18.1.12

Hei-Ho a llyfrau eraill...

Wel dwi wedi dal at fy adduned y flwyddyn newydd am hanner mis o leiaf... er nad oedd yr adduned yn un andros o uchelgeisiol rhaid cyfadde.  Darllen o leiaf un llyfr Cymraeg pob mis am flwyddyn oedd y nod, ac mi lwyddais i orffen 'Pwll Ynfyd' mewn ychydig dros bythefnos.   Mae hyn yn argoeli'n dda, a llwyddais gorffen nofel Daniel Davies 'Hei-Ho' hefyd. 

Nofel 'thriller' ydy 'Pwll Ynfyd' dwedwn i, y cyntaf mewn trilogy am hynt a helynt cymeriad digon hoffus o Fangor uchaf, sef Oswyn Felix.  Mae diweddglo y llyfr yn 'gosod y golygfa' yn perffaith am yr un nesa, gyda Felix wedi gadael ei fywyd fel landlord tafarn, ac ar fin camu mewn i'r byd asiant pel-droed. 

Edrychaf ymlaen!

Yr her nesa o ran llyfrau Cymraeg ydy 'Yr Alarch Du', llyfr dwi newydd lawrlwyddo o safle Amazon, ac un o'r ychydig rhai Cymraeg sydd ar gael yn ddigidol hyd yma. Dwi am weld sut hwyl ga i ei ddarllen ar yr ipad.

2 comments:

sgentilyfrimi said...

Dwi'n falch bod rhywun yn cadw ei addunedau - mi driai'r Pwll Ynfyd yna hefyd.

Ann Jones said...

Neil
Diolch i ti am sgwennu am y llyfrau yma. Dwi'n hoffi thrillers a felly mi fyddaf yn darllen Pwll Ynfyd - a dwi'n hoffi'r ffaith bod yna fwy o lyfrau i ddod yn y gyfres