13.10.07

ar goll yn y Ffrainc...


Dwi wedi cyfeirio at y llyfr 'Lost in France' gan Spencer Vignes o'r blaen ar y blog hon, ond o'r diwedd dwi wedi cael gafael yn gopi ohono. Bywgraffiad un o fy hendeidiau ydy o, sef Leigh Richmond Roose, cyn golgeidwad Cymru, a nifer o glybiau mawr ei gyfnod (hynny yw dechrau'r hugeinfed canrif) a gafodd cryn dylanwad ar 'grefft' y golwr, ac ar reolau gêm y pêl crwn. Mae gen i ddidordeb teuleuol wrth cwrs, ond er hynny, llyfr difyr iawn ydy o, un sydd wedi derbyn clod nifer o adolygwyr y wasg Prydeinig erbyn hyn.

Mae teitl braidd yn 'anffodus' y llyfr (dwi'n methu cael gwared swn Bonnie Tyler yn canu ei chan o'r un enw yn fy mhen!) yn cyfeirio at y ffaith mi gafodd L.R. Roose ei golli ym maw a llaid ffosydd y rhyfel mawr, er yn ôl clawr y llyfr, mae'r awdur wedi llwyddo bwrw golau ar ddirgelwch ei ddiflaniad yn ystod ei waith ymchwil. Felly edrychaf ymlaen at ail hanner y hanes.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Mae'n swnio'n hanes difyr. I ba glybiau chwaraeodd o?

neil wyn said...

Dechreuodd gyda Aberystwyth! cyn symud ymlaen at clybiau megis Stoke City, Everton, Sunderland, Aston Villa ac Arsenal. Tipyn o gymeriad roedd o yn ôl pob son, a fwynheuodd ei enwogrwydd a'i statws sengl cymaint a phosib;)