19.5.10

arolwg...

Ges i fy arolygu yn y dosbarth nos heno, heb fawr o rybudd - sy' ddim yn peth drwg a dweud y gwir.  Mi eisteddodd un o athrawon llawn amser yr ysgol yng nghefn y dosbarth, wrth i mi drio canolbwyntio ar gadw at rywfath o drefn, a phwysicach byth, fy nghynllun gwers!   Mi aeth pethau yn o lew am wn i,  ac wrth i'r dysgwyr gadael y stafell i fynd am eu diodydd 'hanner amser', dyma'r athrawes yn dod draw am air!

Ni ddylswn i wedi poeni, athrawes glen oedd hi, oedd yn cashau gwneud y gwaith adolygu - gan ei bod hi'n dysgu ei hun - a chynigodd dim ond argymhellion adeiladol.  Darganfodais fy mod i'n dysgu yn ei hystafell hi, un o'r ystafelloedd Frangeg/Almaeneg yr ysgol, a rhoddodd hi cwpl o awgrymiadau am sut i ddefnyddio'r technoleg sydd yna i hwyluso'r gwersi.  Wrth cwrs fantais i mi oedd y ffaith nad ydy hi'n deall gair o Gymraeg, a dim ond barnu fy 'ngallu' dysgu oedd hi, nid y Gymraeg ro'n i'n ei dysgu!

1 comment:

Corndolly said...

Rhaid i mi ddweud ar ôl i mi ddarllen y rhan olaf dy flog, dechreuais i chwerthin yn uchel, a chyfieithais i dy flog i'm gŵr. Rhywun sy'n mynd i dy adolygu wrth i ti ddysgu Cymraeg, sy ddim yn gallu deall Cymraeg. Gwn i fod hi'n adolygu dy sgiliau, ond i mi, mae'n swnio yn ddoniol iawn - ond y peth gorau i tithau.