|
Tu fewn i Theatr y Cyfnewidfa Brenhinol, Manceinion |
Gaethon ni bedair awr ar hugain go ddrud ym mhrif ddinas y gogledd gorllewin (yn ól rhai!), sef y cotwmopolis ers talwm - Manceinion. Arhosom ni yng Nghwesty'r Midland, hen westy'r gorsaf trén sydd bellach yn ganolfan cynhadleddau 'Manchester Central' (y GMex yn gynt). Roedd o'n braf cael mwynhau ychydig o foethusrwydd, ac hynny mewn calon dinas cyffrous a bywiog fel Manceinion. Mae'n sbel ers i ni dreulio amser yna, a'r tro yma gaethon ni gyfle i ymweled á nifer o'r atyniadau amlwg, megis yr olwyn mawr yng nghanol y ddinas a'r Royal Exchange Theatre. Mae'n chwater canrif ers i ni weld Julie Walters mewn drama yn y theatr anhygoel yma, sy'n fel llong ofod yng nghanol y pensaerniaeth ffug clasurol yr hen gyfnewidfa cotwm - llawr masnachu mwyaf y byd yn ei anterth. Os ti'n sbio tuag at y to, gei di weld y prisiau cotwm o hyd ar un o'r hen arwyddion prisiau. Mae'n anhygoel i feddwl a gallai prynu a gwerthu rhywbeth mor syml a chotwm yn creu cymaint o bres - ond teml i ddioddefaint weithwyr cyffredinol y diwydiant cotwm yw hi erbyn hyn falle, a gofod cyhoeddus arbennig.
Nes ymlaen gaethon ni bryd o fwyd bendigedig ym 'Mwyty yr Ail Llawr' yn Harvey Nicholls (er mwyn dathlu ein penblwydd priodas - ychydig yn gynnar), wrth edrych dros y sgwár islaw, trít go iawn!
2 comments:
Mae treulio amser i ffwrdd ar wyliau bach yn bob amser brofiad da iawn ! Dôn i ddim yn gwybod bod 'na olwyn mawr ym Manceinion. Ydy o'n debyg i'r un yn Llundain?
Wnes i siecio ar y we a 60m o daldra yw olwyn Manceinion. Mae hyn yn swnio'n fawr, ond 135m yw 'Llygad Llundain'!
Mae 'na un ger Doc Albert yn Lerpwl hefyd sy'n edrych yr un faint a'r olwyn ym Manceinion, felly dwi'n edrych ymlaen at drio hwnnw rhywdro.
Post a Comment