2.11.06

esgusodion

Er bo fi ddim wedi gwneud llawer o flogio y fan'ma dros y wythnosau diweddar, dwi wedi bod yn gweithio cryn dipyn ar fy Nghymraeg. Dwi'n darllen nofel newydd Bethan Gwanas ar hyn o bryd, ac fel mae'n dweud ar y clawr (tydi nhw ddim yn dweud pwy dwedodd!), ond dipyn o 'clincar' ydy hi. Dwn i ddim ystyr y gair, sdim son amdanhi yn y geiriadur mawr, ond mae'n swnio'n addas. Dwi'n hanner ffordd drwyddi erbyn hyn ar ol tua wythnos sy'n clamp go iawn i finnau, mor araf ydwi yn darllen mewn unrhyw iaith. Ar wahan i'r darllen dwi'n gweithio ar draethawd am y 'Celtiaid ym Mhrydain' sy'n rhan o fy nghwrs Llambed, ac mae hyn wedi achosi anhawsterau go iawn i mi, er bo fi'n sgwennu hi'n Saesneg, mae'n ymddangos llwyth o waith er mwyn enill 10 o gredydau yn cymharu i'r modiwlau arall dwi 'di cwblhau yn barod. O wel,nol at y Celtiaid...

2 comments:

Anonymous said...

Dwi di bod meddwl am geisio nofel Cymraeg, ond ddim yn siwr ble i ddechrau. Rhywbeth sydd dddim yn rhy annodd (gan fy mod i ddim isho dreilio'r gweddill y blwyddyn yn darllen hi). Pa mor annodd fyddet ti'n dweud yw Bethan Gwanas i ddarllen, i ddysgwyr? Galla i darllen pethau fel Golwg / Y Cymro heb lot o broblemau...

neil wyn said...

Faswn i'n dweud os ti'n ymdopi efo Golwg a'r Cymro, ddylet ti ddim yn cael gormod o drafferth efo nofelau Bethan Gwanas. Mi ddechreuais i efo ei llyfrau i ddysgwyr (cyfres Blodwen Jones) ac wedyn symudais i at llyfr i bobl ifanc (Sgor), ac wedyn at 'Gwrach y Gwyllt'. Yr unig peth sy'n gallu bod yn annodd weithiau ydy pan mae hi'n sgwennu deialog mewn tafodiaethau, ond dim ond rhywbeth i ddod i arfer efo hi ydy hyn.