31.3.12

cwrs hyfforddi...

Er fy mod i wedi bod yn tiwtora ers ychydig o flynyddoedd bellach, a wedi mwynhau'n fawr iawn, dwi wastad wedi teimlo braidd yn chwithig am y ffaith nad oes gen i unrhywfath o gymhwyster dysgu. Braf felly oedd cael y cyfle i ddechrau ar gwrs hyfforddiant i diwtoriaid Cymraeg a drefnwyd gan Ganolfan y Gogledd 'Cymraeg i Oedolion', dydd Sadwrn diwitha. Dyma'r cam cyntaf ar drywydd sy'n arwain at gymhwyster dysgu Cymraeg i oedolion, rhywbeth fydd yn fy ngalluogi gweithio fel tiwtor dros y ffin yn Sir y Fflint a thu hwnt.

Lleoliad y diwrnod oedd Canolfan Gymraeg i Oedolion ym Mhangor, lle gaethon ni groeso gynnes a phaned cyn dechrau ar y gwaith caled. Roedd hi'n braf gweld cwpl o wynebau cyfarwydd o'r Wyddgrug ymhlith yr hugain o bobl ar y cwrs, ond fel arfer ffeindiais bawb yn gyfeillgar iawn ac roedd rhaid i ni gyflwyno ein hunain i bawb yn ystod y gweithgaredd cyntaf sef gwers Sbaeneg dwys awr o hyd. Dyna mewn gwirionedd oedd her mwya' y ddiwrnod (er mi fydd 'na heriau llawer mwyaf i ddod mae'n siwr), ond i eistedd yna fel dysgwr mewn dosbarth iaith unwaith eto yn profiad gwerthchweil ar ôl ychydig o flynyddoedd o diwtora. Gafodd wedill y ddiwrnod ei lenwi efo dysgu am y maes Cymraeg i Oedolion, yn bennaf, a lot o wybodaeth am y cyrsiau gwahanol sy'n cael eu cynnig dros y Gogledd, a chip ar wers gan Elwyn Hughes, awdur y cwrs Wlpan a phrif cyd-lynydd cyrsiau yn y Golgledd.

Yn ogystal â hyn dwi wedi cael y cyfle i arsylwi Eirain yn dysgu cwrs Wlpan yn yr Wyddgrug cwpl o weithiau dros yr wythnosau diwetha, sydd wedi bod yn brofiad gwych, er wn i mae gen i lot fawr i ddysgu!


2 comments:

Emma Reese said...

Sut cafodd y wers Sbaeneg ei defnyddio fel rhan o'r cwrs?

Corndolly said...

Ces i'r wers Sbaeneg yn ystod y cwrs hyfforddiant hefyd. Y syniad yw, ar ôl gwneud y wers, bydd y darpar diwtor yn gwybod yn union sut bydd ei ddysgwyr yn teimlo !! Ond aros i ti wneud 3 awr o wers Eidaleg efo Elwyn - Ouch !!

Hoffwn i weld Eirian dysgu Wlpan hefyd, Hmm, dyna syniad ......