16.10.05

'Y Byd'

Mi glywais Gwilym Owen yn holi un o'r pobl sy'n gweithio i sefydlu y papur dyddiol Cymraeg gyntaf sef 'Y Byd y wythnos diwetha. Dwi wedi bod yn derbyn e-lythyr ers i mi cofrestru fy niddordeb yn y prosiect tua flwyddyn yn ol. Fel llawer sy 'di gwneud yr un peth mae hi wedi bod cyfnod braidd yn siomedig gan bod pethau'n ymddangos i symud mor araf.

Mae 'na swm o dri cant mil mai rhaid i'r cwmni codi trwy gwerthu cyfranddaliadau (shares) er mwyn sicrhau yr arian cyhoeddus hanfodol i'r cynllun. Erbyn rwan mae'r diffyg lawr i lai 'na dri deg mil o bunoedd (sy ddim yn swm mawr tydi) felly mae'n posib i unrhywun wneud wahaniaeth go iawn trwy prynu cyfranddaliadau. Dwi newydd derbyn pecyn o wybodaeth am buddsoddi felly rhaid i mi pori drosti cyn penderfynu.

www.ybyd.com

2 comments:

Nic said...

Mae'n anhygoel bod y brosiect hyn yn gorfod aros mor hir am swm mor fychan. Dw i wedi buddsoddi ers y Steddfod, ac yn awyddus iawn i ddechrau darllen y Byd.

neil wyn said...

Finnau hefyd. Dwi'n am fuddsoddi ond mae'r holl gohiriadau yn fy mhoeni i braidd. Mae'r brosiect yn edrych yn cyffrous iawn yn ol i'r cyhoeddusrwydd, felly dwi'n gobeithio yn wir fydd y papur yn weld golau'r dydd.