29.9.12

Post prin....

Ges i sylw annisgwyl yn ddiweddar (a diolch i Ann am ei sgwennu), yn holi os ro'n i wedi rhoi'r gorau i ddeweddaru'r blog 'ma. I fod yn onest ro'n i wedi cyrraedd pwynt lle nad oedd sgwennu'r blog hyd yn oed yn nghefn fy meddwl, sy'n golygu mae'n debyg, heb y sylw posatif yna na faswn i wedi ei wneud o gwbl. Wedi dweud hynny, ac wrth sgwennu hyn, dw i'n gweld y lles o'i wneud. Mae sgwennu pethau mwy 'swmpus' (yn hytrach na 'mond ambell i drydar) yn ymarfer da i'ch Cymraeg, a rhywbeth dw i heb wneud ers peth amser. Mae'n wneud i chi meddwl am ffurfiau brawddegau ac yn tynnu geirfa ac idiomau o berfeddion y meddwl.

Ta waeth, mae'r misoedd diwetha wedi bod yn hectic ac wedi galw arna i ddefnyddio fy Nghymraeg mewn sawl ffordd heriol, a chyffrous, felly dyma grynodeb sydyn o'r profiadau 'na.

Ysgrifennais yn ôl ym mis Mawrth am y cwrs hyfforddi i ddarpar tiwtoriaid ym Mhangor. Ers hynny dwi wedi bod ar ddau penwythnos hyfforddi eraill, gan gynnwys un lawr yn Neuadd Gregynog, Sir Trefaldwyn penwythnos diwetha. Mae'r penwythnosau wedi bod yn ddiddorol iawn, a lot o hwyl a dweud y gwir, ac dw i wedi cael cyfle cwrdd a llawer iawn o bobl clen, a gobeithio dysgu llawer am sut i ddysgu gwersi da ac effeithiol (mae'r her yn dechrau'r wythnos yma, wrth i mi geisio cofio'r hyfforddiant wrth cyflwyno gwersi cyntaf y tymor newydd). 'Uchafbwynt' penwythnos Gregynog oedd y sesiynau 'meicroddysgu' roedd rhaid i ni gyd cyflwyno i wedill y darpar tiwtoriaid. Roedd pawb wedi cael siawns paratoi gwers 20', ac yn barod erbyn y dydd sadwrn i'w cyflwyno. Roedd hynny wir yn ddigon i godi ofn ar bawb, hyd yn oed rhai o'r athrawon ysgol yn ein plith. Mi es i'n gyntaf, oedd yn beth da mewn ffordd, ac er sawl camgymeriad amlwg mi allai pethau wedi mynd yn llawer gwaeth am wn i. Roedd gen i gyfle wedyn i ymlacio ac yn mwynhau sesiynau pawb eraill! Gaethon ni i gyd adborth y 'dosbarth', ac wedyn adborth unigol (mewn preifat) ac adeiladol gan Elin oedd yn cynnal y sesiwn, profiad gwerthchweil.
Roedd y bwyd yn flasus, y lleoliad yn hyfryd, ac wrth gwrs y cwmni yn dda. Penwythnos i gofio!

Profiad arall yr un mor gofiadwy oedd ymweliad hirddisgwyliedig i Nant Gwrtheyrn. Roedd gen i uchelgais ers flynyddoedd maith (ella ers i mi glywed am fodolaeth y Canolfan Iaith ym Mhen LLŷn tua 30 mlynedd yn ôl) i fynd i ddysgu Cymraeg yno. Ro'n i wedi archebu lle ar gwrs hyfedredd (gloywi iaith) yn ôl ym mis chwefror - fel anrheg penblwydd hael iawn gan fy chwaer. Yn anffodus nad oedd digon wedi cofrestru ar y cwrs 'na, ac roedd rhaid i mi aros tan diwedd mis Awst i gael cyfle i fynychu cwrs arall. O ran y cwrs ei hun gaethon ni lot fawr o idiomau ac eglurhad treigladau o dan arweiniad cadarn Eleri. Mae hi'n diwtores brofiadol iawn gyda'r gallu egluro pethau'n glir ac yn drefnus, ac er nad o'n i ddisgwyl cymaint o ganolbwyntio ar ramadeg, roedd y profiad yn un werthfawr iawn, ac unwaith eto ymhlith criw hyfryd. Gobeithio bod fy Nghymraeg yn adlewyrchu mymryn o'r hyn wnaethon ni ddysgu yno, yn sicr wna i byth 'golchi fyny' eto, 'golchi'r llestri' fydda i'n wneud!!

Sgwenna i ragor am yr ymweliad i'r Nant maes o law.

4 comments:

chwads said...

Falch dy fod wedi mwynhau Gregynog. Pob hwyl efo'r dysgu,
Haydn

Emma Reese said...

Braf darllen dy bost eto. Dw innau hefyd sylweddoli bod sgrifennu blog yn hynod o bwysig i gadw fy Nghymraeg. Dyna pam mod i'n sgwennu bob dydd eleni er gwaethaf diffyg pynciau.

neil wyn said...

Diolch yn fawr Haydn.

Ann Jones said...

Diolch am dod yn ol, ac am dy bost. Mae'n amlwg dy fod ti wedi cael amser diddorol dros ben gyda'r hyfforddi a'r cwrs. Dwi isio fynd i Nant Gwytheyrn hefyd, ond bydd rhaid iddi aros am flwyddyn neu ddau, dwi'n meddwl