8.5.10

Senedd Grog...

Dyni yng nghanol un o gyfnodau mwyaf cyffrous mewn gwleidyddiaeth Prydeinig ers cenhedlaeth falle - wel cyfnod yr un mor gyffrous a datganoli ? - Mae'r Ceidwadwyr yn glwm mewn trafodaethau á'r Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn ceisio creu clymblaid digon cryf i ffurfio llywodraeth newydd.  Mae'r drefn 'Cyntaf heibio i'r Postyn' wedi siomi'r Toriaid am unwaith - prif gefnogwyr y cyfundrefn, un sy'n mynd yn ól i gyfnod dwy blaid.

Mewn sefyllfa Senedd Grog, fel yr un sydd ononi rwan, mae'r cyfansoddiad Prydeinig yn rhoi'r dewis o geisio ffurfio llywodraeth i'r Prif Weinidog.  Gyda'r Dem Rhydd's yn mynnu siarad gyda'r blaid 'buddugolaethus' (ar ran nifer o seddi a phleidleiswyr) yn gyntaf, doedd gan Mr Brown ddim dewis ond aros iddynt mynd trwy proses o drafodaethau, yn y gobaith eu bod nhw'n methu.  Tasai hynny i ddigwydd gallai Clegg a'i blaid cyfiawnhau mynd at Brown a'r Blaid Lafur er mwyn ceisio ffurfio 'glymblaid enfys' (gan cynnwys Plaid Cymru a'r genedlaetholwyr o'r Alban), trefn fasai'n cynnig iddynt addewid o reffyrendwm ar newid y cyfundrefn pleidleisio.

Ar hyn o bryd mae'n debygach bod y Toriaid yn mynd i wneud rhywfath o gytundeb a'r Dem Rhydd's er mwyn sefydlu llywodraeth sefydlog yn weddol gyflym.  Dydy'r marchnadoedd arriannol ddim yn hoffi ansicrwydd, ac mi fasai Clegg helpu ei achos ei hun  trwy cefnogi'r ceffyl blaen, er mi fydd hi'n annoddach iddo mynd á'i blaid yno efo fo.   Mae gynnon ni wythnos 'diddorol'  tu hwnt o ein blaenau!

No comments: