11.4.09

fy nghyfaill newydd....



Mi aethon ni dros y dŵr heddiw er mwyn cyfarfod dynion dur Antony Gormley, sef y cerflun(iau) rhyfeddol o'r enw 'Another Place' sy'n sefyll ar hyn o bryd ar draeth Crosby ar gyrion dinas Lerpwl. Roedd y tywydd yn hyfryd a chawsom ni dro braf ar dywod aur glannau'r Mersi yn mynd o un corff dur i'r llall, ac mae na ddigon ohonynt i'w gweld, rhai gant dwi'n credu, yn ymestyn dros tair cilomedr o'r traeth. Dwn i ddim be i wneud o'r cerflun a dweud y gwir, ond heb os mae nhw wedi dennu miloedd ar filoedd o ymwelwyr i'r ardal i sythu mewn syndod a sylwebu.



Un o'r dynion dur Gormley yn edrych ar gwch 'tug' yn gadael y Mersi


Mae'n anhygoel dod o hyd i draeth mor braf dim ond tafliad carreg o borthladd 'container' enfawr Seaforth, ac mae'r tywyni tywod yn para am filltiroedd lawer hyd at Southport a thu hwnt. Fel cefndir ysblenydd i'r celfyddyd awyr agored, roedden ni'n gallu gweld mynyddoedd Eryri, gan cynnwys Copa'r Wyddfa a sawl arall.

No comments: