3.11.11

Llên benywaidd...?

Dwi newydd gorffen 'Mr Perffaith' gan Joanna Davies , llyfr digon ysgafn a dweud y gwir, ac
un a gafodd ei sgwennu fel rhywbeth i ddarllen ar y traeth, ella.   Welais rywun yn ei ddisgrifio fel darn o 'chic lit', ond gefais cryn fwynhad wrth ei ddarllen.. ella mae hynny'n dweud rhywbeth amdana i, dwn i ddim!

Y peth nesaf mi fydda i'n ei ddarllen yw 'Yn y Ty Hwn', gan Sian Northey.  Dwi wedi darllen adolygiadau ffafriol amdano, ac yn edrych ymlaen at her darllen tra wahanol.

2 comments:

Ann Jones said...

Diolch am dy sylwadau, Neil - dwi just wedi darllen dy flog
A dwi wastad yn edrych am
Rywbeth I ddarllen. Gyda llaw, Mwynhais yn y ty
Hwn - Gobeithio gwneu di hefyd

neil wyn said...

Dwi wir yn mwynhau Yn Y Ty Hwn, methu ei roi i lawr dweud y gwir. safon hollol wahanol i Mr Perffaith!