9.6.09

Y flwyddyn cyntaf yn dod i ben...

Mae'n annodd credu a dweud y gwir, ond dwi wedi cwblhau fy mlwyddyn cyntaf yn gweithio fel tiwtor Cymraeg. Wnaethon ni ymlacio tipyn bach yn y dosbarth heno, nid gymaint o waith galed. Mi wnaethon ni oedi ychydig yn hirach na fel arfer yn yr ystafell lluniaeth, gan roedd Wendy wedi dod â llond blwch o'i chacennau 'tylwyth teg' blasus unwaith yn rhagor er mwyn dathlu diwedd y cwrs. Dwi'n falch o ddweud bod y rhan mwyaf o'r grwp wedi rhoi eu henwau lawr i wneud y cwrs flwyddyn nesa, sy'n hwb mawr i fy hyder i. Yn ôl pob son, un o'r cyrsiau mwyaf llwyddianus oedd y Cymraeg eleni efo'r dau ddosbarth (dosbarth David a fy nhosbarth i) yn cadw niferoedd reit parchus, mi fydd y Coleg yn cynnig trydydd flwyddyn hefyd ym mis medi am y tro cyntaf dwi'n credu!

5 comments:

Emma Reese said...

Llongyfarachiadau ar dy gamp fawr!

Corndolly said...

Da lawn ti. I fod yn gallu cadw myfyrwyr ffyddlon ydy camp fawr wir ! Wyt ti'n mynd i'w dysgu nhw dros yr ail flwyddyn?

neil wyn said...

Diolch am y sylwadau cadarnhaol!

Bydda, mi fydda i'n eu dysgu nhw dros yr ail flwyddyn gobeithio, er dim ond ail hanner y cwrs mynediad mi fydd hi, oherwydd ni'n gweithio ar gyflymder hamddenol!

Linda said...

Anodd meddwl fod 'na flwyddyn wedi mynd heibio ers i mi ddarllen am y cwrs ar dy flog. Mae'n grêt clywed fod pob dim wedi mynd yn dda i ti , ac i'r myfyrwyr.
Llongyfarchiadau calonog i ti Neil !

People's Front of Judea said...

Dw i Brian a fy ngwraig i hefyd!