17.7.08

Hafana..



Cryno ddisg newydd Elin Fflur yw Hafana a gafodd ei rhyddhau y wythnos diwetha. Dwi'n meddwl mai llais ardderchog gan y cantores o Fôn , felly o'n i'n awyddus i gael hyd i gopi o'i albwm diweddaraf, rhywbeth mi wnes i yn y pendraw trwy Amazon (£11.99). Rhoddais Hafana'n syth ar y cyfrifiadur er mwyn fy ngalluogi ei drosglwyddo i'r i-pod, ac yn y modd hynny wnes i wrando arnhi hi yn y gwaith y pnawn 'ma.

Roeddwn i wedi clywed eisioes nifer o'r traciau ar y radio felly o'n i'n gwybod be' i ddisgwyl mewn ffordd. Mae Elin wedi sefydlu mwy o'i hardull ei hun ar yr albwm hon dwi'n credu. Mae hi'n arbennigwraig pen ei champ ar y 'power balad' Cymraeg, ond ar Hafana mae hi'n rheoli ei llais yn fwy ofalus dwi'n meddwl, rhywbeth sy'n cael ei arddangos yn dda yn yr 'ail-cymysgedd' o'i chân 'Cân i Gymru' o'r llynedd 'Arfau Blin'. Mae 'na rhyw ddebygrwydd rhwng nifer o'r caneuon, er gyda mwy o wrandawiadau fel arfer mae caneuon yn teimlo'n fwy unigryw, gawn ni weld. Ond ar ôl i mi wrando ar y cyfanwaith tair waith dwi'n falch wnes i'w prynu.

Trac ffefryn fi ar hyn o bryd yw 'Tywysoges Goll', gitar acŵstic hyfryd a llais angelaidd y cantores yn adrodd hanes Gwenllian, trac sy'n dal naws y clawr yn berffaith (llun a gafodd ei beintio gan Nain Elin Fflur).

O'r gorau, dwi'n hên 'prog rocker' canol oed, ond mae Hafana'n gwneud y tro i mi!

2 comments:

Corndolly said...

Diolch y sôn am y CD newydd. Wnaeth y CD gyrraedd yn gyflym oddi wrth Amazon? Fel arfer, mae llyfrau Cymraeg sy ar gael ar Amazon yn cymryd amser eithaf hir i gyrraedd. Fel ti, dw i'n hoffi ei llais hi. Gobeithio bydd hi'n dod i gyngerdd yn ein hardal yn fuan. Gyda llaw, croeso i ti ddod i'r Sesiwn Siarad yn Wrecsam, efallai medri di ddod efo Dafydd Jones.

neil wyn said...

Cymerodd dim ond cwpl o ddyddiau i'r CD cyrraedd a dweud y gwir, er wnaethon nhw rhybuddio am oedi bosib. Mae'n well gen i brynu o siop lleol (neu trwy wefan Sebon), ond d'on i ddim gallu cael hyd iddi hi yna. Diolch am y croeso gyda llaw :)