Ar ôl i mi orffen Tonnau Tryweryn ddoe, dwi'n chwilio am rywbeth arall i ddarllen (ar wahan i hunangofiant Malcolm Allen sy'n cadw fi cwmni yn ystod amseroedd paned yn y gweithdy). Dwi wedi darllen adolygiadau 'cymysglyd' o 'Naw Mis' gan Caryl Lewis (un o'r lyfrau ro'n i'n ystyried prynu), ond a dweud y gwir mae faint y llyfr hon yn ddigon i godi ofn ar ddarllenwr 'rhan amser' fatha fi! Llyfr arall dwi'n meddwl prynu yw 'Chwilio am Sebastian Price' gan Tony Bianchi, awdur a gafodd ei eni'n Northumberland darllenais yn ddiweddar!
Clywais son am lyfr arall sy'n fy ymddiddori, neu ddylswn i ddweud cyfieithiad Saesneg ohoni, sef un am Owain Glyndŵr gan yr hanesydd R.R. Davies. Mae'r fersiwn gwreiddiol 'Owain Glyndŵr, Trwy Ras Duw Tywysog Cymru' allan o brint ar hyn o bryd, ond llwyddais dod o hyd i gopi ail-law am £2.95 diolch i Amazon, ac yn ôl e-bost derbyniais heno mae hi wedi cael ei 'shipio' yn barod.
4 comments:
Roeddwn i'm meddwl am ddarllen Naw Mis - ond ar ol be ti wedi dweud - dwi'm yn siwr. Ar ol gorffen Y Llyfrgell dwi am archebu Atyniad, hefyd gan Fflur Dafydd
Wnes i ddarllen 'Atyniad' sbel yn ôl, a wnes i'w fwynhau. Dwi'n meddwl mae hi wedi caei ei gyfieithu i Saesneg erbyn hyn hefyd, sy'n adlewyrchu ei lwyddiant falle...
Wedi dweud yr hyn a ddwedais am 'Naw Mis', yn ôl yr adolygiad a welais, llyfr darllenadwy ydy o, er gwaethaf ei faint.
Nes i ddarllen Atyniad hefyd , syml, ysgafn ac yn llyfr neis i ddarllen mewn un eisteddiad.
I'r rhai sy wedi gorffen Tonnau Tryweryn mae "Cysgod Tryweryn gan Owain Williams . EI brofiad personol o weithredu yn Nhryweryn, aeth o i'r carchar am ei weithred. Erbyn hyn mae'n un o ffigyrau mawr yn "Llais Gwynedd" - hanner ganrif ar ol Tryweryn.
Mae'r gwerslyfr cyntaf yn Gymraeg i ddysgu'r iaith ryngwladol Esperanto newydd ymddangos. Arweinlyfr 36 o dudalennau i Esperanto yw'r Mini-Cwrs, yn cynnwys deg o wersi, ymarferion darllen a geirfa. Y gŵr sy'n gyfrifol am y fenter yw Harry Barron o Fachynlleth.
Iaith yw Esperanto a gyflwywyd yn 1887 gan Dr. L.L. Zamenhof yn sgil blynyddoedd o waith. Cynigiodd ef Esperanto fel ail iaith a fyddai'n caniatáu i bobl sydd â gwahanol ieithoedd brodorol gyfathrebu, gan gadw eu hieithoedd a'u diwylliannau eu hunain yr un pryd. Nid yw Esperanto'n ceisio disodli'r un iaith arall; gweithreda fel iaith gyffredin. Cyhoeddwyd yr arweinlyfr bychan cyntaf i'r iaith yn 1910, a chyhoeddwyd geiriadur Cymraeg-Esperanto, Esperanto-Cymraeg yn 1985.
Mae'r Mini-Cwrs Esperanto ar gael am £1.50 a £0.50 cludiant gan Ffederasiwn Esperanto Cymru, 8 Vardre View, Deganwy, CONWY, LL31 9TE.
Post a Comment