7.1.09

Dim ymennyddwr....


Stopiais y car bore ddoe ar y ffordd i'r gweithdy, yn bennaf er mwyn rhyfeddu ar y cwmwl unig oedd yn hongian dros Glannau Dyfrdwy. Roedd hi fel rhai gwmwl 'madarchen' gwastad, a dynodd fy sylw oherwydd diffyg cymylau eraill. Rhyfeddais hefyd ar erwau gwyneb y llyn morol, roedd min y dŵr wedi dechrau rhewi, rhywbeth sy'n digon anghyffredin ochr yma, gan fod dŵr hallt y môr yw prif cyflenwad y llyn. Wedi ychydig o bendroni, wnes i sylweddoli bod pwerdy nwy Cei Connah oedd ffynhonell y cwmwl annaturiol o fy mlaen, nid canlyniad damwain afiach cemegol yn 'Stanlow'! Ond wedi ychydig o ryddhad mi welais eironi y sefyllfa. Mae'r cwmwl hon yn arwydd gweladwy o sut gymaint o nwyon dyni'n rhyddhau i'r awyr trwy'r dydd a'r nos, nwyon sydd yn ôl pob son yn achosi'r newid yn yr hinsawdd, ac hynny yn ei tro yn debyg o galedu ein gaeafau ni (wel ym Mhrydain o leia), sy'n cynyddu'r galw am ynni... mae'n cylch cythreulig perffaith! Pe taswn i wedi troi o gwmpas, mi faswn i wedi gweld fferm gwynt enfawr ar y gorwel, un sy'n ddigon deiniadol (yn fy Nharn i), ac heb gwmwl enfawr uwchben. Roedd na fwy o ddadlau yn y wasg yr wythnos 'ma, ynglŷn â datblygiad 'Gwynt y Môr', anferth o fferm gwynt sy'n ar fin cael ei codi ger Llandudno. Mae criw o'r enw 'Save our Scenery' yn cwyno am yr effaith gallair datblygiad cael ar dwristiaeth yn ardal Llandudno. Ar fore eithafol ar ran y tywydd, roedd y peth yn teimlo fel 'no brainer' o safpwynt fi...

2 comments:

Chris Cope said...

Dwi ddim yn deall pobl sy'n cwyno am ffermydd gwynt chwaith. Maen nhw'n cydnabod nad ydynt yn niweidio'r hinsawdd ac maen nhw'n cydnabod y mae moddion eraill yn achosi niwed. Yr unig cwyn yw taw "hyll" ydynt. Onid yw pwerdy'n hyll? Ac os rydym ni'n meddwl am fodd gwell yn y dyfodol, onid yw'n haws torri lawr fferm gwynt? Fydd hi ddim wedi llygru dim.

neil wyn said...

Mae hynny'n pwynt da Chris, pe tasen ni i benderfynu tynnu lawr pob un melyn gwynt, ni fasai yr un craith i weld. Gallech chi ddim dweud yr un peth am bwerdai fel Wylfa neu Trawsfynydd, ac yn y llefydd hon mae 'na greithiau anweledig hefyd, rhai sy'n mynd i boeni sawl genedlaeth yn y dyfodol mae'n debyg...