Mae'n ymddangos bod Cymdeithas yr Iaith yn gandryll nad yw prifathro newydd Prifysgol Bangor yn medru'r Gymraeg. Mae'n hawdd cydymdeimlo efo'r safbwynt yma, gyda'r Prifysgol yng nghanol un o gadarnleoedd y Gymraeg. Dwi'n darllen bod Bwrdd yr Iaith wedi bod yn ymchwilio i weld os mae'r penderfyniad yn mynd yn erbyn oblygiadau cyfreithiol y Prifysgol, ond does gynnon nhw fawr o obaith o newid y penderfyniad presennol, dim ond newid polisi i'r dyfodol.. o bosib.
Gwyddel o Felffast yw'r boi sydd wedi ei benodi, rhywun yn ol pob son sydd wedi wneud lot i hybu defnydd o'r Wwyddeleg tu fewn i'w Brifysgol presennol: Maynooth. Yn ól Bangor mae o wedi addo mynd ati i ddysgu'r Gymraeg, ond fel dyni i gyd yn gwybod mae'n haws dweud na wneud, ac mi fydd hi'n sbel go hir cyn iddo fo ddatblygu ei sgiliau ieithyddol i safon digon dda i weithredu ynddi o ddydd i ddydd yn ei swydd newydd.
Ond wrth gwrs, mae dysgwyr yn gallu bod ymhlith y rhai gyda agwedd mwyaf brwdfrydig at eu ieithoedd newydd! Pwy sy'n gallu anghofio Mr Brunstrom, a enillodd glod yr Orsedd dros ei safbwynt ynglyn á'i iaith mabwysiedig. Gallai'r Athro Hughes (y pennaeth newydd) bod yr un mor weithredol dros y Gymraeg a'r cyn-brifgwnstabl efallai, a gallai o weld mwy o werth yn iaith brodorol cartref ei Brifysgol newydd na'r rheiny sydd wedi ei benodi. Mae un peth yn sicr, mi fydd na o leia un ddysgwr newydd ym Mhangor erbyn mis Medi....
3 comments:
Os yw Pennaeth newydd Bangor o ddifri am ddysgu'r iaith, na ddylai fod yn amhosibl gosod rhyw fath o amserlen iddo. Pryd fydd e'n gallu cynnal cyfarfodydd staff yn Gymraeg, er enghraifft? Mewn dwy flynedd?
Ym fy mhrofiad i fel tiwtor, y bobl sy'n dechrau dysgu oherwydd eu bod nhw wedi cael job newydd lle mae "ability to speak Welsh is desirable" yw'r rhai lleia tebyg i lwyddo, gan fod eu cyflogwyr yn rhy barod i adael iddyn nhw golli dosbarthiadau er mwyn wneud pethau eraill, fel mynychu cyfarfodydd.
Ac o fy mhrofiad i fel dysgwr, y prif reswm i mi lwyddo dysgu Cymraeg yn eitha clou oedd bod fy nghyflogwr wedi fy ngorfodi mynd i'r dosbarth bob dydd. Gan taw agor bocsys o lyfrau oedd fy job i, mae'n debyg iddyn nhw ymdopi hebddo i am awr ola bob dydd yn ddigon hawdd.
[Duh.]
... sy ddim yn wir yn achos pennaeth Prifysgol. Ond os yw'r Brifysgol o ddifri taw hwn yw'r person gorau i'r swydd, mae rhaid iddyn nhw (bwrdd y Brifysgol, neu bwy bynnag) fod yn barod i'w gefnogi wrth iddo ddysgu, ac i osod targedau cyrhaeddadwy ond sy'n adlewyrchiad o raddfa tâl y dyn. Os yw gwerthwr llyfrau fel fi yn gallu dysgu digon o Gymraeg i ateb y ffôn mewn 6 mis, dw i ddim yn gweld pam nad yw'r un peth yn bosibl i rywun sy'n rhedeg prifysgol.
Cytuno'n llwyr Nic, dylsai'r Prifysgol rhoi pob cefnogaeth a gyfle iddo fo lwyddo. Mi fydd hi'n dipyn o gamp heb gefnogaeth ei gyflogwy, yn enwedig o dan pwysau swydd newydd. Gobeithio bydd y ffaith ei fod wedi addo ei hun i ddysgu'r iaith yn ddigon i sicrhau na fydd ei ymdrechion am ddim. Na fydd pennaeth newydd Prifysgol yn awyddus ymddangos fel dwpsyn, sydd heb y gallu i ddysgu iaith.
Does dim rhaid bod yn glyfar i ddysgu iaith.... (meddan nhw), dim ond brwdfrydig a styfnig!
Post a Comment