Wnes i ddysgu rhywbeth newydd am yr ardal yma heddiw - ond yn hollol ddamweiniol! Wnes i sylwi ar arwydd gwybodaeth wrth ymyl y bont yn Saughall Massie (pentre cwpl o filtiroedd o fa'ma) ychydig o flynyddoedd yn ól, ond ro'n i heb stopio i edrych arno erioed, er mod i'n gwibio hebio iddo fo bron pob yn ail dydd. Meddyliais ro'n i'n gwybod be oedd arno fo a dweud y gwir. Yn 2006 darganfodwyd - tra adeiladau ffordd osgoi -
hen adfeilion pren. Yn ól y dyddio carbon a berfformwyd arnynt, cymysgedd o dderw yn dyddio yn ól i dua 2500 c.c. a phren onnen o dua 800c.c. Tystiolaeth o ryw strwythyr cynnar oedd y rheiny, yn ól yr arbennigwyr, pont mwy na thebyg, a meddylias a godwyd y 'plac' i ddynodi hanes y darganfyddiad yna.
|
Pont Saughall Massie a'i phlac |
Ond hollol anghywir y roeddwn i! Plac i ddathlu gwaith contractwr o beirianydd
Thomas Brassey ydy o, boi wnaeth codi ei bont cyntaf yno yn 1829, cyn symud ymlaen i fod yn un o beirianwyr sifil mwyaf cynhyrchiol a welodd y byd erioed. Erbyn 1870, ei gwmni o wedi adeiladu 5% o holl reilffyrdd
y byd, gan cynnwys pontydd di-ri (Trawsbont Cefn-Mawr ger Wrecsam yn eu plith), ac yma yn Saughall Massie cododd ei bont gyntaf un!
Pont fach ydy o, ac un ro'n i heb edrych arni'n fanwl tan yr wythnos yma wrth i mi stopio wrth ei hymyl.
Codwyd y bont fel rhan o gynllun i wella ffyrdd a sychu corsydd yn ngogledd Cilgwri, a thrwy hynny dod á'r ardal o dan y gyfraith, oedd adeg hynny'n dal i loches i ladron glan y mór, a arferai gynnau goleuadau er mwyn dennu llongiau tuag at y traeth.
Un o gyffuniau Caer oedd Brassey yn wreiddiol, a symudodd i Benbedw i sefydlu ei fusnes ar ól prentisiaeth fel arolygwr. Cyfarfodd o á Thomas Telford tra weithio ar yr A5 rhwng Yr Amwythig a Chaergybi, rhywun mae'n siwr a gafodd dylanwad arno fo.
Y peth wnaeth fy synnu i wrth ddarllen y plac yno, a'r holl stwff ar y we er mwyn sgennu'r post 'ma, oedd ro'n i heb dysgu gair amdano fo tra yn yr ysgol... mae'n annodd coelio! O feddwl wrth gwrs, mae 'na stryd di-nod ym Mhenbedw (lle oedd cyfnither ngwraig yn byw am sbel) o'r enw Brassey St. ond doeddwn i erioed wedi wneud y cysylltiad. Erbyn hyn, pob tro dwi'n gyrru dros y bont 'na, wna i feddwl am y boi a gododd hi, a'i gampau peiriannol dros y byd i gyd!
2 comments:
Dw i heb glywed amdano fo hyd yma chwaith. Diolch am dynnu'n sylw ato fo.
digwydd bod, mi aeth fy nhad i gyfarfod yn ddiweddar, lle roedd y dyn 'gwadd' yn wneud araith ar neb llai na Brassey! nad oedd fy nhad wedi clywed amdano fo chwaith!
Post a Comment