14.4.09

penblwydd llawn tristwch...



Mae'n annodd credu bod hugain mlynedd wedi pasio ers i drychineb Hillsborough digwydd. Dwi'n cofio'r ddiwrnod yn glir, roedden ni'n digwydd bod yn aros efo ffrind mewn carafan yn Harlech. Roedden ni wedi bod allan am dro ar y traeth, ac ar ôl iddyn ni ddychweled i'r carafan dyma ni'n troi'r teledu ymlaen i weld y gêm, ond wrth cwrs wnaethnon ni ddim gweld gêm, dim ond sawl aelod o'r torf yn cael eu gwasgu yn erbyn ffens 'diogelwch', a chyrff y meirw, a'r rhai efo anafiadau difrifol yn cael eu cludo i ffwrdd o'r cae ar gefn byrddau hysbysebion gan eu cyd-cefnogwyr. Roedd hi'n oriau cyn ddaeth gwir faint y drychineb i'r amlwg, ac doedd neb yn gallu coelio'r peth mewn gwirionedd, efo 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi eu lladd ar ddiwrnod heulog oedd i fod yn ddathliad o beldroed ar ei gorau.

Er gwaethaf y blynyddoedd mawr sydd wedi mynd heibio, mae'r creithiau'n dal i fod yn boenus i'r teuleuoedd a gollodd annwyliaid yna, a dwi'n cael fy atgoffa pob tro mod i'n mynd i'n mynwent lleol i ymweled â beddau aelodau'r teulu. Yn fan'na, yn goch a gwyn i gyd yw bedd un o'r 96, a'r cofeb taclus a lliwgar i'w fywyd byr.

Cafodd neb eu cosbi dros Hillsborough (er mae'n sicr wnaeth nifer o benderfyniadau annoeth arwain at y canlyniad trychinebus), dim ond y cefnogwyr druan wnaeth colli eu bywydau, heb gofio'r miloedd oedd yn dystion i'r golygfeydd arswydus a'u teuleuoedd a'u ffrindiau. Mae sawl wedi eu amau o fod yn gyfrifol dros y degawdau, FA Lloegr, yr heddlu, hyd yn oed y cefnogwyr eu hun, er mawr cywilydd gan bapur newydd y 'Sun'. Hyd heddiw mae gwerthiant y tabloid unsillafog ar Lannau Mersi'n dim ond deg y cant o'r hyn yr oedd hi cyn i Kelvin McKenzie sgwennu ei eiriau gwenwynig am gefnogwyr Lerpwl. Mae'r ffaith bod cefnogwyr Everton wedi sefyll yn sownd ochr wrth ochr efo cefnogwyr Lerpwl ynglŷn â hyn yn dweud cyfrolau.

Ond trwy Hillsborough, a'r adolygiad a ddaeth yn ei sgil, mae stadia dros y Deyrnas Unedig wedi eu gwneud yn fwy diogel, a ni ddylai trychineb o'r fath digwydd eto, gobeithio'n wir...

No comments: