13.2.10

am ddiweddglo...


Shane Williams yn rhoi halen ym mriw yr Alban....

Welais i erioed diweddglo mor gyffrous i gêm rygbi! Dyna Gymru yn dri pwynt ar ei ôl gyga dim ond eiliadau i fynd pan gafodd Lee Byrne ei faglu gan un o'r Albanwyr. Gafodd y Sgotyn ei anfon yn syth at y 'cell cosb' i ymuno ag un o'i gyd-chwaraewyr oedd yna'n barod. Dewisodd Gymru mynd am y pyst efo'r cic cosb, a thrwy hynny dod â'r sgôr yn gyfartal efo'r cloc yn troi'n goch. Digon teg meddyliais, rhaid bod yn hapus efo gêm cyfartal ar ôl perfformiad sâl gan Gymru fel y cyfriw, ond roedd 'na un droad arall yng nghynffon y gêm. Penderfynodd y dyfarnwr caniatau un gyfnod arall o chwarae. Gyda'r Albanwyr yn methu ffeindio'r ystlys efo'r cic ail-ddechrau, mi ddaeth Cymru ar eu holau efo mantais dau ddyn, ac ar dân eisiau cadw'r pêl yn fyw. O fewn munud neu lai, dyna'r pêl yn ffeindio dwylo Shane Williams o flaen y pyst. Roedd Stadiwm y Mileniwm yn ferwi drosodd wrth iddo fo groesi'r llinell cais gyda braich yn yr awyr cyn glanio'r pêl i selio buddugoliaeth bythgofiadwy, ... am ddiweddglo i gêm rygbi!

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Bythgofiadwy, nid anghofiadwy?

neil wyn said...

Wwps, diolch Alwyn (dwi'n dweud wrth cochi)..