae'r Eidal wedi gwella yn sylfaenol dros y cwpl o dymerau diweddaraf. Mi wnaethon nhw rhoi dipyn o sioc i Iwerddon ac i Loegr yn y cyfres yma, ac fydd neb yn weld taith i Rufain fel gwyliau bach yn yr haul yn y dyfodol, mae nhw'n cystadleuwyr go iawn yn y chwe gwlad erbyn hyn. Ar wahan i gais angyfreithlon fasai nhw wedi curo Iwerddon dros penwythnos cyntaf y pencampwriaeth.

Dwi'n edrych ymlaen rwan at weld sut mae Lloegr yn ymdopi efo eu taith i Paris yfori, roedd y penwythnos pythefnos yn ol yn lot haws (Cafodd Cymru eu chwalu yn Nhulyn wrth cwrs)oherwydd colled Lloegr yn erbyn Yr Alban. Ie dwi'n gwybod, dwi'n collwr ddrwg!

9.3.06

teledu 'daytime'

Dwi ddim yn gwilio llawer o deledu yn ystod y dydd fel arfer, dim ond ambell waith pan dwi'n sal fel y wythnos 'ma. Dwi'n methu credu y nifer o raglenni sy'n ymwneud a^ chwilio am hen bethau (neu jysd sothach a dweud y gwir) ac eu gwerthu mewn 'se^ls cist car' neu ocsiwns. Mae'n teimlo bod nhw yn dod un ar ol y llall ar BBC1. Mae gen i dipyn o ddidordeb mewn hen bethau, yn enwedig dodrefn (dwi'n saer coed/dodrefn), ond rhai o'r cyflwynwyr y rhaglenni 'ma yn mynd reit ar fy nerfau. Felly yr unig eilaid dwi'n teimlo digon well, dyna fi yn syth yn ol i'r gwaith er mwyn dianc rhag cael fy sugno mewn i'r byd daytime.

8.3.06

grrrrrrrrrrrrrrrrrrr,,

Dwi ddim yn hapus. Wedi dros wythnos o'r byg yma o'n i'n teimlo ychydig yn well ddoe ac es i i'r gwaith bron trwy'r dydd, ond neithiwr dyna fi efo gwres uchel unwaith eto yn teimlo'n ofnadwy o gachu. Ffoniais i'r syrjeri y bore 'ma ond fel arfer doedd dim penodiadau ar gael, a dweddodd y dderbynyddes mi ddylwn i ffonio yn ol yn y bore os nad ydy hi argyfwng! Dydy nhw ddim yn gwneud penodiadau i'r diwrnod nesa felly mae pawb yn trio ffonio ar yr un pryd yn y bore er mwyn cael weld y doctor. Wel tria i eto yn y bore.

Dwi ddim yn edrych ymlaen at yfory, dwi'n disgwyl llwyth mawr o bren yn y gweithdy, felly rhaid i mi bod yna yn gynnar er mwyn i'w derbyn. Yn anffodus mae'r gweithdy ar y llawr cyntaf ac mae hi'n siwr o fod talcen galed, finnau efo'r 'effin' byg 'ma.....grrrrrrrrrrr

7.3.06

dadl arwyddion

Ges i wahodd (fel rhywun o dros y ffin) i siarad ar 'Taro'r Post' (nid ar y fainc) ar bwnc arwyddion dwyieithog. Rhai boi o'r RAC wedi dweud rhywbeth yn ol pob son am bobl yn cael eu drysu ganddyn nhw. Wel ffwrdd i chi i'r Swistir 'Mr RAC' er mwyn blasu arwyddion tairieithog, neu falle mae'n rhy peryglus i chi!! Os dychi ddim yn gallu ymdopi efo ambell arwydd dwyieithog, na ddylech chi bod ar y ffyrdd. Mae 'na elfen o bwynt go iawn wrth cwrs , dwi ddim yn deall pam does dim wahaniaith rhwng lliw neu ffont y dwy iaith. Dwi ddim yn golygu fel yn Iwerddon efo'r Gwyddeleg mewn rhywfath o ffont celtaidd hen ffasiwn, dwi'n son am cefndir lliw wahanol i'r rhan o'r arwydd sydd yn y Cymraeg neu Saesneg. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn meddwl bod hi'n problem mawr ar rhan diogelwch, mae'r rhan mwya o ddamweiniau yn digwydd gan bod 'boy racers' yn gyrru rhy gyflym yn eu 'Vauxhall Novas' wedi eu 'gor-tiwnio' 'swn i'n meddwl! Meddyliwch am y 'ploncwrs' i gyd sy'n hedfan lawr y lon yn defnyddio'r ffon neu hyd yn oed tecstio. Siwr o fod mewn ychydig o flynyddoedd fydd pawb yn sbio ar y 'sattilite navigation' yn lle o'r ffyrdd beth bynnag! (oes 'na derm Cymraeg dros sat nat eto? beth am 'llywio lloeren'..) Dwi wedi dweud digon....

6.3.06

Uffern o wythnos

Rhaid i mi cyfadde, dwi 'di cael uffern o wythnos. Mi ddechreuais i efo annwyd drwm tua deg diwrnod yn ol, ond cariais i ymlaen yn y gwaith beth bynnag... dyna hunangyflogrwydd i chi! (oes 'na ffasiwn gair? sdim son yn y geiriadur mawr, felly ddylwn i ddweud falle - 'gweithio i fy hun')... tan dydd gwener pan roedd rhaid i mi rhoi'r ffidl yn y to yn gynnar oherwydd gwres uchel. Dydd Sadwrn wnes i jysd lolio ar y soffa, yn hanner talu sylw ar y rygbi (rownds cynderfynol cwpan Heiniken dwi'n meddwl - andros o fuddugoliaeth i'r Sgarlets). Dydd Sul o'n i wedi cael digon felly i ffwrdd a fi i'r 'Out of Hours GP yn yr ysbyty. Dwy awr yn y stafell aros ac o'n i'n teimlo lot well wrth cwrs! Mi welais doctor yn y pendraw ond dim ond 'haint feirws' sydd arni fi meddyliodd o, felly yn ol at y gwely am weddill y dydd.

I wneud pethau ddrwg yn waeth (paid a phoeni, dwi'n ar fin stopio cwyno!), mi gollais i fy nhgysylltiad bandeang, felly dim we, dim e-pyst neu dim byd. Mae'n anhygoel faint 'dyn i'n debynnu ar y we erbyn heddiw 'tydi.

Popeth wedi cael ei datrys rwan diolch byth, a gobeithio fydd yr 'haint feiral' wedi cael llond bol o fi hefyd cyn bo hir. Tan y tro nesa...