Mi ddoth y rhaglen 'Pawb a'i Farn' i Lannau Mersi wythnos yma am y tro cyntaf erioed, i ganol dinas Lerpwl yn y neuadd San Sior. Ces i'r profiad o fod yn y cynulleidfa gyda tua cant o bobl eraill, gan cynnwys Cymry'r ardal, myfyrwyr o Brifysgolion Lerpwl ac ambell i ddysgwr siwr o fod. Roedd yr ymweliad i'r neuadd (er dim ond rhan ohono) yn werth y taith byr i Lerpwl, adeilad dwi heb ymweled â hi o'r blaen mae gen i gywilydd cyfadde! Wedi blynyddoedd o waith adnewyddu, cawsom ni i gyd ein syfrdanu wrth cerdded trwy drysau trwm yr ystafell cyngherdd. Yna, yng nghanol y stafell safodd set Pawb a'i farn, un sy'n fel arfer mewn canol rhai canolfan hamdden di-nod yn ôl Dewi Llwyd cyflwynydd y cyfres. Wedi sgwrs bach a chyflwyniad gan 'rheolwr llawr' a rownd o gwestiynau gan Dewi er mwyn setlo nerfau'r panel yn ogystal a rheiny y cwestiynwyr, datganwyd dim ond munud i fynd cyn mynd ar yr awyr. Roedd y tensiwn yn anhygoel, ac erbyn hyn dwi wir yn werthfawrogi dawn cyflwynwyr megis Dewi Llwyd sy'n cadw trefn ar y math o raglenni fyw yma. Roedd yr hanesydd John Davies seren y panel heb os, ond wnath Ben Rees, gweinidog capeli Lerpwl am ddeugain mlynedd, cyfraniad da hefyd. Ces i noson dda, er teimlais fy hun yn crynu pob tro mi ddoth y 'boom meic' dros fy mhen! Mi faswn i wedi licio dweud rhywbeth, ond pob tro meddyliais i am rhywbeth i ddweud, roedd yr eiliad wedi mynd cyn i mi godi fy llaw!
Mae'r rhaglen ar gael ar y we am wythnos neu ddwy, dyma'r dolen:
http://www.s4c.com/c_watch_level2.shtml?title=Pawb%20a'i%20Farn
(rhaglen pedwar yw'r un o Lerpwl)
3 comments:
Da iawn ti, Niel! Mi weles i di tu ôl i Dewi Llwyd. Roedd y llun yn atal bob dau eiliad oherwydd bod ein cysylltuad rhyngrwyd ni'n rhy hwyr. Ond mi ges i gip o'r rhaglen a'r neuadd odidog.
Cytunad efo ti mai John Davies oedd seren y rhaglen. Dyn difyr iawn- i'w weld ar S4C yn aml iawn (meddyliwr difyr). Y ddamcaniaeth honno ynglŷn â gwres canolog! Gwreiddiol? Yn ogystal, mwynheais ei farn pendant ynghlych bod o blaid Steddfod lerpwl 2007. Di-flewyn ar dafod.
Syniad gwych darlledu Pawb a'i farn o un o ddinasoedd mwya cyfeillgar Lloegr. Yn ôl Wikipedia, mae yna 133,000 o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr. Fel cenedlaetholwr diwylliadol Cymraeg, credaf ei bod hi'n hen bryd i fwy o arweinwyr diwylliannol Cymraeg yng Nghymru feddwl o ddifrif ynghylch sut i gryfhau cyfraniad Cymry alltud (neu pobl sy'n medru'r Gymraeg yn Lloegr) i'r "sin Cymraeg". Dywedaf, "sin" o gofio'r bregustod presennol.
Mae gwir angen mwy o ddysgwyr brwd a gweithredol (Jwg ar seld-T H Parry-Williams) ar y Gymraeg. Blog difyr. Diolch amdani.
Yn falch dy fod wedi mwynhau'r profiad o fod ar raglen fyw Neil. Heb wylio'r rhaglen eto gan fy mod yn trio dal i fyny efo'r toraeth o raglenni da sydd ar gael ar S4C ar y we.
Diolch am y linc.
Post a Comment