Mae'n ychydig o flynyddoedd ers iddyn ni mynd am dro i fyny Moel Famau. Dwi ddim yn gwybod pam, mae hi'n taith hyfryd iawn sy'n eich gwobrwyo gyda golygfeydd godidog ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt ar ddiwrnod braf. Er roedd yr haul yn disgleirio ddoe, ychydig yn dawchlyd (hazy?)a dyfrllyd roedd hi, ni welon ni mynyddoedd Eryri, neu eglwysi cadeiriol Lerpwl fel y disgwyl. Roedden ni'n gallu cadael y ci Layla oddi wrth ei thenyn trwy'r taith beth bynnag, a chafodd hi gyfle i chwarae gyda sawl ci arall ar hyd y ffordd, heb iddyn ni poeni llawer oherwydd diffyg defaid ar lethrau'r mynydd/bryn,
2 comments:
Braf iawn arnat ti Neil, ac mae'n amlwg fod Layla wedi mwynhau ei hun hefyd!
Yn cofio gwneud taith gerdded o'r mast ger Bodffari [ wedi anghofio'r enw sori] i ben Moel Famau efo'r ysgol flynyddoedd maith yn ôl.
Mwynhâd pûr...
Tesog ydi un gair am 'hazy' (a tes ydi haze).
Dwi dal heb fod fyny Moel Famau, ond mae o ar y rhestr 'to do'. Dwi yn y cyffiniau yna yn reit aml dyddia ma gan fod rhieni fy ngwraig yn byw yn Nhrelawnyd. Sdim esgus rhag gneud detour bach i gerdded i'r top ar y ffordd nol i Aber rywbryd.
Post a Comment