29.1.08

ers talwm

Mae hi wedi bod amser maith ers i mi ychwanegu post i'r blog hon, ond ges i fy atgoffa o'i bodolaeth gan ymateb i bost o nifer o wythnosau'n ôl (diolch Linda).

Ces i wahoddiad heddiw i fod yng nghynulleidfa 'Pawb a'i Farn', pan ymwelir y rhaglen teledu â Lerpwl canol mis chwefror. Dwi'n edrych ymlaen at yr achlysur sy'n cael ei saethu yn neuadd San Siôr, adeilad fictoriaidd fendigedig sy'n cyferbyn i gorsaf Lime St yng nghalon dinas diwylliant '08 (y rheswm dros y rhaglen croesi'r ffîn am y tro cyntaf ers darllediad o Efrog Newydd yn dilyn trychineb 9/11.

Nos yfory (nos fercher) mae 'na cwis Cymraeg yn nhafarn y Castell Rhuthun, Yr Wyddgrug, a dwi'n edrych ymlaen. Mae'r cwis hon wedi cael ei trefnu fel rhan o ddigwydiadau 'Dathlu'r Deg' gan Menter Iaith Sir y Fflint, mudiad a chafodd ei sefydlu dim ond deng flynedd yn ôl, ac un sy'n mynd o nerth i nerth gobeithio.

1 comment:

Linda said...

Pob hwyl i ti yn y cwis nôs yfory , ac yng nghynulleidfa 'Pawb ai Farn'.
A fyddi di'n cael cyfle i ofyn cwestiwn tybed?