11.2.10
Glyn Dŵr
Derbyniais fy ngopi ail-law o 'Owain Glyndŵr, Trwy ras Duw Tywysog Gymru' trwy'r post bore ddoe. Mae'r llyfr newydd ei gyfieithu i'r Saesneg, ac er bod y fersiwn Cymraeg gwreiddiol allan o brint (ar hyn o bryd), llwyddais gael hyd i gopi trwy Amazon.
Dwi ddim yn person darllen hanes fel arfer, ond darllenais adolygiad mor ffafriol am y llyfr bach hwn, penderfynais roi gynnig arno. A dweud a gwir, pe taswn i ddim wedi darllen amdano, ni faswn i wedi edrych arno'n ddwywaith, mor sal ydy golwg y clawr, yn nhraddodiad y wasg Cymraeg...! Ond wedi ei brynu o, ro'n i ar dân eisiau ei ddechrau, a ches i ddim fy siomi wrth wneud. Dyma lyfr bach gwych, sy'n dod â'r hanes i gyd yn fyw mewn ffordd crefftus a gafaelgar. Cyn ei farwolaeth yn 2005, roedd yr Athro Rhys Davies yn un o'r prif arbennigwyr yn hanes y canol oesoedd, ac y prif awdurdod mae'n debyg ar Glyn Dŵr. Ges i fy synnu a dweud y gwir, bod rhywun mor ddysgedig, ysgolhaig uchel ei barch yn sgwennu llyfrau gaiff unrhywun ei fwynhau, ond dyna be' wnaeth o. Dwi wedi darllen bron hanner o'r 138 tudalen heddiw! a credwch chi fi, dyna camp go iawn i mi, ac yn prawf bod y llyfr yn andros o ddarllenadwy.
Dim ond gobeithio ydwi bod Y Lolfa yn gwella'r clawr ar gyfer yr argraffiad nesaf, er mwyn dennu mwy o ddarllenwyr ato!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Dw i'n hoff iawn o lyfrau hanesaddol. Mae'r llyfr ma'n swnio'n dda. Diolch am y adolygiad.
Ah ! Mae gen i'r llyfr yma . Wedi ei brynu pan oeddwn adref yng Nghymru ychydig o flynyddoedd yn ôl. Ond heb ei ddarllen eto ! Ar ôl darllen dy sylwadau Neil , bydd rhaid i mi ei roi ar fy rhestr darllen .
Ewch amdani! Yr unig siom wrth cwrs yw: ein bod ni i gyd yn gwybod (wel yn fras o leia') diweddglo'r stori! Er dwi wedi fy synnu i ddarllen pa mor agos roedd Glyn Dŵr at wireddu ei freuddwyd yn y cyfnod dwi'n darllen ar hyn o bryd.
Diolch, Neil - mae'n swnio'n diddorol iawn. Dwi ddim wedi medru darganfod copi ond dwi am trio cael un
Post a Comment