Ges i fy nghythruddo heno yn y coleg wrth ciwio am goffi! Dyna un o'r dosbarth yn sgwrsio efo boi o un o'r dosbarthiadau eraill (dwn i ddim pa un), rhywun ei fod yn gwybod cyn ymuno â'r cwrs, o'r hyn a glywais. Roedd y boi arall yn gofyn i Karl (o'r dosbarth Cymraeg) pa iaith oedd o'n astudio, ac wrth glywed mai Cymraeg yw'r iaith honno, mi aeth o yn ei flaen i ddweud ei ddweud am y Gymraeg mewn ffordd mor anwybyddus, gan cynnwys pob un ragfarn gei di glywed dan yr haul am yr hen iaith hon:
"The Welsh say their's is the oldest language in the world (!!), so how come they haven't got a word for Policeman?" ac wedyn "Oh yes of course they have, it's 'Pleesmon'", wedi ei dweud mewn acen gwael Cymreig. Mi aeth o yn ei flaen yn yr un modd am ychydig, efo Karl druan yn fud o dan yr ymosodiad geiriol ar ei ddewis o iaith, ac heb fy ngweld i'n sefyll tu ôl iddynt yn anffodus. Er o'n i'n dyheu camu mewn i'w 'achub', do'n i ddim eisiau codi embaras ar Karl.
Ar ôl i mi fynd i eistedd efo gweddill y dosbarth dyma Karl a'i 'gyfaill' yn dod draw, a chlywais y boi'n dweud "Is this your Welsh class?" wrth iddo sbio'n angredadwy ar y deunaw ohonyn ni'n eistedd mewn cornel yn lolfa y 'chweched dosbarth'. "Yeah" meddai Karl "it's a good size group isn't it", wrth i'r boi uchel ei gloch dychweled i'w ddosbarth o... sy'n lot llai ar ran faint!!
1 comment:
Mewn undod mae cryfrder!
Post a Comment