4.11.12

Noson efo'r Gymdeithas..

Nos Lun diwetha mi es i i gyfarfod Cymdeithas Cymry Penbedw efo criw o ddysgwyr Cilgwri i
gyflwyno'r sgets a wnaethon ni yn Eisteddfod y Dysgwyr yn ôl ym mis Mawrth,
yn ogystal a cherdd ysgafn Geraint Lôvgreen, 'Bocsys Byrgars McDonalds'!
Roedd 'na griw go lew yno ar y noson, gan gynnwys nifer o ddysgwyr o ddosbarth West Kirby, sy'n cyfarfod pob wythnos o dan arweiniad Tom Thomas  llwydd y Gymdeithas eleni.  Wnaethon nhw gyflwyno darn difyr iawn yn edrych ar y wahaniaeth rhwng tafodiaethau Cymru, a'r 'her' sy'n gwynebu dysgwyr o'u herwydd.

Roedd croeso'r gymdeithas yn wresog, a'r perfformiadau yn dda iawn, yn enwedig o ystyried bod tua chwech mis wedi mynd heibio ers i ni eu cyflwyno'r tro diwetha. Ar ôl y cyflwyniadau wnaeth pawb mwynhau sgwrs, paned a raffl cyn dweud nos da.   Noson gwerth chweil, a diolch i bawb a gymerodd rhan.


1 comment:

Unknown said...

Annwyl Neil,

Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.

Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma: sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).

Os posib i chi gysylltu â mi ar WilliamsL10@cardiff.ac.uk er mwyn i mi yrru mwy o wybodaeth i chi?

Cofion cynnes,
Lowri Williams
CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
Cardiff University | Prifysgol Caerdydd