23.6.09

Dosbarth Mynediad Cilgwri (pennod 2!)

Mae'n ddrwg gen i (I'm sorry), mae hi'n dydd mercher a dwi ddim wedi postio blog eto!

Dani'n mwynhau tywydd gwych (brilliant) yr wythnos yma yng Nghilgwri. Sut dach chi i gyd yn ymdopi (cope) efo'r gwres (heat)? Dwi'n hoffi eistedd yn y cysgod efo cwrw (beer) oer yn fy llaw (hand), yn darllen llyfr da efallai (perhaps)!

Dwi wedi prynu llyfr Cymraeg newydd i ddarllen dros yr haf, un sy'n edrych yn hafaidd (summery) iawn. Enw'r llyfr ydy 'Y Maison du Soleil', stori am griw (crew) o ffrindiau yn aros dros yr haf mewn tŷ yn y Ffrainc.

Yn sôn am (talking about) yr haf, mae 'na ddigwyddiad (event)newydd cyffrous (exciting) yn digwydd (happening) yn Yr Wyddgrug (Mold) dros yr haf. Mae gŵyl cerddorol (music festival) Y Ffin, yn brolio (boasts) 'line-up' da o artistiaid (artists) Cymraeg a Saesneg, yn cynnwys (including) 'Sibrydion', 'Derwyddon Dr Gonzo' a 'Racehorses' (formerly known as - 'Radio Luxembourg' - gynt). Mi fydd y wefan (website) yn gweithio yn fuan (soon) gobeithio! Y peth gorau ydy mi fydd popeth am ddim (for nothing - free)!

Ta waeth (anyway) mwynhewch y tywydd braf, tan y tro nesaf (till next time) hwyl...

2 comments:

Corndolly said...

Dw i wedi prynu'r un llyfr ac dw i wedi dechrau ei ddarllen yn barod. Mae'r stori'n chwilfrydig. Mae'r tyndra'n codi yn syth o ddechrau. Bydd y llyfr yn mynd efo fi i Nant Gwrtheyrn yfory.

People's Front of Judea said...

Rhy boeth heddiw. Rhy boeth ddoe.
Rhy boeth 'fory.
Noswaith da dosbarth (arthrawon hefyd!)-sut dach chi?
Be gaethoch chi i cinio?
Mi ges i frechdan caws (Caerphilly dw i'n meddwl)
Treiffl hwyr falle....blasus iawn!
Bala Awst? Dw i ddim yn medru mynd
ar 5th neu 6th.
Dw i'n mynd i faes parcio sy ddim yn rhy ddrud.
Bendegedig....