14.6.09

Dosbarth Mynediad Cilgwri...

(geirfa/vocab at bottom)

Fel wnes i ddweud nos fawrth diwetha, dwi'n mynd i drio ysgrifennu rhywbeth yma pob dydd mawrth dros yr haf er mwyn cadw mewn cyswllt efo aelodau dosbarth nos 'Mynediad' Cilgwri.

Amser cinio dydd iau, mi es i i'r Wyddgrug efo'r cadeiriau bach. Mi ges i baned o goffi yn swyddfa Menter iaith (Welsh language initiative), ac roedd hi'n braf siarad efo Rhian unwaith eto, un o'r pobl sydd wedi helpu fi'n fawr iawn dros y flynyddoedd i wella fy Nghymraeg.

Roedd hi'n penwythnos gwych i fod yn yr awyr agored, ar y traeth neu yn y mynyddoedd efallai. Wnes i weld darn ar y newyddion dydd iau am 'agoriad swyddogol' Hafod Eryri, caffi/canolfan newydd ar gopa'r Wyddfa. Mae'n edrych yn wych, a dwi'n gobeithio cerdded i fyny dros yr haf efo'r teulu... rhywbryd!

Tan y tro nesaf, hwyl fawr.

ysgrifennu - write
rhywbeth - something
er mwyn - in order to
cadw - keep
cyswllt - contact
aelod(au) - member(s)
unwaith eto - once again
(g)wella - To improve
(g)wych - brilliant
awyr agored - open air
darn - piece/part
agoriad swyddogol - official opening
canolfan - a centre
C(g)opa - summit

4 comments:

Corndolly said...

Faint o dy ddosbarth y bydd yn darllen hwn, wyt ti'n meddwl? Syniad da i gadw mewn cyswllt yw hyn. Amser peryglus i ddysgwyr ydy'r Haf cynaf ond os ydyn nhw gallu darllen rhywbeth sy wedi cael ei ysgrifennu gan eu tiwtor bydd yn eu hannog i ddal ati dros y gwyliau.

neil wyn said...

Ychydig gobeithio! ond mae'n seibiant eitha hir 'tydy?

Mae 'na rai sy'n son am fynychu'r prifwyl yn Y Bala un ddiwrnod, ac o'n i'n meddwl mi fasai'n ffordd o roi wybod i bawb am ba ddiwrnod ac ati, er mwyn i ni gyfarfod ar y maes o bosib. Mae'n sicr mi fydd bwlch o dua tri mis yn prawf i awydd rhywun dysgu'r iaith, ac mi fydd y rhai sydd wedi llwyddo dal ati dros yr haf efo fantais erbyn yr hydref. Gawn ni weld....:)

People's Front of Judea said...

Caffi ar y Wyddfa=ofnadwy!
'Cofio Dryweryn'
Roedd hi'n bwrw glaw yn Cilgwri heddiw ond gobeithio mi fydd hi'n gwella yfory.
Unlike fy nghymraeg.....
Hwyl fawr.
p.s. dwi'n mynd i siopa i gaer yfory efo fy nwraig i. Bendegedig...
(ahem)

neil wyn said...

Dwi'n cytuno, dwi ddim yn hoffi'r gor-masnacheiddio (over commersialization) o lefydd (places) fel Yr Wyddfa, ond mae'r lle newydd yn edrych yn well na'r un 'concrete'

Mwynhewch y siopa yng Nghaer!!