29.1.10

Tonnau Tryweryn....

Dwi mewn canol llyfr o'r enw Tonnau Tryweryn gan Martin Davies ar hyn o bryd, sef hanes gafaelgar nifer o gymeriadau, a'r effaith mai boddi Cwm Tryweryn yn cael arnynt. Does yr un ohonynt yn byw yn y Cwm ei hun, sy'n wneud y llyfr yn un annisgwyl rhywsut, ond rhywffordd neu gilydd mae crychdonnau dyfroedd Tryweryn yn cael effaith arnynt.

Mae'r hanes yn dechrau yn yr unfed canrif ar hugain, cyn troi yn ôl at dechrau'r chwedegau a bywyd yng Nghogledd Cymru gyda gwaith ar y cronfa dŵr newydd cychwyn.
Cyn hir dyni'n dilyn hanes un o'r prif cymeriadau'n nyrsio yn Lerpwl, a ches i sioc i dod ar draws y darn lle mae hi'n ymweled â rhieni cyfoethog ei ddarpar gŵr, sy'n digwydd byw mewn tŷ crand yn Meols Drive, Hoylake, sy' dim ond hanner milltir o fa'ma!

Dyma 'tudalen troi-wr', ac un dwi'n mwynhau yn fawr hyd yma a dwi'n edrych ymlaen at cael siawns i eistedd lawr gyda fo 'to...

1 comment:

Emma Reese said...

Newydd gael cip ar adolygiad Gwales.com. Swnio'n ddiddorol. Mae gen i ddiddordeb yn hanes Tryweryn. Rhois i'r llyfr ar fy rhestr ddarllen.