12.6.09

Camp y Copa.....

Er flwyddyn yn hwyr, mi agorodd 'Hafod Eryri' yn swyddogol heddiw mewn tywydd bendigedig ar ôl yr holl anhawsterau yn ystod y 'build' (fel mae nhw'n dweud ar 'Grand Designs'). Mae hi'n edrych fel adeilad sy'n rhan o'r mynydd bron, yn addas i'w sefyllfa, ac yn llawer gwell na'r hen garbyncl concrît gan Clough Williams-Ellis!

Dwi'n edrych ymlaen at ymuno â'r heidiau ar y copa rhywbryd yn ystod yr haf!

3 comments:

Emma Reese said...

a finna!

Corndolly said...

a finnau os bydd hynny yn bosib i ni.

neil wyn said...

Roedd pris y diodydd ac ati yn llai (yn answyddogol mae'n siwr!)i siaradwyr Cymraeg yn yr hen le yn ôl pob son, tybed os bydd y traddodiad hynny'n parhau?