20.12.08

Siopa Dolig....

Mi aethon ni i Lerpwl y p'nawn 'ma er mwyn cwplhau'r siopa Dolig. Doedd hi ddim cweit mor ddrwg ag o'n i'n disgwyl a dweud y gwir, ac er ddylsen ni wedi mynd ar y tren er mwyn hwyluso'r profiad, mi lwyddon ni i barcio mewn un o'r meysydd parcio dan ddaear yn natblygiad siopa newydd 'Liverpool 1'... er mawr syndod i mi!

Mi wariom ni cryn dipyn hefyd ar set o lliein, 'mat baddon' a brwsh toiled! er mwyn dathlu'r ffaith bod y gwaith ar yr ystafell molchi wedi dod i ben diolch byth! ac erbyn hyn mae'r brwsh, yn ei blwch 'chrome' sgleiniog a'r lleill wedi ei gosod yn ei le.

Does gen i ddim gormod i wneud yn y gwaith wythnos nesaf ar wahan i orffen un 'cabinet rheddiadur' ar gyfer ffrindiau. Mi wnaiff pob jobyn arall sydd gen i 'ar y llyfrau' aros tan y flwyddyn newydd rwan, felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr at cael seibiant o'r waith am o leia deg ddiwrnod.

2 comments:

Linda said...

Helo Neil !
Falch dy fod ti wedi medru gorffen y siopa, a'r ystafell molchi mewn pryd.
Mwynhâ dy wyliau a Nadolig Llawen i ti !

neil wyn said...

Nadolig llawen i tithau hefyd Linda, a phawb arall sy'n darllen hyn.