5.6.10

Rhoi Cynnig ar Drydar......

Ar ól cael ffón newydd yn ddiweddar, penderfynais roi gynnig ar y teclyn 'Twitter' sy'n rhan o feddalwedd y ffón yn barod.  Does gen i fawr diddordeb yn y fasiwn rwtsh mae'r rhan mwyaf o bobl  (a dwi'n cyfri fy hun yn y grwp yma wrth cwrs) yn 'trydar' a dweud y gwir, ond fel unrhyw dechnoleg newydd, dwi'n awyddus i weld y posibiliadau o'i defnyddio i wella fy Nghymraeg.  Es i ati felly i ddod o hyd i 'Twittwyr' sy'n trydar yn y Gymraeg,  a des i o hyd i restr go hir ar flog Metastwnsh.  Y problem yw wrth cwrs mae nifer ar y rhestr naill ai wedi rhoi'r gorau i drydar erbyn hyn, neu'n drydar yn Saesneg yn bennaf.  Ta waeth, mae gen i lond ffón o 'tweets' gan 'Golwg360' a chanlyniadau Steddfod yr Urdd.  Mae ambell i berson ro'n i'n eu dilyn wedi codi braw arnaf erbyn hyn, ac wedi cael eu dileu oddi wrth fy rhestr. Roedd un boi'n trydar bob yn ail munud bron (i gyd yn Saesneg) felly ges i wared ohono fo y bore 'ma - mae eisiau bywyd arno fo.

Mae'r temtasiwn wrth cwrs yw i ddilyn pobl enwog, ac mae sawl yn mwynhau ei wneud.  Mae gan Stephen Fry rhyw filiwn a hanner yn ei ddilyn eerbyn hyn.  Rhaid cyfadde dwi'n dilyn Cerys Matthews, a dwi newydd ychwanegu Rob Brydon - jysd gan fy mod i wrth fy modd ag yncl Bryn. 

Felly os ti'n trydar yn y Gymraeg, rhoi wybod i mi os gweli di'n dda...

4 comments:

Rhys Wynne said...

Roeddwn i'n reit amheus o Twitter ar y dechrau - yn ei weld yn debyg i Facebook a lot gormod o rwtsh arno, ond dw i wedi newid fy marn.

Oes, mae lot o rwtsh arno, ond o'i ddefnyddio'n gywir, fe all fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhannu gwybodaeth yn gyflym a chael gwybodaeth....cyn belled bod ti'n dilyn y pobl cywir.

Byddwn i ddim jyst yn dilyn pobl ti'n nabod (na teimlo bod rhaid dilyn pobl sy'n dy ddilyn di). Os ti'n dilyn gormod o bobl (neu'n dilyn pobl sy'n trydar yn rhy aml), mae'n bosib byddi di'n methu rhai 'tweets' defnyddiol.

Efallaii fel fi, ti'n meddwl am rhywbeth i flogio amdano, ond does dim amser i wneud, ond galli di bostio dolen at rhywbeth ar Twitter mewn eiliadau.

Dyma restr o gyfrifon Trydar gan bobl yn ymwenud a Chymraeg i Oedolion: http://twitter.com/rhysw1/tiwtoriaid-cymraeg/members

Os ti'n defnyddio 'hashtags' o flaen gair penodol (eg #cymraeg, neu #dysgwr) felle daw pobl eraill o hyd i ti drwy hap.

Mae hashtags yn ddefnyddiol pan mae diwyddiad yn cymryd lle - gan gymryd bod pawb yn cytuno i ddefnydido #hashtag penodol, (e.e. #eisteddfod), mae'n hawdd dod i wybod am lot o ddigwyddiadau drwy lot o fobl eriall, hyd yn oed os nad wyt ti'n eu nabod/dilyn.

Roedd wythnos o wyliau gyda fi wythnos diwetha ond doeddwn heb drefnu dim byd, ac o ddilyn cyfrif Under The Thatch (cwmni Greg Stevens, o raglen Y Tŷ Cymreig), cefais wybod am gynnig arbennig ar fwthyn am ddwy noson. Dyma'r math o beth lle mae Twitter yn wirioneddol ddefnyddiol.

neil wyn said...

Diolch am hyny Rhys, ro'n i heb sylweddoli am yr hash's!

Dan i wedi treulio cwpl o wyliau o dan Thatch's Greg Stevens - ardderchog. Wna i ddechrau dilyn ei dwitter o'n bendant.

Nic said...

Dw i ddim yn postio lot ar Twitter - dw i ddim yn lico'r ffaith bod dim modd (hawdd) ffeindio pethach ti wedi postio arno, felly dw i dal yn defnyddio Delicious ar gyfer dolenni sydyn, Facebook i bethau dw i moyn rhannu gyda ffrindiau, a'r blog os dw i wir moyn dweud rhywbeth mwy na "erdych ar hyn".

Wedi dweud hynny, mae Twitter yn defnyddiol iawn pan mae rhywbeth yn digwydd yn y byd (fel y protestiadau yng Nghaerdydd ddoe) a ti moyn cadw llygad arnynt, neu gyfrannu at drafodaeth mewn "amser go iawn".

Dw i ddim yn gweld dim byd o'i le â phostio rwtsh ar Twitter, ond fel ti'n dweud, mae rwtsh di-derfyn gan un person yn boen.

neil wyn said...

ni faswn i'n bothran efo twitter mae'n debyg, onibai am y ffaith bod hi ar y ffon. wedi dweud hynny dwi'n eitha fwynhau o erbyn hyn, ac wedi dod o hyd i ragor o glebran cymraeg:) ac mae'n digon rhwydd 'di-ddilyn' twitwyr gor brwdfrydig pan ti di cael digon hefyd.