26.1.11

Ychwanegiadau i 'nghasgliad o CDiau Cymraeg...

Prynais gwpl o grynoddisgiau Cymraeg newydd heddiw.    Dwi'n hoff iawn o ganeuon Gwyneth Glyn, sy'n dweud stori'n aml iawn.  O'r diwedd gefais gopi o'i hail albwm 'Tonau', un sy'n cynnwys nifer o ganeuon mod i wedi clywed troeon ar Radio Cymru megis 'Cán y Siarc' a 'Dail Tafol'.  Sypreis neis oedd y can 'O'n i'n mynd i..'  da o gan, ac un fydda i'n gallu defnyddio mewn gwers yr wythnos nesa.  Digwydd bod mai Uned 8 Cwrs Sylfaen yn cyflwyno 'Ro'n i'n meddwl', felly dyma gyfle euraidd i chwarae'r can hwn yn y gwers.  Dyma'r pennill olaf (gobeithio mod i ddim yn torri cyfraith hawlfraint trwy neud!):

O'n i'n mynd i ffonio ffrind,
gofyn lle ma'r dyddia'n mynd.
O'n i'n mynd i neud bob dim,
o'n i isho'i neud
ond nes i ddim.

Mae'n dweud y cyfan tydi!

Yr albwm arall oedd gwaith diweddaraf 'Cowbois Rhos Botwnnog'.  Dwi ddim yn person canu gwlad fel arfer, ac er bod dylanwad yr arddull yna'n drwm yng ngherddoriaeth yr hogiau o Ben Lly^n, mae'n lot mwy na hynny hefyd.   Gyda Dave Wrench yng nghadair y peirianydd, ac yntau a'r Cowbois yn cynhyrchu mae gan 'Dyddiau Du Dyddiau Gwyn' swn arbennig o dda.  Fy hoff gan, o'r naw o ganeuon sydd arno (hyd yn hyn..) yw 'Celwydd Golau ydy Cariad', can 'bachog' sy'n aros yn y cof.  Mae'n siwr bod 'na nifer o 'dyfwyr' ymhlith y gweddill hefyd.   Mae gan prifleisydd Y Cowbois llais andros o angherddol sy'n dod a^ Neil Young i'r meddwl - dim yn peth drwg o gwbl!

Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle gwell i wrando arno nhw dros y dyddia nesaf. 

5 comments:

Unknown said...

Ie - 'O'n i'n mynd i...' yw hanes f'mywyd hefyd.

Anonymous said...

Mi wnes i glywed can Glyneth Glyn 'O’n i'n mynd i' nol yn 2007 ar ôl mynychu cyfweliad yn Abertawe, roeddwn wedi cael cynnig swydd yno ac yn ceisio penderfynu derbyn y cynnig neu beidio, ar ôl clywed y can doedd dim ond un dewis, ac mi ges i 6 mis hapus iawn yn gweithio yn y ddinas.

Diane said...

Fel mae'n digwydd, dw i newydd archebu "Tonau" (fel anrheg benblwydd i fy hunan) ac dw i'n edrych ymlaen at ei glwyed. Dw i'n credu bod gwrando ar gerddoriaeth yn ddull anhygoel i ddysgu'r iaith.

neil wyn said...

ti'n iawn diane, ffordd ardderchog o ddysgu yw gwrando ar ganeuon. ambell i waith dwi wedi clywed cân bo fi heb ei glywed ers flynyddoedd ar y radio, ond erbyn hyn dwi'n gallu deall y geiria'n well. e.e. mae geiria cân y Big Leaves oedd yn arfer swnio i mi fel 'Doug o Nefyn' wedi troi yn 'dy gynefin' wrth cwrs! mwynha Tonnau, mae'n da iawn.

Diane said...

Ie, yn aml iawn dw i'n gwrando ar gan, deall dim ond tipyn bach, ei roi e i'r ochr, wedyn mynd nol iddo ar ol sbel -- a presto, dw i'n gallu deall mwy. Mae'n un o'r profiadau sy'n fy helpu i yn moyn parhau gyda'r iaith.