10.11.07

Cymraeg ar y X Ffactor...!

Dwi wedi bod yn dilyn hynt a helynt Rhydian ar gyfres yr X ffactor yn bennaf gan mod i wedi ei glywed o'n siarad am ei brofiadau ar Radio Cymru ac hefyd ar Wedi 7. Heb os nag onibai mae ganddo fo lais ardderchog, ac yn ogystal â hynny personoliaeth a hunaniaeth go fawr. Teimlais dosturi drosto fo wedi ymosod annisgwyl Sharon Osbourne yn ystod y wythnosau cynnar y cyfres, ond erbyn hyn mae hyd yn oed hithau wedi canmol ei gampau lleisiol.

Yr heno 'ma gafodd Rhydian sawl clod gan y beirniaid i gyd dros ei fersiwn o 'You lift me up', ac wrth iddo fo ddweud diolch i'w gefnogwyr am ei gefnogi defnyddiwyd y Gymraeg am y tro cyntaf yn fyw ar yr X Ffactor (hyd a gwn i). "Thanks to everyone from Wales" meddai Rhyd "diolch yn fawr am ddod", chwara teg iddo fo.

Ar ran canu, does neb arall yn agos i Rhydian, ar ran y X ffactor, mae ganndo fo llwyth ohonhi, pwy arall gallai ennill?

1 comment:

Linda said...

Ychydig yn hwyr yn ymateb i hwn sori , ond 'roeddwn i adref yng Nghymru dros y Nadolig.
'Roedd fy chwaer yn dilyn y rhaglen felly I became hooked too ! Mi wnês i bleidleisio i Rhydian sawl gwaith yn y ffeinal , ond y cwbwl yn ofer :(
Biti...