16.12.07

esgeulustra

Dwi wedi bod braidd yn esgeulus am fy mhlog dros y misoedd diwetha. Ni alla i ddweud yn union pam, ond mae'n teimlo fel amser da i'w adrodd am rai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd yn fy myd bach yn ddiweddar.

Nos wener mi deithiais i lawr i Glwb Rygbi'r Wyddgrug er mwyn mynychu noson o'r enw ' Y da, Y ddrwg a'r hyll'. Cefais dipyn o siom i weld cyn lleiad o bobl yno (a welodd yn waeth nag yr oedd hi mewn ystafell mawr), ond er gwaethaf hynny, mi aeth y tri bardd ymlaen i gyflwyno noson bendigedig o farddoniaeth doniol, difyr, trist, coch a theimladwy. Mi ymdrechais finnau, a bron pawb arall yna i gwblhau limeric er mwyn ennill gwobr o het cowboi a diod am ddim, ond er fy ymdrechion go ddifrifol, ni allwn i feddwl pryd hynny am lot i odli gyda gair olaf y llinell osod, sef 'Wyddgrug', a gadawais ddi-het:(

Cymysg o tywydd andros o oer, ac amseriad drwg (partion dolig ac ati) mae'n debyg a eglurodd 'turnowt' mor sal (tua hugain), ond ta waeth, mi gafodd y rhai yna noson i gofio. Dwi'n cofio gigio mewn tafarndai fel hogyn ifanc i gynulleidfeuoedd yr un mor sal, felly teimlais i dros y beirdd, ond ni ymddangoson nhw eu siom, proffesional i'r diwedd!

Ond am gyferbyniad! Roedd Clwb y Cyn Filwyr yn llawn dop ar gyfer noson 'Parti'r Dysgwyr' (Sir y Fflint a trefnwyd gan Fenter Iaith), sy'n calondid mawr i'r trefnwyr a chafodd pawb noson o hwyl, gan cynnwys adloniant gan Parti'r Pentan, digon o fwyd i lenwi'r bolâu mwya, bingo (gyda lluniau o bethau nadoligaidd) a raffl wrth cwrs. Ond yn bwysicaf o lawer oedd y cyfle i gyfarfod dysgwyr eraill a dal i fyny â hen gyfeillion.

Dyni'n cael toriad bach rwan dros y dolig cyn ail-ddechrau yn 2008

30.11.07

Yr Ergyd Olaf... adolygiad

Yr Ergyd Olaf yw trydydd cyfrol Llwyd Owen, y nofelwr dawnus o Gaerdydd a ennillodd 'llyfr y flwyddyn' eleni am ei ail llyfr 'Fydd, Gobaith, Cariad'.

Man cychwyn y nofel hon yw tywyllwch coedwig yn y canolbarth, lle datblygir golygfa arswydus wrth i gofi druan palu ei fedd ei hun o dan lygad barchud dienyddwr proffesional, sef 'Tubbs' gymeriad canolog yr hanes. Ond mae Llwyd Owen yn gallu rhoi dyfnder i'w gymeriadau, hyd yn oed y rhai sy'n ar y wyneb yn ymddangos tu hwnt i achubiaeth, tu hwnt i'n cydymdeimlad. O dywyllwch digwyddiadau y coedwig, dyni'n dilyn Tubbs ar ei daith tuag at y de, a byd o buteiniaid, pimps a chyffuriau, ac ar daith hefyd i blentyndod Tubbs mewn puteindy yn y Barri. Llwyddir Llwyd i ychwanegu nifer o edau i'r nofel tra cadw pob un yr un mor yfaelgar, weithiau mewn llyfrau dwi'n ffeindio fy hun yn frysio trwy ambell i bennod i ddod yn ôl at y thema canolog, ond nid yn yr Ergyd Olaf. Cadawodd pob un cangen o'r nofel fy niddorddeb tan y pennod olaf.

Felly i gloi, mwynheuais y nofel yn fawr iawn, falle yn fwy nag ei lyfrau arall. Storiwr da yw Llwyd Owen, un sydd yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd yn fy mharn i.

29.11.07

Byd bach, Tref bychan...

Ffeindiais fy hun gyda gweddill y teulu mewn parti dolig i gwn heno (mae'n swnio'n rhyfedd dwi'n gwybod, ond dyna ni!), lle ces i gyfle annisgwyliadwy i siarad Cymraeg.

Roedd beirniad y noson, a chymydog Erica (dynes sy'n rhedeg dosbarthiadau hyfforddi cwn yn yr ardal hon) yn gymraes o Borthaethwy yn wreiddiol, er bod hi wedi byw yng Nghilgwri ers flynyddoedd maith. Adnabodd fy gnwraig ei hacen a dweud y gwir, pan daeth hi rownd yn sbio ar y cwn er mwyn dewis un ar gyfer un o'r cystadleuthau, ond pan mi soniodd Jill wrtha i mi ddwedais 'I don't think that's a Welsh accent'. Ta waeth, tua diwedd y noson dyma fi'n golchi pwyllyn ar y llawr newydd ei creu gan y ci pan sylwais i Jill yn sgwrsio gyda'r beirniad. Cyn bo hir ges i alwad draw i ymuno â'r sgwrs lle dysgais ddynes o Ynys Môn oedd hi. "Ydych chi'n siarad Cymraeg" meddai i, "wrth cwrs" meddai hi, wrth wneud i mi deimlo braidd yn dwp am ofyn! Doedd dim ots, wedi i mi esbonio didordeb fi yn yr iaith, er fawr syndod iddi hi, mi aethon ni ymlaen yn y Gymraeg. Y peth anhygoel yw, dim ond rownd y cornel o'n ti ni ydy hi'n byw.

Gyda llaw, enillodd Layla'r ci cwpl o wobrau nadoligaidd, felly cafodd pawb noson diddorol er eithaf swreal.....

21.11.07

Noson 'dyn' o beldroed

Mae hi wedi bod noson reit rhyfedd a dweud y gwir. Pigiais i draw i'r Wyddgrug fel arfer ar nos fercher, ond yn hytrach na clywed lleisiau cyfarwydd Magi Dodd a Glyn Wise ar radio'r car , mi glywais i sylwebaeth ar gém Cymru yn erbyn Yr Almaen. Hanner amser ac roedd hi'n dal i fod "dim dim i Gymru" (fel y dwedodd Bryn yn y dafarn nes ymlaen), sgór anhygoel ar unrhyw noson! ond yr heno 'ma roedd 'na ddrama arall dim ond cyffyrddiad botwm bach i ffwrdd. Clywais sgór gém Lloegr mewn stad o sioc, 0-2 wedi dim ond hugain munud. Doedd dim ond rhaid iddynt cael gém cyfartal i fynd drwyddi i ffeinals pencampwriaeth Ewrop, sut gallai pethau mynd gymaint i'r chwith iddyn nhw? Eisteddodd criw bach yn y Castell Rhuthun, eu llygaid ar y sgrn yn y cornel, mewn sioc hefyd. Nid gallen nhw cytuno ar ba gém i wylio, ond wedi dilyn y gém draw yn Frankfurt i'r chwiban olaf a dathliadau tim Toshack, mi cafodd y teledu ei tiwnio mewn i ddilyn hynt a helynt Lloegr ar y lón hir a throellog i'r rowndiau terfynol. Gyda canlyniad 'comeback' go arbennig i gael ei weld yng nghornel y sgrin bach, mi welsom ni Groatia yn mynd ati i dorri calonau miliynau o Saeson trwy sgorio gól syml arall. Gyda llai 'na chwater awr o'r gem ar ól doedd dim ffordd yn ól i Loegr.

Felly ni fydd yr un o dimau y Deyrnas Unedig yn y rowndiau derfynol o'r Pencampwriaeth Ewrop. Bydd cyfle i ffyddlon y timau 'Prydeinig' dewis tim arall i'w cefnogi yn ystod y gwledd peldroed i 08, ... Croatio unrhywun??

17.11.07

Pennod gyntaf Yr Ergyd Olaf...

Dwi newydd gorffen pennod gyntaf llyfr diweddara Llwyd Owen, wedi i'r pecyn o 'Gwales' cyraedd Cilgwri mewn llai na 24awr, Ni alla i gwyno am y gwasanaeth yna!
Y peth galetaf ydy dod o hyd i amser i ddarllen llyfrau a dweud a gwir, ond os mae'r cynnig hyn o'r awdur ifanc o Gaerdydd yn hanner cystal a'r lleill mae o wedi sgwennu, mi wna i'r amser rhywsut neu gilydd.

Mae'n hanfodol i mi gael mewn i lyfr yn y cwpl o bennodau cyntaf, neu mae 'na beryg ca i fy niflasu a cholli diddordeb. Falle canlyniad o gael ein adloniant wedi ei chyflwyno yn rhy hawdd trwy gyfrwng y teledu yw'r math o ddiogrwydd hyn, mae'n ymddangos bod 'attention span' ('hyd sylw'?) plant yn mynd yn llai ac yn llai y dyddiau 'ma. Wedi dweud hynny, does dim pwynt gwastraffu fawr o amser ar lyfr nad wyti'n mwynhau, nad yw pob lyfr at dant pawb, ac mae 'na siwr o fod nifer o gynnigion ailradd, hyd yn oed yn y Gymraeg...

Mi wna i ymdrechu i ychwanegu adolygiad bach o'r Ergyd Olaf y famma cyn bo hir.

10.11.07

Cymraeg ar y X Ffactor...!

Dwi wedi bod yn dilyn hynt a helynt Rhydian ar gyfres yr X ffactor yn bennaf gan mod i wedi ei glywed o'n siarad am ei brofiadau ar Radio Cymru ac hefyd ar Wedi 7. Heb os nag onibai mae ganddo fo lais ardderchog, ac yn ogystal â hynny personoliaeth a hunaniaeth go fawr. Teimlais dosturi drosto fo wedi ymosod annisgwyl Sharon Osbourne yn ystod y wythnosau cynnar y cyfres, ond erbyn hyn mae hyd yn oed hithau wedi canmol ei gampau lleisiol.

Yr heno 'ma gafodd Rhydian sawl clod gan y beirniaid i gyd dros ei fersiwn o 'You lift me up', ac wrth iddo fo ddweud diolch i'w gefnogwyr am ei gefnogi defnyddiwyd y Gymraeg am y tro cyntaf yn fyw ar yr X Ffactor (hyd a gwn i). "Thanks to everyone from Wales" meddai Rhyd "diolch yn fawr am ddod", chwara teg iddo fo.

Ar ran canu, does neb arall yn agos i Rhydian, ar ran y X ffactor, mae ganndo fo llwyth ohonhi, pwy arall gallai ennill?

1.11.07

Ray Gravell....

Mi ges i, fel sawl arall, fy syfrdanu y bore 'ma gan adolygiad y newyddion o farwolaeth Ray Gravell. Er does gen i fawr o gof am Ray fel chwaraewr Rygbi, buodd lais cyfarwydd i mi dros nifer o flynyddoedd o wrando ar Radio Cymru. Wedi dweud hynny, yn y dechrau cyntaf, ni allwn i ddeall llawer o'i tafodiaeth Sir Gâr, ond ges i fawr edmygedd at safon ei Gymraeg, a'r Cymreictod hawddgar, digas a sefyllodd amdanhi. Gwilias Wedi 7 y heno 'ma, lle gafodd cynnwysion i gyd y rhagle eu neilltuo er mwyn talu teyrnged emosiynol i'r dyn mawr o Fynydd y Carreg.

Dwi'n cofio cwpl o flynyddoedd yn ôl, ro'n i'n cymryd rhan mewn rhaglen 'Taro'r Post' ar Radio Cymru fel aelod y 'Fainc'. Un o'r pynciau y dydd digwydd bod i wneud â Rygbi, ac wrth rheswm un o'r cyfrannwyr ar y pwnc honno oedd Ray Gravell. Wedi ychydig o funudau o sgwrs rhwng y cyflwnydd Dylan Jones a Ray, mi ddwedais DJ 'Reit, gad i ni mynd at y fainc rwan, ac yn gyntaf Neil yng Nghilgwri, be' ydychi'n meddwl?' (neu rhywbeth felly). Sut gallwn i ychwanegu at barn am rygbi (gêm dwi'n mwynhau'n arw, ond un nid ydwi'n gwybod hanner digon amdanhi i gynnig unrhyw sylw call mewn cwmni mor enwog). Wnes i ymdopi dweud rhyw sylw cyffredinol ynglŷn â fy hoffter at gêm y pêl hirgron, ac heb faglu yn ormod dros fy ngheiriau.

Ray Gravell, cawr o ddyn sy'n gadael cawr o fwlch mewn sawl maes yng Ngymru a thu hwnt, nos da...

29.10.07

Borders am lyfrau....

Mi wibiom ni mewn i 'Borders' dydd sadwrn wedi trip i'r pictiwrs yn Cheshire Oaks (i weld 'Stardust', ffilm anturiaeth i'r teulu go dda). Pob tro dyni'n mynd i'r archfarchnad llyfrau hon, dwi'n anelu yn syth (wel ar ôl i mi mynd â'r ferch i'r adran plant) at yr adran 'ieithoedd' er mwyn gwirio allan be' sgynnon nhw ar ran dysgwr y Gymraeg (sydd fel arfer yn eitha da am siop yn Lloegr).

Y tro 'ma, mi sylwais ar gasgliad o nofelau Cymraeg hefyd! wel mi ges i dipyn o sioc i'w gweld a dweud y gwir, er mai siop gwirioneddol anferth yw hi. Dim ond tua chwech neu wyth o nofelau sydd ar gael, gan cynnwys cwpl o glasuron megis 'Cysgod y Cryman', ac ychydig o bethau cyfoes (Bethan Gwanas er enghraifft). Mi ddetholais lyfr o'r enw 'Traed Oer' gan Mari Emlyn, mae rhaid i mi gyfadde oherwydd cynllun proffesiional ei chlawr yn rhannol, ond o'r ychydig o pennodau dwi wedi darllen hyd yn hyn, dewis doeth (wel lwcus) oedd hi. Mae'r pennod gyntaf yn orffen gyda troad da yn cysylltiedig gyda rhech annisgwyl rhwng y cynfasenau...

Gobeithio'n wir felly mi fydd y nofel hon yn llenwi'r bwlch dwi'n teimlo wedi i mi orffen llyfr Fflur Dafydd, ac cyn i mi gael gafael yng nghopi o stori newydd Llwyd Owen, Yr Ergyd Olaf.

26.10.07

dynes amldalentog

Fel cantores yn unig ro'n i'n ymwybodol o waith Fflur Dafydd cyn ymweled â'r Eisteddfod eleni, ond dim mwy. Dwi ar fin gorffen llyfr Fflur Dafydd o'r enw 'Atyniad', un wnes i brynu ar faes y steddfod yn ôl ym mis awst. Yn ôl y clawr enillodd y llyfr medal rhyddiaith yn Eisteddfod 2006, ac dwi wir yn gallu deall pam rwan. Er bod dysgwyr (wel o leiaf y rhai sydd tua'r un man ar eu taith ieithyddol a finnau) siwr o fod yn colli llawer o fanylion a barddoniaith yr ysgrifen, mae'n hawdd deall mwy na hanes ydy hi, er mae'r hanes ei hun (hanes cyfoes criw o bobl sy'n rhannu tir Ynys Enlli dros haf llawn digwyddiadau am ynys mor bychan) yn llawn troeau annisgwyl a chymeriadau diddorol a diddanol. Mae'n llyfr dwi'n sicr o fynd yn ôl ati hi rhywbryd yn y dyfodol pan mai fy nghrap ar yr iaith hon yn gryfach gobeithio.

22.10.07

Yr Ergyd Olaf


Dwi newydd darllen erthygl yng nghylchgrawn 'Golwg' am lyfr newydd Llwyd Owen sydd ar fin cael ei cyhoeddi. Dwi wedi mwynhau yn arw ei ddwy llyfr gyntaf felly dwi'n methu aros i'w drydydd nofel taro'r silffoedd rhywbryd yng nghanol mis tachwedd.

21.10.07

taith cerdded


Mae'n ychydig o flynyddoedd ers iddyn ni mynd am dro i fyny Moel Famau. Dwi ddim yn gwybod pam, mae hi'n taith hyfryd iawn sy'n eich gwobrwyo gyda golygfeydd godidog ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt ar ddiwrnod braf. Er roedd yr haul yn disgleirio ddoe, ychydig yn dawchlyd (hazy?)a dyfrllyd roedd hi, ni welon ni mynyddoedd Eryri, neu eglwysi cadeiriol Lerpwl fel y disgwyl. Roedden ni'n gallu cadael y ci Layla oddi wrth ei thenyn trwy'r taith beth bynnag, a chafodd hi gyfle i chwarae gyda sawl ci arall ar hyd y ffordd, heb iddyn ni poeni llawer oherwydd diffyg defaid ar lethrau'r mynydd/bryn,

14.10.07

croeso yn ôl Cerys...


Clywais i gân Cymraeg anghyfarwydd ar y radio cwpl o wythnosau yn ôl, ond adnabyddais yn union swn unigryw llais Cerys Matthews. O'n i'n meddwl falle hen gân o rai EP gynnar Catatonia oedd yn cael ei chwarae, ond nag oedd, yn well na hynny, cân newydd sbon o'i EP Awyren=Aeroplane oedd hi. Mae'n peth da ar ran cerddoriaeth Cymraeg cael cantores mor wreiddiol a thalentog yn rhyddhau stwff yn ei mam iaeth, ac mae'n tynnu sylw at swn, ac hyd yn oed bodolaeth y Gymraeg i rai. Ar hyn o bryd mae Cerys yn gwneud y cyfweliadau arferol i hybu ei prosiect newydd, a'i dychweliad parhaol i Gymru, heddiw darllenais gyfweliad â hi yn yr Independent on Sunday lle soniodd hi yn onest am ei pherthynas cymleth gyda'r Gymraeg. Dros y flynyddoedd dwi wedi ei chlywed hi'n gwneud ambell i gyfweliad ar S4C ac ati, ac wedi rhyfeddu ar safon amrywiol ei Chymraeg, ond mi ddysgais gan yr Independent mai dysgwraig o Gaerdydd oedd ei Mam, a chafodd ei thad ei rhwystro fel plentyn rhag dysgu'r iaith, er mwyn 'symud ymlaen' yn y byd (hanes sy'n debyg iawn i'r un fy nhad i!).

Mae'n braf cael Cerys adre, ac mae'n braf clywed ei llais unigryw yn canu yn yr hen iaith unwaith eto. Dwi'n methu aros derbyn fy nghopi gan Sebon.

13.10.07

ar goll yn y Ffrainc...


Dwi wedi cyfeirio at y llyfr 'Lost in France' gan Spencer Vignes o'r blaen ar y blog hon, ond o'r diwedd dwi wedi cael gafael yn gopi ohono. Bywgraffiad un o fy hendeidiau ydy o, sef Leigh Richmond Roose, cyn golgeidwad Cymru, a nifer o glybiau mawr ei gyfnod (hynny yw dechrau'r hugeinfed canrif) a gafodd cryn dylanwad ar 'grefft' y golwr, ac ar reolau gêm y pêl crwn. Mae gen i ddidordeb teuleuol wrth cwrs, ond er hynny, llyfr difyr iawn ydy o, un sydd wedi derbyn clod nifer o adolygwyr y wasg Prydeinig erbyn hyn.

Mae teitl braidd yn 'anffodus' y llyfr (dwi'n methu cael gwared swn Bonnie Tyler yn canu ei chan o'r un enw yn fy mhen!) yn cyfeirio at y ffaith mi gafodd L.R. Roose ei golli ym maw a llaid ffosydd y rhyfel mawr, er yn ôl clawr y llyfr, mae'r awdur wedi llwyddo bwrw golau ar ddirgelwch ei ddiflaniad yn ystod ei waith ymchwil. Felly edrychaf ymlaen at ail hanner y hanes.

4.10.07

Yn dathlu Cymreictod Lerpwl

Dwi ddim cweit yn sgowser. Ces i fy ngheni ochr anghywir y dŵr i fy ngalw fy hun hynny, ond dwi'n hoff iawn o'r hen ddinas budr (Lerpwl..) sy'n pwysig dros ben i fywyd ar y penrhyn 'ma. Ces i fy niddori felly i weld y darn hon ar raglen Wedi 7 ynglŷn â dylanwad Cymry ar Lerpwl dros y canrifoedd, a'r plac newydd yn ardal Pall Mall (Little Wales) i ddathlu'r ffaith. (Symudwch y 'chwaraewr ymlaen at 18'00" er mwyn mynd at y darn am Gymry Lerpwl).

Roedd 10% o boblogaeth Lerpwl yn 1813 yn Gymry, y rhan mwyaf yn Gymry Gymraeg wrth rheswm, cysylltiad unigryw (ar ran cryfder a deaeryddiaeth) sy'n clymu Lerpwl a Chymry o hyd, ac sy'n gwneud i fi ofyn wrth fy hun pam ar wyneb y ddaear ydy cymaint o Gogs yn cefnogi Man U!! grrrrr.

22.9.07

mor hapus a mochyn yn y baw...

Dwi wrth fy modd gyda'r holl stwff Cwpan Rygbi y Byd ar S4C, er eu bod nhw'n crafu gwaelod y barel gyda ychydig o'r rhaglenni! Ond 'sdim ots am hynny, mae'r holl sgwrs wedi'r gemau a'r sylwadau di-ri gan gyn chwaraewyr yn fy ngadw fi'n hapus.

Dwi newydd gorffen gwilio recordiad o raglen heno, Tonga a De Affrig, Lloegr a Samoa, cwpl o gemau ardderchog, er mi aeth y canlyniadau y ffyrdd anghywir! Dwi'n edrych ymlaen yn arw at y gemau nesa.

19.9.07

ysgolion

Dyni'n mewn canol proses o geisio dewis ysgol uwchradd ar gyfer fy merch ar hyn o bryd, a dyni'n cael ein trîtio i bob math o adloniant a chyflwyniadau 'powerpoint' wrth i'r ysgolion cesio ein perswadio anfon Miriam i'w ysgol nhw. Mae'r holl proses yn cael ei cymhlethu oherwydd bodolaeth cyfundrefn 'detholus' yn yr ardal hon, rhywbeth sy'n hollol diarth i mi, a'r rhan mwyaf o Brydain diolch byth, ond dyma'r system sydd gynnon ni y fama. Dyni wedi cael teithiau o amgylch dwy ysgol yn barod, hynny yw'r dwy ysgol gyfun (yr hen secondary moderns), ac wythnos nesa cawsom ni y cyfle mynd o gwmpas yr ysgol gramadeg, sef 'holy grail' sawl rhieni yr ardal, a'r rheswm drostyn nhw symud i'r dref er mwyn sicrhau lle i Helena bach, pe tasai hi i basio'r 11+

Ar ôl gweld yr ysgol gramadeg, fydd Miriam yn gallu penderfynu os mae hi am gymryd prawf yr 11+, neu os fydd hi jysd yn hapus rhoi ei henw lawr am un o'r ysgolion gyfun, sy'n dod lawr i dewis rhwng ysgol cymysgedd un milltir i ffwrdd, neu ysgol i ferched tair milltir i ffwrdd. Ar un pryd mi gredaf fasai'r llywodraeth Llafur wedi rhoi'r gorau i ddetholi ar gallu academaidd erbyn hyn, ond er mae nhw wedi rhwystro ysgolion gramadeg rhag ehangu, does fawr o siawns o Lafur newydd yn gwneud penderfyniadau sy'n debyg o wylltio dosbarth canol Lloegr.

Ta waeth, gawn ni weld ar ôl yr ymweliad olaf wythnos nesaf...

4.9.07

Rhys...

Mae'n pythefnos ers gafodd y hogyn unarddeg oed o Lerpwl Rhys Jones ei saethu yn farw yn ngolau'r dydd. Mae'r heddlu wedi arestio tua un deg saith o bobl erbyn hyn, y rhan mwyaf yn eu harddegau, ond does neb wedi cael ei siarsio dros y digwyddiad trychinebus. Mae hyn yn trychineb arall, y ffaith bod neb wedi dod ymlaen i gynnig tystiolaeth yn erbyn y sgrote wnaeth cario allan y gweithred cachgiaidd. Mae'n annodd credu bod pobl yn byw mewn byd mor wahanol dim ond ychydig o filltiroedd o'r fan hyn, ond mae ofn yn arf pwerus dros ben, ac hyd yn hyn mae hi wedi bod yn effeithiol iawn yn Lerpwl.

Dwi'n cofio tua pedair flynedd yn ôl, pan o'n i'n gweithio fel tiwtor yn y Coleg yn Lerpwl, yn cymryd gwers yn y gweithdy gwaith coed, pan welais i (a'r myfyrwyr) criw yn eu hwdîs yn cerdded hebio ffenestri'r ystafell yn sbio mewn ac yn ein gwawdio. Sylwais roedd un ohonynt yn chwifio dryll (nid yn pwyntio) yn y ffenestr. Doedd dim modd gwybod tasai hi'n gŵn go iawn neu un ffug, ond cofiaf hyd heddiw y teimlad o ias lawr fy ngefn. Wnes i alw am staff diogelwch y Coleg, ond erbyn hynny wrth cwrs roedd y hŵdis hen wedi diflannu o'r safle.

Wedi dweud hynny, dwi'n dal i gredu fydd y llofrydd yn cael ei dal cyn bo hir, mae gan y mwyafrif llethol o bobl Lerpwl (fel pob man arall) cydwybod. Mae'n pryd i'r gweithred o feddiannu dryll heb trwydded yn cael ei cosbi yn llym. Os mae 'na gymaint ohonynt ar y strydoedd fel mae'r ystadegau yn awgrymu, mi fydd 'na fwy o drychinebau i ddod heb os.

1.9.07

Dinas Brân

Mi aethom ni ar daith cerdded bach heddiw o amgylch ardal Llangollen. Dechreuom ni yn maes parcio Abaty Glyn y Groes cyn anelu tuag at Castell Dinas Brân Mae'n peth amser ers ro'n i yn yr hen gastell Gymreig, ac roeddwn i wedi anghofio pa mor wych yw'r golygfeydd godidog o'r bryn lle mae'r adfeilion yn sefyll. Mae llethrau siapus Moel Morfydd yn gorchmynu eich sylw ar hyd y taith hon, ac mae'n edrych llawer yn fwy nag ei 1500 o droedfedd, mae'n rhaid i ni wneud yr ymdrech rhywbryd i'w dringo.

Ar ôl cerdded lawr o'r Castell i dref Llangollen, ymunom ni â'r torfeydd yn anelu at yr ŵyl balŵns a'r ffair ar faes yr Eistefffod Rhyngwladol. Yn anffodus doedd dim balŵns yn hedfan heddiw oherwydd y gwyntoedd, ar wahan i'r rhai bach llawn hîliwm fel rhan o rai gystadleueth. Cerddom ni ar hyd llwybyr y camlas i westy'r 'Chain Bridge', cyn troi'n ôl i fyny'r Oer Nant a'r hen Abaty. Dim ond taith o rai chwech milltir oedd hi, ond un da, ac un sydd wedi fy atgofio am wychder mynyddoedd y Gogledd.

21.8.07

Llyfrau'r haf...

Rhaid i mi roi mensh fach i gwpl o lyfrau dwi wedi bod wrthi'n darllen dros yr haf. Y cyntaf 'Gwilliaid Glyndŵr' gan Daniel Davies, dwi newydd gorffen, a wnes i fwynhau hanes y criw o genedlaetholwyr a aeth ati i ddwyn llythyr Pennal o'r Llyfrgell Genedlaethol yn arw, rhywbeth a gafodd ei adlywyrchu trwy fi'n gorffen y llyfr mewn ychydig o ddyddiau. Mae gan y hanes sawl troad, ychydig yn eitha amlwg, ond eraill yn annisgwiliadwy. Dwi am fynd ati i ddarllen mwy gan yr un awdur heb os.

Ces i fy siomi tipyn bach gan 'Brithyll' (Dewi Prysor). Wedi ychydig o ymgeisiau i gael mewn i hanes cymeriadau anhygoel pentre 'Craig', llwyddais a ches i fy nhynnu mewn. Ond collodd y stori ei gwynt rhywle ar hyd y ffordd, a ches i fy nhiflasu yn y pen draw gan yr holl disgrifiadau fanwl y campau yfed a chymryd cyffuriau yr hogiau. Gormod o fanylu heb digon o stori i dal fy nhiddordeb yn llwyr yn anffodus, ond wedi dweud hynny chwerthais yn uchel sawl gwaith, ac yn enwedig yn ystod y golygfa lle mae gwraig 'Tulip' yn chwythu ffwrdd cwpl o'r hogiau yn ardd y dafarn.

Dwi wedi symud ymlaen i lyfr Fflur Dafydd a enillodd medal 'rhyddiaith' Steddfod 06 sef 'Atyniad'. Mae'n fel symud ymlaen cwpl o gêrs a dweud y gwir ar ran cywirdeb y Gymraeg, felly her go iawn i finnau. Rhaid i mi grybwyll hefyd y llyfr 'Tywysogion' ges i fel anrheg penblwydd y wythnos diwetha, clamp o lyfr a gafodd ei gyhoeddi i gydfynd a'r cyfres S4C o'r un enw. Dwi'n mwynhau ambell i flas o hanes Cymru yr oesoedd canol gan y llyfr swmpus 'bwrdd coffi' hwn.

15.8.07

Eisteddfod

Wel, mae 'Eisteddfod Sir Fflint a'r cyffiniau' wedi dod a wedi mynd! Ces i ychydig o brofiadau gwahanol o'r gwyl, o sgwennu stori i blant mewn gweithdy ym mhabell Coleg y Drindod gyda Caryl Lewis, awdures o fri, i stiwardio yn ystod rhagbrofion 'unawd offer pren dan ddeunaw oed mewn 'Pagoda' bron yn wag.

Gallwn i sgwennu llawer am fy amser yn y steddfod, ond dweud y gwir dwi'n teimlo mor flinedig ar hyn o bryd, prin ydwi'n gallu bŵtio fyny'r hen gyfrifiadur i wneud dim byd ar wahan i bethau ymwneud a'r gwaith.

Dydd sadwrn mi aethon ni yn ôl, fy 'ngwraig, fy merch a finnau, er mwyn iddyn nhw cael blas bach o'r Maes a'r awyrgylch arbennig yna. Ro'n i'n ar y ffordd i ryw canolfan garddio/meithrinfa planhygion ar hyd y A540 tuag at Caer pan awgrymais fynd i'r Eisteddfod yn ei lle, am fod y lle garddio'n mynd i fodoli am byth!! Do'n i ddim eisiau gor-adeiladu'r peth, rhag ofn iddyn nhw cael eu siomi'n arw, felly dwedais am yr awyrgylch unigryw a'r cyfle i eistedd yn yr haul yn yfed cwrw neu seidr tra gwrando ar gerddoriaeth fyw. Crybwylliais hefyd y trampolîns, wal dringo a peiriant ymarfer syrffio er mwyn tynnu sylw fy merch!

Wel cawsom nhw ddim eu siomi. Mi wnath y merch mwynhau'r pethau o'n i'n meddwl mi fasai hi'n mwynhau, yn ogystal â'r pabell gwyddoniaeth a thecnoleg, a mwynheuodd Jill y LLe Celf a'r awyrgylch cerddorol ac wrth cwrs y cwrw.

Siwr o fod wna i sgwennu mwy amdanhi cyn bo hir ond am y tro, hwyl fawr.

5.7.07

sesiwn da....

Wnes i fynychu'r sesiwn sgwrs arferol yn nhafarn y Castell Rhuthun neithiwr, ond ces i syndod braf i weld bwrdd llond o bobl (wel o'r gorau, bwrdd cymharol bach oedd hi!), ond ta waeth criw go dda gan cynwys Aled o Fenter Iaith sydd wedi cael ei drosglwyddo i sesiwn Yr Wyddgrug wedi i sesiwn Bagillt dod i ben ar ol ychydig o flynyddoedd o fynd ar ei lawr ar rhan niferoedd. Dwi'n hoffi Aled, mi wnath o wneud lot i fy helpu fi yn ystod fy nyddiau gynnar yn mynychu sesiynau sgwrs. Yn ogystal ag Aled, roedd Scott, un o bedwar olaf cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn eleni yna. Braf cael dysgwr mor lwyddiannus yn ein plith, dim ond un ar hugain ydy o, ond mae ei Gymraeg yn swnio yn hollol naturiol, dwi'n ei ddymuno pob lwc yn y cystadleuaeth, ac yn edrych ymlaen at dysgu mwy amdano fo pan *ceith* y rhaglen am y pedwar olaf ei ddarledu ar ol yr Eisteddfod. Cawsom ni ein ymuno gan Les Barker hefyd, bardd o fri o Fanceinion yn wreiddiol dwi 'di cael y pleser o gyfarfod o flaen. Newydd dychweled o daith o America a Canada ydy o, ac yn darparu cwpl o ddarnau yn ei ddull unigryw ar gyfer yr Eisteddfod. Felly gyda fi a'r 'drwgdybwyr arferol', hynny yw Alaw a John, roedd hi'n criw go dda a sgwrs amrhywiol dros ben.

23.6.07

pecyn bach

Dwi wedi son am y ffaith mod i'n gwrandawr cyson radio Cymru sawl gwaith siwr o fod. Mae'n debyg mod i wedi crybwyll hefyd am y ffaith nad ydy hi rhy galed ennill gwobr bach trwy cystadlu yng nghystadleuthau y gwasannaeth genedlaethol (wel ar wahan i gystadleuaeth y 'brawddeg' ar raglen Jonsi lle mae 'na bres mawr ar gael). Er bod yr orsaf yn tenu gynulleidfaoedd go dda (fel canran o'r cynulleida sydd ar gael), mae'n amlwg dim ond criw cymharol bach sy'n ddigon drist i dreulio eu hamser yn mynd ar ol y pethau bach. Pwrpas y cystadleuthau 'hwylus' yma tybiwn i, yw i greu rhyw deimlad cymunedol i'r gwasanaeth, ac yn yr ystyr hon mae nhw yn lwyddo, yn ogystal a chael wared i rai o'r pentyrau o stwff 'hyrwoddol' sy'n siwr o fod eu cyrraedd. Dwi'n meddwl mod i'n crwydro rwan, felly er mwyn cwtogi'r post hon, ga i ddweud mod i'n edrych ymlaen at dderbyn pecyn bach yn ystod y wythnos gan sioe Dylan a meinir am ddarparu cliw wnath galluogi Dylan i ddyfalu 'beth sy' yn y bocs', sef 'gloch'. Tecstiais 'ti'n son am hyn pob tro ti'n dweud yr amser'. Tra roedd Meinir druan yn darllen y cliw, dyna hi'n ceisio dweud y peth mewn ffordd sy'n gwneud mwy o synnwyr yn y Gymraeg, rhywbeth felly 'pan ti'n sbio ar dy oriawr ti'n son am hon'. Doedd gan Dylan dim clem nes bod hi'n darllen y cliw yn y ffordd gwarthus o'n i wedi ei sgwennu, wedyn dyfalodd yn syth!

Ta waeth, edrychaf ymlaen at pecyn bach yn cyrraedd yn ystod y wythnos rwanCD newydd Siwci Bocsawen gobeithio neu EP Al Lewis, gawn i weld.

19.6.07

rhaglen Maes-D

Mi es i i gyfafod pwyllgor y dysgwyr neithiwr a mi wnath hi barhau am ddim mwy nag awr a hanner.. dipyn o record dwedwn i.

Mae'r rhaglen wedi mynd i'r wasg erbyn hyn felly fydd 'na ddim newidiadau mawr, ac a dweud y gwir mae 'na ddigon o amrywiaeth yna i blesio pawb i ryw gradd. Gobeithiaf fydd hi wythnos i gofio, efo cymeriadau mor wahanol a Glyn Wise a'r prif copyn ei hun Mr Brunstrom yn ymweled a^ Maes-d. Mae gan pabell y dysgwyr enw dros gweinyddu panaid am ddim (wel am gyfranaid o dy ddewis dy!), felly maae'n gwerth gwneud ymdrech ymweled a^'r lle. Does dim byd gwell i ddysgwyr na cael Cymru Cymraeg i sgwrsio gyda nhw, yn enwedig mewn awyrgylch lle nad ydy'n nhw yn debygol o droi yn syth yn ol i Saesneg wedi i'r arwydd cyntaf o anhawsterau!!

Mae dim ond un pwyllgor arall rwan cyn dechreuad y gwyl, felly dwi'n dechrau disgwyl ymlaen i'r hwyl...

13.6.07

protest dydd gwener...



Ga i ddymuno pob lwc i unrhywun sy'n mynd i fynychu'r protest hon tu allan 'Thomas Cook' dydd gwener.

12.6.07

Cwyn..

Dyma'r e-bost a sgwennais at Thomas Cook ddoe, un ymhlith nifer mawr gobeithiaf! Ymddiheuriadau dros y Gymraeg 'pell o berffaith', ond mae'n llawer gwell na'r Gymraeg defnyddiodd Thomas Cook Bangor ar ddatganiad dwyieithog yn eu ffenest nhw. Mae'n ymddangos erbyn hyn bod y cwmni'n trio cyfyngu'r niwed i'w enw yng Nghymru, a bydd 'na trafodaethau gyda Bwrdd yr Iaith a Fwrdd cydraddoldeb hiliol yn y dyddiau i ddod. Gobeithiaf bydd y pennod 'ma wedi codi ymwybyddiaeth ynglyn a^'r triniaeth gwarthus mae'r iaith yn cael pob dydd gan rhai cwmniau:

Dear/Annwyl Thomas Cook Ltd/Cyf,

As a customer of your company and a speaker of the Welsh language, I was very suprised to hear of your recent statement regarding the use of the Welsh language in your shops in Wales. Welsh is an official language of Wales, and I would have thought it perfectly natural for people in that country to go about their business in their own mother tongue if they so wish, especially in areas like Gwynedd where the majority are Welsh speakers. Welsh speakers are well used to turning to English where there are non-Welsh speakers involved in the conversation, but to talk English to some people, especially on a one to one basis would feel totally unatural to me. It seems to me that 'Thomas Cook' has shown a lack of understanding and sensitivity to another culture in this case, something I sincerely hope is not reflected in your operations overseas, and which you will seek to rectify very quickly.

I am afraid I will not be using your services again until this policy is reversed.

Fel Cymro Cymraeg a chwsmer eich cwmni, ces i syndod mawr i glywed am eich datganiad diweddar ynglyn a^'r defnydd o'r iaith Cymraeg yn eich siopau yng Nghymru. Iaith swyddogol Cymru yw'r Gymraeg, a baswn i wedi meddwl ei bod hi'n perffaith naturiol i ddisgwyl pobl y wlad hon i wneud eu gwaith yn eu mamiaith, pe tasen nhw'n dymuno, yn enwedig mewn ardaloedd megis Gwynedd lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg. Mae siaradwyr Cymraeg wedi hen arfer i droi at y saesneg lle bydd di-Gymraeg yn eu plith, ond fe fasai siarad Saesneg wrth rhai pobl, yn enwedig mewn sefyllfa un i un, yn teimlo yn hollol annaturiol i fi. Mae'n ymddangos bod 'Thomas Cook' wedi dangos diffyg dealltwriaeth a sensatifrwydd tuag at diwylliant gwahanol yn yr achos hon, rhywbeth sydd ddim, dwi wir yn gobeithio, yn cael ei adlewyrchu yn eich gweithgareddau tramor, ac fyddech chi'n mynd ati i gywiro yn gyflym iawn.

Mae gen i ofn, na fydda i'n defnyddio eich gwasanaethau eto, nes bod eich polisi'n cael ei troi ar ei phen.

Neil Wyn Jones, Liverpool

10.6.07

Thomas Crook

Tynodd Carwyn Edwards fy sylw (a sawl arall ar restri Cymraeg) at hanes hon am asiantaeth teithio 'Thomas Cook' a'u polisi iaith nhw.

by Matt Withers, Wales On Sunday


TRAVEL agent giant Thomas Cook was last night warned it could face a race
probe after banning its staff from speaking Welsh at work.

The Commission for Racial Equality says the high street chain may be in
breach of race relation laws after the manageress of its store in Bangor
told workers they were no longer to speak the language to each other.

The firm has confirmed the nationwide ban and says it ensures "clear
communication" among its staff. But it now faces a possibility of an
investigation, as well as protests from pressure groups who have accused the
company of "disgraceful" behaviour.

The policy emerged last week when the manageress of the store in Gwynedd,
who does not speak Welsh, told staff they must converse in English with each
other.

Ironically, staff at the store in the strongly Welsh-speaking city had only
recently started wearing badges provided by the Welsh Language Board to show
customers they spoke both languages.

Nobody at the store itself was willing to comment yesterday.


But a statement from the company said: "Thomas Cook requests that all staff
speak English when discussing work-related matters in the work place. This
ensures clear communication at all times and is respectful to team members
who do not speak other languages.


"Thomas Cook employs staff from many cultural backgrounds, therefore the
company appreciates its staff may want to talk to colleagues in other
languages for anything that is non business-related."


But Chris Myant, Director of the CRE in Wales, warned the move might break
the law.


"I think they need to think very, very carefully about this," he said.


"It's quite possible it might be in conflict with the Race Relations Act. It
is an area where there isn't a great deal of cases that have gone to the
courts, but the courts have said in some cases it's unreasonable what the
employer is asking, because it clearly is possible for a company to function
perfectly well where the employees speak to each other in Welsh.


"And where a company functions well there is no reasonable right for an
employer to stop them speaking any other language. It sounds as if Thomas
Cook could be at risk of one of its employees taking it to an employment
tribunal."


Language campaigners have reacted with fury to the policy.


Hywel Griffiths, chair of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, said the company's
actions were unacceptable.


He said: "It's absolutely disgraceful. What does come out of this strongly
is that this would never have happened had a new Welsh Language Act had been
introduced.


"We would imagine, in Bangor, that a lot of their customers are
Welsh-speakers and a lot of their employees are Welshspeakers. "


Aran Jones, chief executive of Cymuned, accused the company of "idiotic
hypocrisy".


He said: "Thomas Cook are lovely people when they're talking about how their
tourism doesn't destroy the lives of Indonesian tribespeople, but not when
they're telling Welsh people they're not allowed to speak their own
language."

There would definitely be some form of protest against the company, he said.
Mae'r ffaith bod cwmniau megis Thomas Cook yn meddwl eu bod nhw yn gallu
gwaharth eu gweithwyr rhag siarad eu mamiaith yn y gweithle yng Nghymru
(iaith swyddogol y wlad) yn dangos gwendid sylfaenol yn y cyfundrefn
presenol. Os nad oes hawl i Gymry Cymraeg defnyddio eu hiaith yn eu
gweithgareddau dydd i dydd, pa mor wag yw'r holl son gan y Cynulliad am
'Gymru dwyieithog'?

Dychmygwch y sefyllfa, tasai rhai cwsmer i gerdded i mewn i Thomas Cook ym Mhangor a dechrau sgwrs Cymraeg gyda Cymro/Cymraes Cymraeg tu cefn i'r desg, a dyna'r rheolwraig yn dod drosodd er mwyn eu gorchymu i siarad Saesneg,(falle dwi'n bod yn eitha diniwed yma, hynny yw mae'n digon tebyg bod sefyllfeydd megis hon yn digwydd reit aml mewn sawl gweithle), ond dyni'n son am ardal lle mae'r mwyafrif yn defnyddio'r iaith fel modd o gyfathrebu pob dydd.

Dwi wedi cael fy ngwylltio, ac mae'n debyg fydd na e-bost ar y ffordd i Thomas Crook cyn diwedd y nos..

7.6.07

Rhamantiaid newydd



Cafodd y llun hon ei dynnu tua chwater canrif yn ol gan 'ngwraig yn Lerpwl. Pryd hynny roedd jill yn astudio lefel 'A' yn ffotograffiaeth yn y Coleg ac mi aeth hi ati i grwydro strydoedd y dinas er mwyn dod o hyd i bobl sydd yn fodlon 'bwrw ystum' ar ei gyfer hi.

Dwi'n dangos y llun o'r 'Rhamantiaid newydd' 'ma gan mod i newydd derbyn print mawr ohonhi ar ganfas, sydd erbyn hyn yn hongian ar wal y lolfa. Wnes i sganio yr argraff gwreiddiol cyn ei yrru hi at rhai cwmni bach yn Swydd Derby (mae 'na lwythi ohnynt yn cynnig y fath 'ma o wasanaeth) hynny yw sy'n troi eich 'delweddau' digdol chi i luniau ar ganfas. Mae'r cyfrwng canfas yn addas iawn i luniau digidol gan bod y canfas yn lleihau'r tueddiad i'r picsels ymddangos. Ta waeth, gyrrais i fy jpeg nos fawrdd, ac ar fore iau roedd y print canfas 60 x 40cm yn addurno wal y lolfa.. gwasanaeth bendigedig 'swn i'n dweud, am swm ychydig yn llai na £30

5.6.07

Elementary Welsh for Schools & Private Students 1891



Mi ddes i o hyd i hen lyfr heddiw, un mi ges i nifer o flynyddoedd yn ol (cyn i mi ddechrau dysgu'r iaith 'ma o ddifri) pan oedd fy Mam yn clirio allan ty Nain a Thaid. A dweud y gwir wrthoch chi, dwi heb edrych arnynt ers hynny, ond tynodd un fy sylw yr heno 'ma pan o'n i'n chwilio am lyfr arall. Mi gafodd "Elementary Welsh for Schools & Private Students" ei cyhoeddi yn 1891 ar gyfer 'The Society for Utilizing the Welsh Language' (rhywfath o Fenter Iaith y nawfed ar ddeg ganrif efallai?), a chostiodd y cyfrol 'Ninepence', yn yr hen arian wrth cwrs, rhai 4.5p!

Un darn diddorol dros ben yw'r 'cyflwyniad', sy'n son am y pwerau newydd eu rhoi i ysgolion yng Nghymru. Mae nhw yn cynnwys yr hawl i ddysgu Cymraeg fel pwnc gwahanol, yr hawl i ddysgu hanes Cymru, ac os ga i dyfynu "In every standard and for every subject, bilingual reading books may be used, teaching Welsh and English reading side by side". Felly mae'n ymddangos a gafodd y llyfr bach hwn ei gyhoeddi mewn cyfnod chwyldroadol i addysg yng Nghymru, er cymerodd dros 60 mwy o flynyddoedd cyn sefydlwyd yr ysgol cyfrwng Cymraeg cyntaf.

Peth arall o ddidordeb yw'r cyfieithiadau o 'ti', hynny yw'r 'you' anffurfiol neu sengl, sy'n cael ei cyfiethu i 'thou' e.e.

Yr oeddit yn cael dy ddysgu - thou wast taught

Yr wyt yn cael dy ddysgu - thou art taught.



Wrth cwrs mae 'thou' hen wedi diflannu o'r Saesneg, (ar wahan i ambell i dafodiaeth Swydd Efrog) ond ar wahan i hynny mae popeth yn dealladwy. Dwi'n cofio fy Nhaid yn son am ddysgu Cymraeg i ei hun yn ei arddegau er mwyn deall be' oedd yn mynd ymlaen yn y Capel (cafodd ei eni a'i fagu ym Mhenbedw, Lloegr), felly efallai roedd hyn un o'r llyfrau a brynodd o er mwyn mynd ati? pwy a wir...

2.6.07

daroganau'r gaurdian

Sylwais colofn bach yn adran chwaraeon y Gaurdian heddiw sef 'what will happen this week', lle mae'r papur a rhyw gwestai yn datgan eu daragonau am ychydig o ddigwyddiadau y penwythnos. Bruce 'Y Jam' Foxton yw gwestai y wythnos hon, a wnath o broffwydo colli o 0-2 basai Cymru! Diolch byth roedd y dau daragonau o'i le... Daragonodd y Gaurdian colled hefyd ond 1-3. Gobeithio bod nhw yn anghywir hefyd am broffwydaeth dros Lloegr v Estonia, sy'n yn ol y colofn tipyn o 'walkover' cyn y chwiban cyntaf!

28.5.07

Rhagfarn?

Dwi ddim y math o berson i wthio fy marnau lawr corn gwddf unrhywun, gobeithio! Ond taswn i i glywed rhywbeth o'n i'n anghytuno gyda hi'n gryf, barnau hollol rhagfarnllyd, dwi'n gobeithio faswn i'n dweud rhywbeth. Falle dwi'n mwy sensatif iddi ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg, ond mae'n syndod sut gymaint o sylwadau gwrth-Gymreig a gwrth-Gymraeg dwi'n clywed yn ystod fy mywyd o ddydd i ddydd.

Dwi'n cofio amser maith yn ol bod mewn tafarn gyda grwp o 'gyfeillion', a dyna un ohonynt, boi sy newydd symud i'r ardal, yn dweud rhywbeth fel 'I was tuning in the radio and I heard a radio station in Welsh!', digon teg, cafodd o syndod i glywed rhywbeth o'r fath, ond yr hyn wnath fy ngwylltio i roedd ymateb 'ffrind' arall, sef 'I hate it'! Nid roedd yr iaith jysd yn mynd ar ei nerfau tra geisio tiwnio mewn i radio 4 ambell i waith, nac oedd, roedd ganndo fo casineb pur at yr iaith Cymraeg. Dyni'n son y fama am ddarllenwr cyson y Gaurdian, darlithydd yn y celfyddydau mewn coleg lleol. Ro'n i'n hollo mud, sgen i ddim gair. Sdim rhaid i fi ddweud wrthot ti dwi ddim yn gweld llawer ohono rwan.

Dros y penwythnos mi es i i barti a chwrddais a^ dynes o De Gymru yn wreiddiol. Mi grybwyllodd Jill (fy ngwraig) y ffaith mod i wedi bod wrthi'n dysgu Cymraeg ers sbel a dwedodd y dynes doedd neb yng Nghaerdydd yn siarad Cymraeg, ond chwarae teg iddi, roedd hi'n falch i weld llawer mwy o arwyddion dwyieithog ar strydoedd y prifddinas erbyn hyn. "I'm bloody not" ebychodd ei phartner (miliynydd lleol sy'n ffrind o ffrind fel petai, dipyn bach o goc oen a dweud y gwir), "Every other bloody country in Europe just has 'STOP' written on the road except bloody Wales where they have to have the bloody Welsh as well". Wel dwi ddim yn sicr, ond o'r hyn dwi'n cofio does dim ond y gair STOP yng Nghymru hefyd, gan bod y gair STOP yn rhan o'r Gymraeg erbyn hyn! (cywirwch os gwelwch yn dda os nad ydwi'n iawn). Ychydig yn nes ymlaen roedd yr un un boi yn son am ei chwaer 'Olwen', a ffeindiais i fy hun yn dweud, "that's a good Welsh name, the same as my mums", "O yes" meddai fo "and I'm Dafydd Glyn James", ond wrth cwrs mae pawb yn ei alw David! Doeddwn i ddim yn gwybod a ddylwn i chwerthin neu wylo, ond erbyn hynny roedd y jo^cs ofnadwy roedd o'n mynnu dweud wrth unrhywun gyda clyw'n mynd reit ar fy mronnau, felly wnaethom ni ein esgusodion i adael.

27.5.07

Sir Caer yn ehangu ei ffiniau?



Mae'n ymddangos bod Sir Caer wedi ehangu ei ffiniau yn ol cyfrol diwethara 'Bywyd Sir Caer'. Mae sawl aelod y 'Cheshire Set' hen wedi sefydlu yng Ngefn gwlad y Gogledd wrth cwrs, ond erbyn hyn mae'n ymddangos eu bod nhw eisio gwrthod bod nhw'n byw yng Ngymru o gwbl...

26.5.07

tyfiant y tyrbeins...




Dyma cwpl o luniau wedi ei tynnu o'r bryn bach uwchben ein stryd ni yr heno 'ma. Mae un llun yn dangos tyrrau'r felinau gwynt yn cael eu hadaeladu yn Noc Mostyn cyn iddyn nhw cael eu cludo i'r Burbo Bank yng nghanol bae Mersi, ac mae'r llall yn eu dangos nhw yn cael eu gosod yn y mor. Mae maint y pethau yn rhywbeth anhygoel, dyni'n sbio arnynt o bellter o rai chwech milltir (yn y dau llun), ond yn y mor mae nhw yn edrych llawer agosach na hynny. Yn ol Dong Energy sy'n cyfrifol am y datblygiad yn dweud fydd pob un o'r pump ar hugain o dyrbeins yn fwy na 135m tal, efo sban y llafnau yn fwy na 100m, mae hon yn ystadegau syfrdanol, sy'n gwneud y tyrbeins gwynt ger Prestatyn yn edrych fel teganau!

weithiau...

Weithiau dwi'n teimlo reit lletchwith. Fedra i ddim esbonio pam, teimlad ydy hi sy'n dechrau rhywle'n ddwfn tu mewn i fi, ac sy'n ymddangos i ledu trwy pob cell o fy nghorff nes iddi hi ddiflannu yn hwyr neu yn hwyrach. Efallai mod i'n lwcus achos nad ydy'r teimlad yn parhau am gyfnod hir fel arfer, diwrnod neu ddwy efallai, ond mae'n gallu fy ngwneud i deimlo reit cachlyd beth bynnag. Elfen bach o rhywfath o iselder sy'n debyg o effeithio rhan sylweddol ohonynt yn ystod ein bywydau ydy hi, ond rhywbeth dwi wedi dod yn cyfarwydd gyda hi dros y flynyddoedd ac i'w rheoli, heb cyffuriau! (wel onibai alcohol..). Y peth sy'n fy gwylltio am y teimlad hon, yw'r ffaith bod hi'n gwneud i fi teimlo andros o swil a lletchwith hefyd ( fel arfer fedra i reoli fy swilder naturiol a thorri trwyddi, ond weithiau 'loneliness is a crowded room' fel a dwedodd y bardd), ac ar achlysur arall mi faswn i'n wrth fy modd yn yr un un cwmni. Felly i dorri stori hir yn fyr, o'n i'n teimlo fatha hon (cachlyd) pan aethon ni (Fi a Jill 'ngwraig) i weld cynhyrchiad 'Llwyfan Gogledd Cymru' o 'Branwen', drama tairieithog (gyda is-deitlau wedi eu prosiectio ar lwyfan).
Cynhyrchiad da oedd hi, efallai ychydig yn dryslyd o bryd i'w gilydd ar ran amseriad digwyddiadau ar y llwyfan (roedden nhw'n defnyddio newidiadau bach i'r goleuadau, falle rhy fach, i nodi newid cyfnod), ond ta waeth sioe da a difyr.

Mae'r holl peth yn gadael i fi deimlo andros o flin gan mod i ddim wedi fanteisio ar gyfle i gymdeithasu gyda pobl reit cyfeillgar. Sdim ots, mae'n diwrnod newydd, ac dwi ddim yn berson i adael i bethau aros yn fy meddwl am amser hir (sut fasech chi'n dweud 'dwell on something' yn y gymraeg?), roedd hi'n braf gweld cynulleidafa gweddol da yn theatr Clwyd yn mwynhau sioe gwreiddiol.

g.ll. ymddiheuriadau dros y camau niferol yn y pst hwn, mae'r cyfrifiadur yn methu gadael i mi newid pethau heb dileu y geiriau cynt os ti'n deall be 'sgen i)


mwya ohonynt yn ystod ein bywydau ydh hi

22.5.07

Blogio, Ar y Bocs..

Ro'n i'n mynd trwy fy nghopi o'r cylchgrawn Golwg y heno 'ma pan sylwais i ar colofn adolygiadol 'Ar y Bocs' (gan Catrin Dafydd y wythnos hon). Cafodd yr holl colofn ei ymroddi i raglen 'O flaen dy lygaid', ac yn enwedig i brofiadau ein cyfeillion ni o'r Unol Daliethau sef Chris a Rachel Cope. Dwi ddim yn meddwl mod i wedi crybwyll y rhaglen yma o'r blaen, ond mi gafodd y byd bach o flogio Cymraeg sylw gwerthfawr yn ystod y rhaglen, ac roedd hi'n profiad rhyfedd i weld darnau o'r fidioflogiau mod i'n cyfarwydd efo nhw o'r fan'ma ar y sgrin fawr!

Dwi'n gobeithio bod Chris a Rachel wedi troi cornel erbyn hyn, ac eu bod nhw'n gallu teimlo'r un fath o groeso yn y Gymru go iawn ag y teimlodd Chris yn y Cymru 'dychmygol' ar y we!!

21.5.07

O Drelawnyd i Sandycroft...

Mae'n braf cael clywed bod ape^l Eisteddfod 07 yn Sir y Fflint wedi cyrraedd ei nod (tua £210,000 dwi'n credu) yn barod, ac hynny cwpl o fisoedd cyn agoriad y prifwyl. Pan ystyried y llwyddiant 'ma, mae'n pwysig i gofio hefyd dyni'n son am ardal lle gafodd 60% y poblogaeth eu geni tu allan i'r fro, y rhan mwyaf yn Lloegr. Heb tapio mewn i ryw gradd i'r di-Gymraeg (a dysgwyr wrth rheswm) yr ardal, mae'n bur debyg na fasai'r pwyllgor ape^l wedi llwyddo mor gyflym.

Yn son am y steddfod, mi ges i fy nheffro i lais cyfarwydd a y radio y bore 'ma, hynny yw boi o'r enw Carl Renshaw sy'n tarddu o Fagillt, dim ond ychydig o filltiroedd dros yr aber o fan'ma. Ro'n i'n arfer cwrdd a^ fo pan o'n i'n mynd i'r sesiynau sgwrs yn y Llonguchaf cwpl o flynyddoedd yn ol. Dysgodd o ei Gymraeg gan ei Nain a Thaid a hen bobl y pentre, sy'n golygu fod o'n siarad tafodiaeth go iawn yr ardal (prin iawn erbyn hyn). Hogyn glen iawn ydy o a dysgais i lawer ohono fo am sut i gadw y proses o ddysgu yn weddol syml. O'r hyn dwi'n credu mae criw o ddysgwyr yn y Llonguchaf (nid 'pun' bwriadol!) yn dal ati pob nos fawrdd efo Aled o Fenter Iaith. Roedd Carl ymhlith tua naw deg o bobl sydd wedi bod wrthi'n cerdded o amgylch Sir y Fflint, o Drelawnyd i Sandycroft a Chefn y Bedd i Fagillt, er mwyn codi pres i'r prifwyl ac ymwybodaeth amdanhi.

20.5.07

Tyrau'r twrbeins yn gwneud eu mordaith

Mi welsom ni un o dwrau y twrbeins gwynt enfawr (sy'n cael eu hadeladau ar hyn o bryd yn Nhoc Mostyn, Sir y Fflint), yn cael ei cludo allan o aber yr Afon Dyfrdwy ar fwrdd rhywfath o ysgraff mawr y prynhnawn 'ma. Yn ol pob son, strwythyrau tua'r un uchder a^ Twr Blackpool ydyn nhw (tua 150m), a fydd 'na chwater cant ohonynt yn fferm wynt North Hoyle! Dwi wedi bod yn gwylio'r strwythyrau anhygoel, sy'n edrych tua hanner uchder y bryniau tu cefn iddynt o fan'ma, yn tyfu dros nifer o wythnosau rwan. I ddechrau ro'n i ddim yn sicr be'ar wyneb y ddaer oedden nhw, ond mi ddaeth popeth yn glir ar ol cipolwg trwy'r ysbienddrych. Gobeithiaf mae gen i'r camera'r tro nesaf a galla i bostio lluniau yma.

16.5.07

Joio Jarman...

Pob nos fercher fel arfer dwi'n ffeindio fy hun yn teithio adre o'r Wyddgrug mewn cwmni Radio Cymru. Wedi holl cyffro y siwrnai allan i gyfeliant Glyn Wise (efo Dafydd Du yn trio ei rhwystro fo rhag mynd dros ben llestri, dim gobaith!) mae'r taith adre yn cael ei amseru yn perffaith er mwyn mwynhau dewis cerddoriath diddorol Geraint Jarman. Dwn i ddim pwy sydd yn gwneud y penderfyniadau ynglyn a^ phethau felly, ond dewis gwych oedd hi i gael Jarman yn gwneud ei stwff fel hyn yn ystod y nos.

13.5.07

un diwrnod yn y gwanwyn...

Dechreuodd y diwrnod tua hanner wedi chwech gyda fy merch ar 'gwmwl naw' yn ein deffro ni llawn cyffro gan ei phenblwydd deg oed oedd hi. O fewn eiliadau roedd y'Nintendo DS lite' (roedd hi wedi bod yn disgwyl amdanhi hi ers y dolig) wedi ei dadlapio a dyna fi'n ceisio i'w helpu gweithio allan 'Nintendogs' trwy llygaid llawn cwsg. Wedi panaid o 'goffi du' (mae' na ga^n yna rhywle 'does..) gryf, roedd fy myd yn edrych yn glirach o lawer ond cafodd y niwl pen bore ei disodli efo'r realaeth o'r hyn oedd yn hefyd o fy mlaen yn ystod y dydd... sef rhagbrawf 'Dysgwr y Flwyddyn'. 'Popeth yn iawn', meddyliais, roedd gen i gwpl o oriau i ddarparu fy hun, cael brecwast ac ati. Ond naddo, o'n i ddim wedi cyfri ar y ci bach yn mynd yn sal. Nid oedd Layla (y milgi fach naw mis oed) yn gallu sefyll yn anffodus. Doedden ni ddim yn sicr be oedd o'i le, ond roedd un peth yn sicr, roedd rhaid iddi ni mynd a^ hi i weld y milfeddyg cyn gynted a^ phosib. Ffoniais i'r 'meddygfa' a chynnigon nhw apwyntment am chwater i ddeuddeg. Roedd fy nghyfweliad 'dysgwr y flwyddyn' am 11.20 felly gan does dim ond un car gynnon ni roedd rhaid i mi geisio newid amseriad y peth. Ffoniais i David Jones, Swyddog Dysgwyr yr Eisteddfod a chwarae teg iddo fo, nid gallai fo wedi bod o fwy o gymhorth. Esboniais y sefyllfa a dwedaist wrthi fi i beidio poeni amdanhi a jysd i drio troi i fyny pan y gallwn i.

Wel ar ol arhosiad eitha hir yn ystafell aros y milfeddygion mi welsom ni'r milfeddyg 'argyfwng' a chymerodd hi brawf gwaed er mwyn rheoli allan haent o'r 'pancreas'(rhywbeth eitha difrifol i gwn yn ol pob son). Roedd Layla'n gwell o lawer erbyn hyn (nodweddiadol!) felly penderfynais mynd fel teulu (gan cynnwys y ci) yn syth at Coleg Glannau Dyfrdwy i'r rhagbrofion oedd yn dod i ben erbyn hynny. Ffoniais i ddweud wrth David roedden ni'n gadael ac i'n disgwyl mewn rhai hanner awr. Erbyn iddyn ni gyrraedd y Coleg mi welais David ac Alaw (Menter Iaith) yn y cyntedd ac ar ol dweud hylo sydyn iawn wrthyn nhw dyma fi'n cael fy arwain yn syth i'r beirniaid, a Jill a Miriam yn mynd i ystafell arall lle roedd adloniant a diodydd ar agel i weddill y cystadleuwyr a'u cefnogwyr/teuleuoedd.

Roeddwn i ddim wedi cael amser i boeni am y cyfweliad a dweud y gwir, felly galla i ddim cwyno am y ffordd mi aeth pethau. Dwedais i o leiaf cwpl o bethau gwirion (a dyna'r rhai dwi'n gallu cofio!) a des i'n sownd cwpl o weithiau. Tra son am fy Nhad, dwedais am ei Dad yn cael ei 'ladd' yn eitha ifanc yn hytrach nag ei Dad yn marw yn ifanc! Crybwyllais 'Clwb Malu Cachu', sydd ddim yn derm addas i ddefnyddio o flaen panel cymysg o feirniaid efallai? Wedi dweud hynny, o ben i ben (overall?) o'n i'n digon bodlon a^'r cyfweliad. Gallai pethau wedi mynd yn llawer gwaeth.

Wedi i'r cyfweliad mi es i i ddod o hyd i weddill y teulu a chystadleuwyr. Mi ffeindion nhw yn gwilio'r adloniant (hogyn dawnus iawn ar y ffidl yn chwarae pob math o gerddoriaeth digyfeiliant ac yn siarad am hanes cerddoriaeth trwy'r oesoedd). Yn anffodus (unwaith eto) roedd rhaid iddyn ni fynd er mwyn cyrraedd adre mewn amser i fynd allan am bryd o fwyd efo cwpl o ffrindiau Miriam er mwyn dathlu ei phenblwydd. Toc ar ol iddyn ni cyrraedd y ty, ces i neges testun gan Alaw i ddweud fydda i ddim yn symud ymlaen i'r rownd terfynol :( sef y pedwar olaf.

Ro'n i'n falch o'r profiad beth bynnag. Roedd hi'n siom fawr ces i ddim siawns mwynhau'r hwyl o gyfarfod a^ gweddill y cystadleuwyr oherwydd digwyddiadau y diwrnod. Diolch i bawb wnath fy nghefnogi, Alaw a Rhian (ac eraill) o Fenter Iaith, a diolch hefyd i David Jones o'r Eisteddfod am ei hyblygrwydd ar y diwrnod.

Dwi'n gallu edrych ymlaen rwan i fis Awst heb y pwysau o gystadlu ;) ac i wneud tipyn o helpu allan ym Maes-d yn ogystal a^ mwynhau awyrgylch prifwyl sydd bron ar ddrothwy Cilgwri.

8.5.07

Pethau bychain

Dwi wedi bod yn mwynhau cyfres 'Gwledydd Bychain' dros y wythnosau diweddar, er bod y cflwynwraig Bethan Gwanas yn fy nghythruddo fi ychydig o bryd i'w gilydd. Mae cynnwys y cyfres, sef hanes rhai o ieithoedd lleafrifol y byd, wedi bod yn diddorol dros ben. Heddiw roedd Bethan yn siarad am sefyllfa'r Ffrangeg yng Nghanada (dim cweit gwlad bychan, neu iaith lleifrifol chwaith, ond sefyllfa diddorol beth bynnag).

Y wythnos cyn hynny roedd hi'n son am sefyllfa y Basgeg yn Gogledd Sbaen (Gwlad y Basg?), a dyna fi, cwpl o ddyddiau ar ol i mi glywed y rhaglen hon, yn gweithio mewn ty cwpl o Sbaen (sy'n digwydd bod Paco Ayesteran, 'dyn llaw de' Raffa Benitez, a'i wraig Zaida, gwraig peldroed noddwediadol ar ran golwg ond annwyl dros ben). Mi glywais yr annwyl Zaida yn dweud wrth ei mab tair oed, "You'll have to get Papa(neu beth bynnag yw'r Sbaeneg dros Tad) to read you that book, Its in Basg". Wedi i'r plentyn (sy'n siarad ychydig o Saesneg rwan) mynnu ei bod Mam yn ei ddarllen hi, mi glywais hi'n ei ddarllen yn hollol diymdrech yn be' swniodd i fi Basgeg perffaith.

Dwi'n mynd i fy sesiwn sgwrs olaf yr heno 'ma, cyn i mi gael fy nghyfweliad 'dysgwr y flwyddyn' bore sadwrn... ahgggg gobeithiaf mae'r iaith yn llifo yn rhydd!

5.5.07

Y Dihangfa Mawr

Wel llwyddodd Wrecsam i ddianc y cwymp allan o bel droed 'y cynghrair' trwy curo 'Y Pererinwyr' o Foston 3-1, ond nad ydy'r canlyniad hon yn adlewyrchu'r naw deg munud o'r gem mewn gwirionydd. Hanner amser, roedd Wrecsam yn colli 0-1 ac tasai'r gem i aros yr un sgor, mi fasai Wrecsam wedi bod yn chwarae yn y 'Conffrens' flwyddyn nesa. Mi darodd Wrecsam yn ol wedi i'r egwyl, ond cyn iddynt mynd ymlaen i sicrhau eu buddigoliaeth yn hwyr yn y gem, mi saethodd chwaraewr Boston dros y trawsbren o dua dwy medr allan. Ond dyna pel droed i chi ynde! gem sy'n gallu troi mor gyflym ac sy'n gallu creu y ffasiwn cyffro a welom ni y p'nawn yma. Mi aeth pawb ar y cae i ddathlu (er gwaethaf y rhybuddion di-pwrpas i beidio!) mewn golygfeydd anhygoel dwi heb weld yn y Cae Ras ers talwm. Roedd pawb yn mynd i fwynhau eu eiliad, ar ol tymor heb lot o sbri, welais i rywun hyd yn oed yn cusanu'r glaswellt o dan ei draed!

Mae Wrecsam yn gallu edrych ymlaen i dymor arall yn y cynghrair rwan, sy'n peth da i'r dref, a pheth da i beldroed yng Nghymru yn gyffredinol.

2.5.07

Rhyw Gwyllt...

Weithiau mae blogio yn gallu bod gweithgaredd diflas tu hwnt, yn enwedig ar ol derbyn y ffigyrau wythnosol o ddarllenwyr, sef fawr ddim!! Ta waeth, mae'r rwtsh diflas mod i'n gwneud yr ymdrech i sgwennu yn cael eu cyhoeddi ar 'Blogiadur' dwi'n credu, sy'n golygu mae 'na un neu ddau s'yn debyg o weld y teitlau o leia! Felly... dyna'r rheswm dros teitl hollol camarweiniol, rhaid i mi gyfadde, y darn diflas hon. Mae'n ddrwg iawn gen i ond taswn i i sgwennu teitl megis 'Noson gemau bwrdd Cymraeg' neu 'Noson Cwis arall', (sy'n adlewyrchu fy wythnos i mewn gwirionydd!) pwy ar wyneb y ddaear fasai'n gwneud unrhyw ymdrech i'w ddarllen. Ond efo'r teitl bachog yma, falle mae 'na ambell un ohonynt sydd wedi ymdrechu i glicio ar y dolen er mwyn darllen mwy am y Rhyw Gwyllt 'ma. Wel ga i ymddiheurio, dwi wedi eich camarwain yn bwriadol, does dim son am rhyw o unrhyw fath, gwyllt neu 'barchus' a dweud y gwir, ond.... mi ges i gwpl o nosweithiau difyr iawn mewn cwmni dda fel rhan o gynllun 'Iaith ar Daith Sir y Fflint' gan cynnwys noson gemau bwrdd Cymraeg, a... do, ti wedi dyfalu'n iawn....NOSON CWIS arall.

27.4.07

Gwin Coch Hanner Nos

Amser i yrru fideoflog newydd, mae'r teitl yn ei wneud hi'n swnio yn fwy diddorol nag y mae hi!!

20.4.07

Tai fforddiadwy?


Dyni'n clywed llawer am brinder tai fforddiadwy ar gyfer pobl lleol (yn enwedig ymhlith yr ifanc) yn ardaloedd gwledig megis Pen Lly^n. Felly helpu'r argyfwng ydy godi datblygiadau megis 'Tywod Arian' ac eu werthu trwy siopau gwerthwyr tai yn Lloegr. Welais i'r hysbyseb hon yn West Kirby (mae hi wedi bod yna tua chwech mis erbyn hyn). Dim ond chwater miliwn am apartment bach ar lan y mor ym Morfa Nefyn.. bargen. Beth ydy pobl Pen Llyn yn meddwl am ddatblygiadau o'r fath hon. Ydy nhw yn creu waith go iawn, siwr o fod fydd angen ar berchnogion y fflatiau 'ma rhyw hogan lleol i'w llnau o bryd i'w gilydd am pum punt yr awr..! Neu ydy hi'n jysd parhau y tueddiad o droi un o'r cadarnleoedd olaf yr iaith 'ma i bentre gwiliau enfawr ar gyfer 'pres' Sir Caer, fel rhai estyniad i 'Abersock'?

19.4.07

Ffawd Cywilydd a delweddau anhygoel yn fy mhen..

Dyma fi'n gorwedd yn fy ngwely neithiwr yn darllen ychydig o lyfr anhygoel Llwyd Owen 'Ffawd Cywilydd a Chelwyddau', pan ffeindiais fy hun yn chwerthin yn uchel wrth i mi ddarllen y darn lle mae'r cymeriad Luc yn ceisio cael hyd i ddelwedd addas i ganolbwyntio arni tra gwneud tipyn o 'hunangamddefnydd'. Wrth hela am rhyw cylchgrawn yn y gwaith ffeindiodd o dim ond copi o 'Golwg'..... ond yr unig delwedd 'benywaidd' i'w gweld ynddi oedd llun o Beti George. Fasai'r rhan mwya ohonyn ni wedi rhoi'r ffidl (neu'r neidr trwsus) yn y to wedi sbio ar ddelwedd hen Beti, ond nid Luc... Beti amdanhi iddo fo chwarae teg! Triais esbonio pam o'n i'n chwerthin wrth 'ngwraig (sydd erioed wedi clywed am hen Beti), ond doedd dim pwynt mewn gwirionedd!

10.4.07

Agos at y Dibyn..

Mae Clwb Peldroed Wrecsam yn sefyll yn andros o beryg at y dibyn wedi cwpl o ganlyniadau siomedig dros ben. Mae'n edrych fel brwydyr rhwngddyn nhw a 'Boston' ar hyn o bryd, efo Boston yn curo Macclesfield 4-1 ddoe a Wrecsam yn colli adre, er bod 'na siawns o Macclesfield yn cael eu tynnu lawr yn ol i'r ffrae ar ol y colled drwm 'na. Gallai mynd i'r ge^m olaf o'r tymor mae'n debyg.

Dwi ddim yn cefnogwr brwd o Wrecsam fel 'nhad (a gath ei eni yn y dre), ond ges i 'mhrofiadau cyntaf o beldroed y cynghrair yna, yn y dyddiau Mickey Thomas a'r hen ail adran (y 'pencampwriaeth') erbyn hyn, felly fydd yn dristwch mawr i finnau hefyd i'w gweld nhw mynd allan o'r cynghrair. Gobeithiaf yn wir nad ydy hynny yn digwydd..

30.3.07

Nos da i dafarndai mwglyd..

Ges i fy niod olaf mewn tafarn Cymreig llawn mwg nos fercher. Gan bod y Castell Rhuthun yn yr Wyddgrug yn fwglyd tu hwnt fel arfer, rhaid i mi ddweud mae'n hen amser, er mod i ddim wedi poeni cymaint amdanhi fy hun. Ond dwi'n nabod ychydig o bobl sy'n cadw i ffwrdd oherwydd cyfuniad o ddiffyg awyriad a mwg. Bydd hi'n profiad gwahanol/diddorol ymweled a^'r lle y wythnos nesa ta waeth.. falle fydd hi'n wag, neu falle fydd hi'n llawn o gwsmeriad yn prynu 'wyau wedi ei piclo' neu 'grafiadau porc' yn lle sigarets, pwy a wyr..

18.3.07

hen ge^m rhyfedd (neu ddylai fod 'rhyfedd o hen ge^m?)

Hen ge^m rhyfedd ydy Rygbi! Pwy fasai wedi coelio roedd gan Gymru digon o hunan-hyder wedi bencampwriaeth mor wael i fynd ati i guro'r Saeson (heblaw ti^m Cymru!). Yn ystod yr hugain munud cyntaf roedd yr arwyddion yn cyfeirio at Gymru'n rhoi cweir go iawn i Loegr, ond chwarae teg i'r 'gwynion', fe daron nhw yn ol i gadw y ge^m yn fyw a chreu chwater olaf hynod o gyffrous. Prin iawn, dwedodd y sylwebydd, oedd o wedi clywed cymaint o swn yn Stadiwm y Mileniwm, mi faswn i wedi talu pres mawr i fod yn rhan o'r dorf.
Mi deithiodd nifer o fy nghyfeillion o'r Gogledd i Gaerdydd heb docynnau, jysd er mwyn gwilio'r gem yn y prif ddinas (siwr o fod yn y 'Mochyn Du')

hen ge^m rhyfedd (neu ddylai fod 'rhyfedd o hen ge^m?)

Hen ge^m rhyfedd ydy Rygbi! Pwy fasai wedi coelio roedd gan Gymru digon o hunan-hyder wedi bencampwriaeth mor wael i fynd ati i guro'r Saeson (heblaw ti^m Cymru!). Yn ystod yr hugain munud cyntaf roedd yr arwyddion yn cyfeirio at Gymru'n rhoi cweir go iawn i Loegr, ond chwarae teg i'r 'gwynion', fe daron nhw yn ol i gadw y ge^m yn fyw a chreu chwater olaf hynod o gyffrous. Prin iawn, dwedodd y sylwebydd, oedd o wedi clywed cymaint o swn yn Stadiwm y Mileniwm, mi faswn i wedi talu pres mawr i fod yn rhan o'r dorf.
Mi deithiodd nifer o fy nghyfeillion o'r Gogledd i Gaerdydd heb docynnau, jysd er mwyn gwilio'r gem yn y prif ddinas (siwr o fod yn y 'Mochyn Du')

11.3.07

gwerth yr oedi

Mi es i i Swper gwy^l Dewi eitha hwyr (ar rhan y dyddaid) neithiwr yn Llaneurgain a gafodd ei trefni gan Fenter Iaith fel rhan o ddigwyddiadau 'CYD' cyn-eisteddfod genedlaethol fel petai. Dafydd Iwan oedd y dyn gwa^dd, a chwara teg mi rodd o awr neu fwy o adloniant gwerth ei weld. O'n i'n lwcus cael tocyn yn y pendraw, a hynny dim ond gan fod rhywun wedi ei dychweled. Mwynheuon ni glasuron fel 'pam fod eira'n wyn' ac Yma o Hyd wrth cwrs fel diweddglo y noson. Ni faswn i'n dewis i wrando ar stwff Dafydd Iwan fel arfer, ond rhaid i mi cyfadde, mewn cyd-destun y noson roedd o'n reit dda. Mae ganndo fo lais andros o gryf o hyd, ac ar gwpl o ganeuon a ganodd heb gyfeliant, gwrandawodd y cynulleidfa dan swyn ei ddawn i fynegu syniad trwy can.

Ces i gyfle am sgwrs efo nifer o bobl o'n i ddim wedi cyfarfod o'r blaen, a nifer o hen gyfeillion hefyd.

7.3.07

Profiad y Tw^r




Mi aethon ni (fy merch a fi) fyny tw^r Eglwys Cadeiriol Lerpwl dros y penwythnos, hynny yw'r un anglicanaidd, rhywbeth dwi erioed wedi gwneud o'r blaen, er i mi dreilio fy nyddiau Coleg reit cyferbyn i brif mynedfa'r adeilad esblynydd hyn (tua chwater canrif yn o^l erbyn hyn). Mae hen adeilad y Coleg a'r tir gwag o'i gwmpas wedi cael ei ddisodli a'i llenwi gan fflatiau digon hyfryd erbyn hyn, ond mae gen i deimladau braf (falle hyd yn oed hiraeth!) am ardal hon y Dinas. Mae 'profiad y Twr' yn un gwerth chweil heb os. Mae'r twr yn sefyll dros 300 o droedfedd uwchben i'r tir, ac mae'r eglwys ei hun yn sefyll ar ben allt o dua 200 dros lefel yr Afon Mersi. Mae Twr Sant John, (neu 'Twr Radio City' erbyn hyn) lawr yng nghanol y dinas yn fwy ar rhan talder ond yn isaf ar rhan lefel y mor, felly mae'r eglwys yn dal i fod y 'big boy' yn Lerpwl.

Dachi'n cyrraedd pen y twr trwy dal dwy lifft, ac wedyn dringo 108 o risiau tu fewn i siambr y glychau. Er mae'r Eglwys hon yn cymharol ifanc (cafodd ei orffen yn 1980-rhywbeth), ges i sioc i weld cymaint o 'concrit' a briciau tu mewn i'r twr, gan bod y gwbl dychi'n gweld o tu allan yr adeilad ac o tu fewn, ydy cerrig tywodfaen coch. Roedden ni'n lwcus dros ben ynglyn a^'r tywydd ar y ddiwrnod, estynodd y golygfeydd o Eryri hyd at mynyddoedd ardal y llynoedd yng nghogledd Lloegr. Ar y ffordd i lawr, dychi'n cael ymweled ag oriel bach reit yn y 'Gods' o'r eglwys ei hun er mwyn gweld golygfa tra wahanol o'r tu fewn. Trip gwych.

4.2.07

yr wythnos hon

Ges i gyfle i fynd i noson cwis Cymraeg (elw at yr Eisteddfod wrth cwrs..) nos fercher yn Nhafarn y Castell Rhuthun Yr Wyddgrug. O'n i'n dipyn bach hwyr felly derbynais gwahoddiad garedig i ymuno a^ tim Rhian o Fenter Iaith, ei chwaer a'i phartner oedd yn digwydd bod eistedd wrth ymyl y drws. Do'n i ddim wedi bod llawer o help a dweud y gwir pan cyrhaeddodd John, hogyn o'n i wedi cyfarfod yr wythnos cynt mewn sesiwn sgwrs. Diolch byth roedd John yn ffynhonell o bob math o wybodaeth cyffredinol (fel faset ti'n disgwyl o rywun sydd newydd dychweled efo gradd o Rydychen efallai!) felly ar ol iddo fo ymuno a^ ni roedden ni'n teimlo ychydig yn fwy gobeithiol. Yn y pedraw mi wnaethon ni lwytho i ennill y rownd o ddiodydd ar gael fel gwobr cyntaf, ond yn anffodus o'n i wedi yfed fy 'quota' o alcohol yn gynharach yn y noswaith felly ges i ddim ond botel o J2O am ddim. Ta waeth, diolch i John am ei ymatebion ac i weddill y tim am eu gwahoddiad! Dwi'n edrych ymlaen yn barod at yr un nesaf ym mis chwefror.

Nos wener o'n i yn ol yn Yr Wyddgrug ond y tro hon yng Nghlwb y Cyn Filwyr a^'i chwrw rhad am Eisteddfod y Dysgwyr. Roedd y Clwb unwaith eto yn llawn, a mi wnath Alaw o Fenter Iaith, swydd arbennig o dda yn trefnu a chyflwyno'r digwyddiad. Mi ges i tro yn yr adrodd unigol fel dwi wedi gwneud dros y dwy flynedd diwetha, ond y tro 'ma wnes i ennill y tocyn lyfr!! Mae'r un darn (Colli Iaith) wedi ei dewis ar gyfer y Genedlaethol ym mis Awst, felly dwi wedi gwneud y gwaith galed yn barod (hynny yw dysgu'r darn) ar gyfer y digwyddiad yna, ond y tro diwetha wnes i gais y fan'na roedd 'nhgoesau yn cnocio yn erbyn eu gilydd, yn wir! felly gawn ni weld..

22.1.07

shhhh...blwyddyn newydd dda...

dwi'n methu credu mod i heb blogio yn 2007 o hyd!! felly ga i ddymuno blwyddyn newydd eitha dawel i bob un ohonoch chi... neu ddylwn i dweud ohonot ti jysd rhag ofn sdim ond un sydd yna erbyn hyn.. sy'n bwrw ambell i olwg dros y geriau 'ma.

Mae gen i lawer o esgusodion wrth cwrs, fel pawb arall sy'n methu cadw cyfuwch ag y pethau bod nhw yn trio gwneud, ond dwi wedi dechrau eleni llawn brwdfrydedd am fy astudiaethau Cymraeg.

Dwi newydd gorffen llyfr mi ges i fel anrheg nadolig sef 'Fydd Cariad Gobaith' gan Llwyd Owen, sy'n clincar o lyfr mi faswn i'n cymeradwyo i bawb. Dwi newydd archebu llyfr cyntaf Llwyd Owen i ddarllen wedi i mi orffen 'Brithyll' gan Dewi Prysor, sydd wedi galw am cryn dipyn o ddefnydd o'r hen eiriadur erbyn hyn, ond mae llawer wedi ei gymeradwyo. Dwi'n wrthi hefyd ar hyn o bryd gwneud modiwl 'Mynegiant lefel 1' ar fy nghwrs ar lein efo Llambed, felly mae gen i lwythi o bethau i fy nghadw yn brysur..