19.2.12

Yr ydych chi yma

Des i o hyd i lyfr a sgwennwyd gan awdur o'r enw Gee Williams tra ail-drefnu'r ystafell sbar yr wythnos yma.  Mi wnaeth Jill cwrs ysgrifennu creadigol efo hi flynyddoedd maith yn ol.  Mae'r darn 'You are Here' yn son am ei hardal enedigol, sef Saltney, a dwi'n meddwl ei fod o'n ddarn arbennig o dda.  Ges i fy ysbrydoli wedyn i drio ei gyfiethu i'r Gymraeg... gobethio nad ydwi wedi ei ladd llenyddiaeth y darn wreiddiol...

Yr ydych chi yma
 

Seren wib o sir yw Sir y fflint. Digwyddodd, darfu, digwyddodd eto.  Does dim syndod na allai'r mwyafrif o bobl cyfeirio ati ar fap. Fe ges i fy ngheni ynddi, ond diflanodd cyn i mi adael yr ysgol, a llyncwyd gan arch-sir dros dro Clwyd. Wedyn, cwpl o flynyddoedd yn ol, ailymddangosodd, bach yn dreuliedig ar ei hymylon efallai, ychydig o bwysau yn llai, ond dim byd anweddus. Striben o dir main estynedig ar lannau'r Dyfrdwy ydy hi yn y bon. O ffosydd-carthu, gwartheg-rendro, badau-adeiladu Saltney (fy mhentref enedigol - dim ond y Mor Marw sy'n is yn nghramen y ddaear) trwy 'boeri-ar-eich-dwylo' Shotton, cemegolion y Fflint, hyd at tarts baentiedig bler Talacre a Phrestatyn. Mae'r ffordd yn eich ysgogi i gadw troed ar y sbardun rhywsut, nes cyrraedd y gwir Cymru, ei siopau cofroddion Celtaidd, poer penboethiaid defaid, a phob dim i'ch anghenion mynydda a gwersylla, a werthwyd i chi gan bar o therapyddion crisialau amgen. Rhaid bod hon yw'r unig sir ym Mhrydain sydd gan brifddinas (answyddogol) mewn gwlad ar wahan. A beth am yr acen! hunllef ffonolegol o syniau sedêt swydd Caer, lobsgows o lannau Mersi, a chefn gwlad Cymru. 

Mewn gwirionedd hardd yw ei choedlannau a chaeau, ei glynoedd a bryniau, a mewn ambell i achos yn dal eu thir. Nad yw ei phobl dim gwell dim gwaeth na neb arall, ond digwydd bod dyma'r rheiny dwi'n eu nabod.

(cyfieithiad o waith Gee Williams a gyhoeddwyd gan Wasg Gee yn 'Magic and Other Deceptions')

2 comments:

Huw said...

Gwaith da ar ei gyfieithu!

Nes i neidio'r paragraff cyntaf a mynd syth i gorff y testun, a'i ddarllen fel petai wedi ei gyhoeddi'n Gymraeg.

Mae Sir y Fflint yn le arbennig i mi hefyd. Er nad ydwi'n byw ynddi dwi'n gyfarwydd iawn â'r lle drwy deithio, teulu a ffrindiau. Mae rywsut yn ddarn unigryw o Gymru - nid ydych yn cael yr un tirluniau a golygfeydd mewn unrhyw ran arall o Gymru.

neil wyn said...

Diolch Huw am y sylwadau a'r cefnogaeth.