Wel dwi wedi cwblhau fy nghwrs 'Cymraeg Ysgryfinedig level 1', ac yn ol fy nhiwtor mae'r tystysgrif yn y post. Mae rhaid i fi troi fy meddwl at 'Y celtiaid ym Mhrydain' rwan er mwyn gorffen y modiwl hon. Dwi wedi archebu cwpl o lyfrau am y Celtiaid sy'n cael eu cymeradwyo ar gyfer y cwrs, ac yn ol Amazon fydden nhw yma yfory.
A dweud y gwir, dwi'm yn edrych ymlaen at gwneud y traethawd hanes gymaint a hynny sy'n dweud rhywbeth wrthi fi, sef well i mi ganolbwyntio ar wneud cwrs am y Gymraeg yn hytrach na chwrs 'Astudiaethau Cymreig'. Mae 'na ddigon o gredydau ar gael erbyn hyn i gwblhau gradd ar lein yn y dau pwnc, felly dwi'n gobeithio cael sgwrs efo fy nhiwtor yn y Coleg er mwyn penderfynu pa gyfeiriad mi ddylwn i fynd.
3 comments:
Helo 'na unwaith eto, Neil. Dw i'n ymddiddori yn y posibilrwydd o astudio y cyrsiau "MA yn Astudiaethau Celtaidd" trwy Brifysgol Cymru/Llanbedr Pont Steffan. Fel yr wyt ti'n gwybod, dw i'n byw yn yr UDA, a dydw i ddim yn gallu adael fy swydd er mwyn astudio ar hyn o bryd. Dw i wedi anfon cwestiynau i'r athrawes sy'n arwain yr adran, a dw i'n aros am ateb.
Helo Neil, sori i sbamio ond methu darganfod cyfeiriad ebost.
Ti'n meddwl fydde modd i ti osod un o'r baneri yma - http://deddfiaith.org/?t=3 - yn barhaol ar dy flog?
Mae'r nifer o bobl sy'n arwyddo ddeiseb Deddf Iaith arlein wedi arafu yn sylweddol iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac un ffordd da o gael mwy o ymwelwyr i'r wefan ydy trwy osod baner ar flogiau a gwefannau eraill.
Hwyl,
Hedd Gwynfor.
Digwydd bod dwi newydd siarad efo Carol Thomas ar y ffon (dwi'n meddwl bod hi'n trefnu'r cyrsiau e-addysg Coleg Llambed) Roedd hi'n gallu helpu fi penderfynu pa gyfeiriad i fynd, sef rhwng anelu at gradd yn y Gymraeg neu yn 'Astudiaethau Cymreig' (mae'r iaith yn diddori fi yn mwya' felly dwi'n mynd yn y cyfeiriad 'Cymraeg' ond mae hanes y celtiaid yn diddorol dros ben hefyd). Pob lwc, Neil
Post a Comment