21.12.11

Damcaniaeth ar chwal...

Ges i neges diddorol yr wythnos yma gan aelod o fy nosbarth nos yn dweud ei fod yn gallu esbonio  'cyfrinach' y capel ym Mhenbedw.  Fel perianydd sifil mae o'n cyfarwydd â'r arwydd sydd wedi ei gerfio ar bostyn giât yr hen gapel briciau cochion, a dim byd i wneud efo'r Orsedd ydy o, ond yn hytrach 'benchmark' yr Arolwg Ordanans, sy'n dynodi uchder lleoliadau dros lefel y mor!!  Nad ydy'r symbolau yma'n cael eu defnyddio bellach, ond mae 'na gofnod o'r un yma yn cael ei gwirio gan yr OS  1961.

Er hynny, a diolch i ymchwil Gary, dwi'n gallu cadarnhau y buodd capel Claughton Rd yn gapel Cymraeg cyn i'r eglwys presennol (Emmanuel) cymryd drosodd yn 1918.  Ar fap OS o 1911 mae'n ei alw'r adeilad 'Free Ch. (Welsh)', ond erbyn 1936 mae'r map yn cofnodi bod enwad yr adeilad wedi newid.  Dwn i ddim faint o enwadau 'rhydd' a fodolodd canrif yn ol, ond buodd capel yr Annibynwyr llai na hanner milltir o Claughton Rd yn dyddio yn ol i 1844, a chapel mawr y Presbyteriaid yn Parkfield dim ond rownd y cornel.  Mae'n bosib felly capel y Methodiastiad Weslyaidd oedd o? ond rhaid wneud mwy o ymchwil,  neu ofyn i Dr D. Ben Rees wrth gwrs!

No comments: