Daliais ychydig o raglen Y Byd ar Bedwar heno, yr un i wneud ag achos Bryn Fôn a'r ymgyrch llosci tai haf rhai hugain mlynedd yn ôl. Mi gafodd y canwr/actor poblogaidd ei arestio a'i ddal am drydiau ar amheuaeth o gael cysylltiad efo'r mudiad cyfrinachol 'Meibion Glyndŵr'. Doedd dim sail i'r cyhuddiad yn ôl Bryn Fôn, ond mae un ddamcaniaeth yn cyfeirio at eiriau un o'i ganeuon (Meibion y Fflam!) er mwyn esbonio gweithred yr heddlu, hynny a phecyn amheus a gafodd ei canfod tu mewn i wal ar dir ei gartref ger tŷ ei deulu.
Erbyn hyn mae rhai o bapurau'r achos wedi cael eu trosglwyddo i Bryn Fôn, er mwyn iddo fo geisio clirio ei enw, a phrofi a gafodd o ei fframio gan 'y glas'. Ond efo'r mwyafrif o'r papurau sydd wedi eu rhyddhau o dan 'pen du y sensor' (rhag ofn iddyn nhw datgelu tactegau'r heddlu!!), does fawr o bwrpas iddynt cael eu ryddhau o gwbl. Yn ôl arbennigwr yn y maes 'rhyddid i wybodaeth cyhoeddus', mae 'na siawns y geith mwy o'r cyfrinachau eu datgelu wedi apêl, ond pwy a wir!
Ta waeth, mi es i ar wefan S4Clic heno 'ma er mwyn dal gweddill y rhaglen ond doedd dim cip o'r rhaglen yma o gwbl, dim ond y rhaglen o'r wythnos diwetha...?
Tybed os mae 'na gydgynllwyn o hyd!? neu falle dim ond gwefan S4C sy'n araf...
1 comment:
Newydd gweld bod y rhaglen ar gael y bore 'ma, gwerth ei weld hefyd, ond paid â disgwyl atebion, dim ond cwmwl dros pencadlys yr heddlu..
Post a Comment