31.12.08

Blwyddyn newydd... delwedd newydd...

Blwyddyn newydd dda!! Dwi wedi treulio tipyn o amser dros y gwyliau yn ailfampio'r hen flog 'ma, a dyma fo wedi ei orffen (wel bron) yn ei newydd gwedd ar gyfer 2009! Yn ogystal â newid golwg y blog, dwi wedi ymdrechu 'cymraegeiddio' golwg y tudalen trwy cael gwared o'r Saesneg sy'n brithio'r patrymluniau gwreiddiol. Dim ond diogrwydd sydd wedi fy atal rhag gwneud hyn yn gynt a dweud y gwir, ond dwi'n falch fy mod i wedi trafferthu rwan, ac mae'n edrych yn fwy 'unffurf' erbyn hyn.

Na alla i gymryd unrhyw clod ar gyfer y llun newydd sy'n goleuo brig y tudalen rhaid i mi gyfadde. Mi ddes i o hyd iddi hi ar y we mewn gwirionydd, er mae'n golygfa sy'n ddigon cyfarwydd iddyn ni, ac o fan'ma yn West Kirby gafodd y llun ei dynnu, ac mai Gogledd Cymru yw'r tir yn pellter. Mi aethon ni â'r ci lawr i'r traeth y bore 'ma a chafodd 'Layla' syndod mawr wrth ceisio troi ei 'brêcs' ymlaen wedi cyrraedd ei thegan. Roedd y llanw wedi rhewi ar wyneb y traeth ar ei ffordd allan, a wnaethpwyd rhan o'r traeth i gylch sglefrio enfawr, rhywbeth dwi heb gweld o'r blaen, ond rhywbeth a wnath ein taith arferol tipyn bach gwahanol ar ddiwrnod arbennig

1 comment:

Corndolly said...

Blwyddyn Newydd - Blog Newydd - Dw i wedi gwneud yr un peth !! Ond syniad da i newid pethau ar ddechau'r blwyddyn. Rhywbeth newydd ar ôl i ti agor dy flog. Dw i'n hoffi'r machlud hefyd, efallai, wna i chwilio am lun newydd, dim yn siŵr eto.