Mi es i i ŵyl Ddewi Cymdeithas Cymry Birkenhead nos wener, noson a gafodd ei chynnal mewn gwesty hyfryd yn Wallasey. Roedd Ieuan ap Sion o Res y Cae, Sir y Fflint yn wneud yr adloniant, rhywun dwi'n cofio cyfarfod cwpl o weithiau draw yn y Llong Uchaf ym Mhagillt, tŷ tafarn lle trefnwyd sesiynau sgwrs anffurfiol ychydig o flynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd o fwyd yn flasus iawn (ces i Draenogiad y Môr fel prif gwrs) a ches i gyfle am sgwrs efo nifer o'r pobl ar ein bwrdd (gan gynnwys fy mam), sawl ohonynt yn 'mewnfudwyr' o Gymru!! Roedd y rhan mwyaf o'r pobl yno'n Gymry Gymraeg, felly digwyddodd popeth trwy'r Gymraeg, ond roedd hi'n rhyfedd i glywed dwy ddynes ar ein bwrdd ni'n siarad Saesneg gyda eu gilydd, er roedd y dau ohonynt yn cyn-ddisgyblion Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, ac yn siarad Cymraeg perffaith efo ni!
Ta waeth, roedd yr adloniant yn dda - mae gan Ieuan ap Sîon llais ardderchog a repetoire o ganeuon a straeon mewn sawl arddull - a ches i siawns am sgwrs efo un ddewr o'r dosbarth nos, sy'n mynychu'r Gymdeithas. Roedd 'na lond 'stafell o dua 60 yna, nifer go barchus yn ôl pob son. Blwyddyn nesa' mi fydd y Gymdeithas yn dathlu penblwydd hanner cant.
1 comment:
Da clywed dy fod wedi mwynhau dy swper Gwyl Ddewi . Gret darllen fod y gweithgareddau i gyd yn Gymraeg.Da iawn ! Yn edrych ymlaen i glywed mwy o hanes y Gymdeithas pan fydd hi'n dathlu 50 mlynedd y flwyddyn nesaf.
Post a Comment