1.2.10

Marc ac Expenses...

O bryd i'w gilydd mi awn ni i'n M&S lleol i brynu bwydydd. Mae gynnon ni dueddiad i feddwl efallai bod yr hyn wnawn ni brynu yno o safon gwell rhywsut (er braidd yn drud) o gymharu i'r archfarchnadoedd cyffredinol, dwn i ddim. Mi gafodd y teimlad hynny ei gadarnhau gan gyfaill oedd yn arfer gweithio fel 'gwyddonydd bwydydd' efo'r cwmni.

Ond clywais ddarn ar y newyddion heno y bydd yn wneud i mi ailfeddwl bod yn cwsmer 'Simply Food' o gwbl... mae gan M&S rhywun newydd wrth y llyw, sef boi o'r enw Marc Bolland, cyn bos Morrisons. Mi gafodd Bolland ei 'ben-hela' gan M&S, ffaith sy'n golygu fydd rhaid iddynt talu iawndal sylweddol i Morrisons, yn ogystal a chynnig cyflog enfawr a phob math o opsiynau cyfrandaliadau a 'fanteision' eraill iddo. Yn ôl amcancyfrifon y cyfryngau mae gynno fo fodd o ennill £15 miliwn yn ei flwyddyn cyntaf efo'r cwmni enwog!

Dwn i ddim amdanat ti, ond dwi'n methu gweld o le, ar wahan i'n pocedi ni, mae'r holl arian yno'n dod. Fydda i'n meddwl dwywaith cyn gwario gormod yna'r tro nesa..

No comments: