19.2.10

Pen draw y byd....


Y Cwn ar Draeth Tywyn ger Tudweiliog...

Dyni newydd dychweled o Langwnadl ar ôl cwpl o ddyddiau o dywydd arbennig o braf. Roedd y golygfeydd yn odidog wrth teithio lawr, gyda chopaoedd Eryri o dan eira o hyd, a'r awyr yn las Dydd mercher doedd neb arall ar draeth Tudweiliog, sy'n dipyn o wahaniaeth i'r ddiwrnod gaethon ni yna yn yr haf pan oedd hi'n annodd ffeindio lle i orwedd tywel!
Dydd iau gaethon ni dro hyfryd ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn, yn dechrau o'r Rhiw a cherdded hyd at Penarfynydd. Nid yn bell mewn gwirionedd ond digon bell yn y gwynt main a chwythodd o'r Dwyrain. Ges i sgwrs difyr efo ffermwr lleol a wnaethon ni ddysgu llawer am pris ŵyn, a pham maen nhw'n ŵyna'n gynnar y dyddiau 'ma er mwyn fanteisio ar brisiau gwell! Diddorol iawn er dipyn o brawf i fy Nghymraeg! Ar ôl hynny mi wibiom ni draw i Blas Glyn y Weddw yn Llanbedrog am luniaeth a chfyfle i gynnesu o flaen tân y cyntedd, cyn mwynhau'r gwaith celf sy'n llenwi'r hen blasdy. Ges i sgwrs yn y Gymraeg efo un o'r wirfoddolwyr sy'n gwarchod y lle, a dysgais cryn dipyn am hanes yr adeilad ysblenydd.

4 comments:

Jonathan said...

Ardal hefryd. Yr ydw i wedi gwersyllfa yn Nhudweiliog sawl blynedd yn ôl. Rhaid i mi fynd yno eto pan fydd y tywydd tipyn bach yn fwy cynnes!

Corndolly said...

Dw i'n cofio mynd i Blas y Weddw pan oeddwn i ar gwrs ym Mhwllheli ddwy flynedd (?) yn ôl ond yn ystod y haf oedd o. Ie, glaw a niwlog os dw i'n cofio'n iawn, ond mae'r lle yn ddiddorol tu hwnt.

Rhys Wynne said...

wedi bod i Blas y Weddw, ond mae fy ngefnder yn priodi yno mis Medi. mae;n edrych yn le hyfryd o'r wefan.

neil wyn said...

Mae'n lle delfrydol i briodasau 'swn i'n meddwl:)