4.12.04

'pub' eisteddfod

Dwi newydd dychweled o fy 'eisteddfod tafarn' i gyntaf, oedd yn rhan o'r dathliadau penblwydd Dewi. Mi ges i ddim syniad be' yn union i ddisgwyl mewn gwirionydd ond roedd 'na lot o hwyl, a cyfleoedd i gyfarfod a^ dysgwyr eraill a chymry Cymraeg. Fel aelod o'r ti^m 'gweddill y byd' roedd 'na rhaid i mi cystadleuthu mewn o leia un o'r unarddeg cystadleuthau. Achos ro'n i'n gyrru, ro'n i'n gallu osgoi cystadleuthau fel y 'fodca relay' a 'chlecio peint', ond does 'na ddim dianc o'r cystadleuaeth 'fwyta cracers'. Bobl bach mae'n peth galed ofnadwy i wneud, a gwnes i ymdopi a^ dim ond dau ohonyn mewn y funud sydd ar gael. Mae hyn yn swnio fel cyfanswm eitha gwael ond mi ymdopodd yr enillwr a^ dim ond tri!

Roedd 'na ganu o safon reit dda, ar hyd a^ lymerics doniol iawn, noson braf heb os, chwarae teg i Dewi am wneud y trefniannau, penblwydd hapus boi!

1 comment:

Rhys Wynne said...

Diolch Neil (Dewi sydd yma gyda llaw!)

Dwi di ffeindio dy weflog rwan felly bydda'n ofalus be ti'n deud - byddai'n darllen!