17.11.11

Yn y Ty Hwn... a llyfrau eraill

Mi ges i fy ysgogi i ddarllen 'Yn y Ty Hwn' ar ol darllen sylwadau ffafriol iawn gan Junko

Ges i ddim fy siomi. Wna i ddim dweud gormod, dim ond ysgogi unrhywun arall i'w ddarllen.  Mae safon yr ysgrifennu yn ardderchog, ond rhaid i mi gyfadde (er mawr cywilydd) ni faswn i wedi dewis y llyfr heb ddarllen yr adolygiadau a sgwennwyd amdana fo.   Dyna'r trafferth o gael dy ddylanwadu yn ormodol gan glawr llyfr, weithiau wnei di ddarllen llond llyfr o rwtsh, a thro arall wnei di golli gampwaith.  Mae gan 'Yn y Ty Hwn' lun trawiadol ar ei glawr, ond un sy'n awgrymu dyfnder y stori tu mewn.  Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi codi ofn arnaf yn y gorffenol, ond gobeithio fy mod i wedi dysgu gwers trwy beidio dilyn fy ngreddf arwynebol cyntaf.

Wn i fod Sian Northey wedi sgwennu i blant yn y gorffenol, ond credaf mai hwn yw ei nofel cyntaf  i oedolion.  Gobeithio'n wir ga i gyfle i ddarllen rhywbeth arall ganddi cyn bo hir.

Fy her nesaf o ran darllen yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, sef 'Tair Rheol Anrhefn' gan Daniel Davies.  Dyma lyfr hollol wahanol, llawer hirach, ond un dwi wirioneddol yn mwynhau hefyd.  Stori ditectif ydy o mewn ffordd, gyda'r holl ddigwyddiadau yn dilyn llwybr arfordir sir Benfro. 

Dwi'n agoshau diweddglo'r hanes erbyn hyn, ac yn ystyried be i ddarllen nesa, a beth i roi ar fy rhestr Nadolig hefyd.  Mae gen i 'Stori Saunders Lewis, Bardd y Chwyldro yng Nghymru'  i bori yn y cyfamser.

11.11.11

Cyfrinach y Capel...

Capel Claughton Rd 2011
Yn nghanol Penbedw mae 'na gapel briciau cochion sy'n dangos cliw i'w hanes efallai ar un o byst y giât blaen.   Dwi'n cofio ffrind yn gwneud bach o waith yna cwpl o flynyddoedd yn ol, ac yn crybwyll bod y gweinidog wedi dweud wrtho bu'r adeilad capel Cymraeg ers talwm.  Dyna pam felly yr wythnos diwetha cymerais funud neu ddau i graffu ar yr adeilad fictoriaidd yn chwilio am gliwiau i'w hanes.   Welais i ddim byd amlwg fel 'maen dyddiad', ond wrth i mi feddwl am roi'r gorau i fy nghraffu, sylwais ar arwydd aneglur ond cyfarwydd a guddiodd ar un o byst tywodfaen y llidiart.  Symbol 'Yr Awen' ydy hyn wrth gwrs, rhywbeth a gysylltiwyd â Gorsedd y Beirdd, ac arwydd efallai bod rhyw ddigwyddiad neu gyfarfod wedi ei gynnal yn y fan hyn, ond arwydd o gysylltiad Cymraeg.
yr arwydd ar y postyn





Dwi ddim wedi llwyddo dod o hyd i unrhyw gwybodaeth am hynny eto, sy ddim yn syndod efallai, gan bod yn ol gwefan yr eglwys presennol symudon nhw i mewn yn 1917.  Adeiladwyd y capel yn 1881 dwi'n credu.  Mi ymwelodd yr Orsedd Penbedw ym 1917 wrth gwrs, blwyddyn Eisteddfod y Gadair Ddu ym mharc y dre wrth gwrs.  Buon nhw yna cyn hynny efallai, pan cynhalwyd Eisteddfod Genedlaethol 'answyddogol' yn y dre ym 1879.   Mae 'na fap OS ar gael o'r dref yn 1909, felly mae'n bosib fasai hwnnw dangos enwadau y capeli, dwn i ddim, ond ga i gipolwg arno fo y tro nesa i mi fod yn Waterstones ella,

3.11.11

Llên benywaidd...?

Dwi newydd gorffen 'Mr Perffaith' gan Joanna Davies , llyfr digon ysgafn a dweud y gwir, ac
un a gafodd ei sgwennu fel rhywbeth i ddarllen ar y traeth, ella.   Welais rywun yn ei ddisgrifio fel darn o 'chic lit', ond gefais cryn fwynhad wrth ei ddarllen.. ella mae hynny'n dweud rhywbeth amdana i, dwn i ddim!

Y peth nesaf mi fydda i'n ei ddarllen yw 'Yn y Ty Hwn', gan Sian Northey.  Dwi wedi darllen adolygiadau ffafriol amdano, ac yn edrych ymlaen at her darllen tra wahanol.