|
6120 Y Tywysoges Elizabeth yn arwain 'The Dalesman' rhywdro |
Dwi'n edrych ymlaen at daith trén dydd sul, un wnes i ddewis fel anrheg penblwydd eleni. Mae'r 'North Wales Coast Express' yn mynd o Lerpwl i Gaergybi yn ystod yr haf, ac hynny o dan bwer injan stém, ac efo set o gerbydau 'traddodiadol' (sef hen!). Mae gen i gof brith o weld injans stém fel plentyn bach yn mynd trwy Borth ar eu ffordd i Aberystwyth). Bwystfilod hudol oeddent i mi, du, budr a swnllyd, ond dwi ddim yn cofio cael y cyfle i deithio ar un ohonynt, ac roedd rheilfyrdd Glannau Mersi hen wedi eu trydaneiddio neu ddiesel-eiddio erbyn y chwedegau. Mi fydd yn wefr felly i fynd ar daith tu gefn i'r 'Princess Elizabeth' sy'n arwain y taith dydd sul, darn o beirianwaith 77oed erbyn hyn! Wnaeth y peiriant arbennig hon torri record yn 1936 trwy deithio'n ddi-stop o Glasgow i Euston (401 milltir) o dan 6 awr. Y diwrnod wedyn dychwelodd y tren yr un mor gyflym i'r Alban, cyflymder ar gyfartaledd o 70mya. Dwi ddim yn disgwyl (o edrych ar amserlen y daith) a fydden ni'n torri record dydd sul, ond gobeithio gawn ni dywydd weddol er mwyn mwynhau'r golygfeydd godidog sydd ar gael ar hyd rheilffordd yr arfordir.
Mi fydden ni'n ymuno á'r tren yn Frodsham ac yn mynd yr holl ffordd i Gaergybi, lle fydden ni'n treulio ychydig o oriau cyn ddychweled ar yr un tren. Wna i bostio ambell i lun yn fan hyn mae'n siwr!
2 comments:
Siwrnai dda i ti!
Dw i'n edrych ymlaen at weld dy lluniau, Neil. Mwynha
Post a Comment