6.7.08

her newydd

Dwi wedi derbyn her newydd eleni, hynny yw i weithio fel tiwtor Cymraeg i ddosbarth nos o ddechreuwyr pur. Er dwi'n nabod nifer o diwtoriaid eraill sy'n dysgwyr, mae'r cam hon yn teimlo fel un heriol iawn. Mae'r dosbarth nos mewn cwestiwn yn cael ei chynnal yn 'Ysgol Gramadeg Cilgwri i Ferched' (Wirral Grammar for Girls), a gafodd ei sefydlu cwpl o flynyddoedd yn ôl o herwydd y nifer o fyfyrwyr o Gilgwri oedd yn mynychu dosbarthiadau yn Sir y Fflint. Mae'r niferoedd wedi bod yn parchus iawn yn ôl pob son dros y dwy flynedd diwetha, felly mae David Jones y tiwtor presennol yn awyddus i ddarparu ail flwyddyn i'r rhai sydd wedi cwplhau'r un gyntaf. A dyma lle dwi'n ffitio mewn i'r cynllun, fel tiwtor i gymryd blwyddyn un. Gobeithiaf yn wir na chaiff y myfyrwyr eu siomi wrth weld 'sgowser' o'u blaenau nhw, a nid Cymro neu Gymraes Cymraeg. Er dwi'n ddigon hyderus yn fy Nghymraeg wrth siarad yn y dafarn ac yn ymlaen, petasai unrhywun i ofyn i mi gwestiwn lletchwith ynglŷn â gramadeg, mi fasai rhaid i mi ddiflannu mewn pentwr o lyfrau, neu well na hynny drws nesaf, lle fydd David yn dysgu yr ail flwyddyn! Edrycahf ymlaen at fis medi....

5 comments:

Alwyn ap Huw said...

petasai unrhywun i ofyn i mi gwestiwn lletchwith ynglŷn â gramadeg, mi fasai rhaid i mi ddiflannu mewn pentwr o lyfrau, neu well na hynny drws nesaf,

Yr hyn wyt ti'n gwneud o dan y fath amgylchiadau yw dweud "dyna gwestiwn diddorol iawn, eich gwaith cartref ar gyfer wythnos nesaf yw canfod yr ateb iddi" :-)

Emma Reese said...

Da iawn ti Neil. Yn aml iawn basai dysgwyr profiadol yn gwneud tiwtoriad da achos bod nhw wedi dysgu eu hun ac yn gwybod problemau dysgwyr.

Mae y gwr sy wedi dysgu Japaneg yn llawer gwell na fi yn esbonio pethau gramadegol.

Corndolly said...

Pan ddechreuais i ddysgu Cymraeg, rôn i'n teimlo'n y basai'r tiwtor yn gwybod popeth, felly paid â phoeni. Mae Emma yn dweud bod gynnoch chi brofiad o ddysgu, felly dw i ddim yn credu y bydd gynnoch problemau enfawr. Dych chi'n sôn am 'David Jones' yn eich blog, ydy o'r un David Jones sy'n gweithio yn Newi, Wrecsam?

Cer i Grafu said...

Paid di a phoeni dim - mae dy Gymraeg di yn ddi-fai. Wi'n siwr y byddi di'n athro arbennig o dda.

Tom Parsons said...

Llongyfarchiadau Neil!