29.10.07

Borders am lyfrau....

Mi wibiom ni mewn i 'Borders' dydd sadwrn wedi trip i'r pictiwrs yn Cheshire Oaks (i weld 'Stardust', ffilm anturiaeth i'r teulu go dda). Pob tro dyni'n mynd i'r archfarchnad llyfrau hon, dwi'n anelu yn syth (wel ar ôl i mi mynd â'r ferch i'r adran plant) at yr adran 'ieithoedd' er mwyn gwirio allan be' sgynnon nhw ar ran dysgwr y Gymraeg (sydd fel arfer yn eitha da am siop yn Lloegr).

Y tro 'ma, mi sylwais ar gasgliad o nofelau Cymraeg hefyd! wel mi ges i dipyn o sioc i'w gweld a dweud y gwir, er mai siop gwirioneddol anferth yw hi. Dim ond tua chwech neu wyth o nofelau sydd ar gael, gan cynnwys cwpl o glasuron megis 'Cysgod y Cryman', ac ychydig o bethau cyfoes (Bethan Gwanas er enghraifft). Mi ddetholais lyfr o'r enw 'Traed Oer' gan Mari Emlyn, mae rhaid i mi gyfadde oherwydd cynllun proffesiional ei chlawr yn rhannol, ond o'r ychydig o pennodau dwi wedi darllen hyd yn hyn, dewis doeth (wel lwcus) oedd hi. Mae'r pennod gyntaf yn orffen gyda troad da yn cysylltiedig gyda rhech annisgwyl rhwng y cynfasenau...

Gobeithio'n wir felly mi fydd y nofel hon yn llenwi'r bwlch dwi'n teimlo wedi i mi orffen llyfr Fflur Dafydd, ac cyn i mi gael gafael yng nghopi o stori newydd Llwyd Owen, Yr Ergyd Olaf.

2 comments:

James said...

Dyna ddim sylw am dy bost ond yn lle mae cwestiwn gyda fi am dy gi di. Ydy e'n corfilgi or milgi? Mae e/hi'n ciwt iawn yn wir. Mae corfilgi gyda ni pwy ydy 1 1/2 blwydd. Gobeithaf mae pob yn mynd da iawn.

neil wyn said...

S'mae James, yndy, corfilgi yw Layla, pumtheg mis oed erbyn hyn.

Mi welais i dy luniau di, ciwt iawn hefyd! Mae corfilgwn yn gŵn cariadus dros ben ond'ydyn, ac mae'n bendigedig i'w gweld nhw'n rhedeg.