3.6.09

Y gweithdy yn barod...



O'r diwedd dwi'n gallu cynhyrchu pethau yn y gweithdy clud newydd! Mae hi wedi bod dros mis o wneud dim byd ond clirio allan, symud peirianwaeth drwm a chael gwared o sbwriel (hynny yw stwff dwi heb ei defnyddio am flynyddoedd). A dweud y gwir mae'n teimlo fel ryddhad fy mod i'n gallu gwneud pethau unwaith eto.

Digwydd bod y jobyn cyntaf mi wna i yn y lle newydd yw set o dri cadeiriau bach ar gyfer 'Stomp y Tegeingl' (mi fydden nhw'n cael eu rhoi fel gwobrau, dyna be sy'n ar y fainc yn y llun yma wnes i dynnu y p'nawn 'ma). Does dim problem efo gweithdy llai efo jobyn bach fel hyn, ond mae'n mynd i fod yn her i gadw'r gweithdy newydd yr un mor daclus ag y mae hi heddiw, ond tria i fy nghorau ta waeth!

3 comments:

Emma Reese said...

Ella y byddi di'n gwneud cadair i'r Eisteddfod cyn hir!

Corndolly said...

Ga i ofyn os wyt ti'n gweithio yn y gweithdy newydd fel hobi, neu wyt ti'n ei ddefnyddio fo i wneud dy fywoliaeth? Mae gan fy ngŵr weithdy ond dydy o ddim mor daclus â dy weithdy, rhaid i mi ddweud.

neil wyn said...

Ella'r tro nesa i'r Eisteddfod dod i Lerpwl!!

Nad ydy'r gweithdy'n edrych mor daclus fel arfer Ro, rhaid i mi gyfadde, ond yndw, dwi'n trio crafu bywoliaeth yn gweithio fel saer dodrefn (cabinetmaker), yn ogystal a chwpl o oriau o diwtora!