Glywais sgwrs diddorol ar raglen Beti a'i Phobl ddoe, gyda athrawes Cymraeg o'r enw Julia Burns - hogan o Gaerdydd o dras Gwyddelig. Roedd hi'n cashau'r Cymraeg yn yr ysgol, ond ar ól teithio ychydig a theimlo hiraeth dros ei mamwlad, penderfynodd dysgu'r iaith ar ól dychweled, a threulio ei gyrfa yn dysgu'r iaith (fel ail iaith) mewn ysgolion. Pwynt diddorol a gododd yn ystod y sgwrs oedd: ai wneud mwy o ddrwg i'r iaith yn y tymor hir yw gorfodi disgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg dysgu'r Gymraeg? Mae Julie Burns, sydd gan profiad eang yn y maes, yn sicr nad ydy hi o les i'r Gymraeg (yn y broydd di-Gymraeg) i'w gorfodi nhw i'w wneud, ac mi fasai dysgu plant rhagor am hanes Cymru - a thrwy hynny codi ymwybyddiaeth - yn wneud mwy o fudd. Mae hi'n credu bod sawl disgybl yn gadael ysgol gyda chasineb pur at yr iaith oherwydd gwneud Cymraeg yn yr ysgol. Mae dechrau dysgu iaith yn unarddeg oed yn rhy hwyr o lawer beth bynnag meddai hi, ac mi fasai'n wneud mwy o synnwyr i roi'r arian mewn i ddysgu'r Gymraeg i blant iau yn yr ysgolion cynradd.
Dwi'n gwybod pa mor annodd yw dysgu iaith i oedolion brwdfrydig erbyn hyn, ni faswn i'n dechrau dychmygu pa mor annodd yw hi i ddysgu iaith i blant yn eu harddegau heb iot o frwdfrydedd ( a lot arall ar eu meddyliau!). Wrth gwrs mi fydd 'na ambell i eithriad, fel y dysgwyr o ysgolion cyfrwng Saesneg ein bod ni'n eu clywed yn ennill gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd, ond tybed be ydy'r canran o bobl sy'n cael eu dennu at yr iaith trwy'r gwersi 'gorfodol' 'na?
6 comments:
Mae'n drist bod y plant Saesneg yn datblygu casineb tuag at iaith yr wlad maen nhw'n byw ynddi beth bynnag y rheswm. Dydyn nhw ddim yn dysgu hanes Cymru yn yr ysgolion felly? Bydd o'n symbyli'r plant i ymddiddori yn eu gwlad eu hun a'u hiaith.
Pan dilynais i gyrsiau TGAU a Safon A, es i wersi gyda 'myfyrwyr y dydd' yn y coleg lleol a gan eu bod nhw wedi dewis y pwnc roedd y rhan fwyaf yn frwdfrydig. Ond am ryw reswm, cawsant dipyn o drafferth dysgu a defnyddio'r iaith. Dim ond un neu ddau mewn dosbarth o 20 oedd yn gallu deall yr iaith yn dda ac ar ôl blynyddoedd o dysgu. Dwi heb wybod pam, ond mae 'na rywbeth o'i le rhywle.
Junko, Mae hi yn peth drist 'tydy, bod agwedd sawl plant yn eitha negyddol tuag at eu hiaith eu hunan. Wedi dweud hynny, mae 'na sawl sy'n dod trwy addysg cyfrwng Gymraeg gyda agwedd mwy cadarnhaol tuag at eu diwylliant mae'n siwr. Ar ran hanes, dwi'n nabod nifer a ddaeth trwy addysg yng Nghymru heb dysgu dim am hanes Cymru. Roedden nhw'n dysgu'r un un sylabys mwy na lai na gweddill Prydain. Dwi'n credu erbyn heddiw mae 'na fwy o bwyslais ar hanes Cymru yng Nghymru, ond dim llawer yn ól yr hyn a glywais, a hynny yn bennaf am gestyll Edward 1af, ond fedra i ddim bod yn sicr.
Ro, ti'n iawn, mae'n sicr bod 'na rhywbeth o'i le, ond dwn i ddim be ydy'r ateb. Falle mi fydd rhai ohonynt yn cario ymlaen astudio'r iaith, neu yn dychweled rhywdro yn y dyfodol i adeiladu ar yr hyn maen nhw wedi dysgu yn yr ysgol?
Re: Hanes Gymru mewn ysgolion. Ydy, Neil, mae 'na lawer mwy o bwyslais ar hanes Gymru, ond at Safon A. Astudiais i lawer am y drydedd Ganrif ar ddeg, ond dim byd am hanes gyfoes ar wahân o feirdd yr ugeinfed ganrif.
Ond ar yr un adeg, roedd sawl myfyriwr yn dysgu Hanes fel pwnc, ond roedden nhw'n astudio'r Ugeinfed Ganrif tuag at yr Ail Ryfel y Byd, ond trwy cyfrwng Saesneg a wedi ei seilio ar Ewrop. Felly, ydy, yr un sylabys â phawb.
Ma cwpwl o bwyntie'n codi o'r drafodeth hon ynglŷn â chyfundrefn addysg yn gwlad:
(1) os yn ni isie bod yn wirioneddol ddwyieithog fel cenedl, ma _rhaid_ neud yn siwr bo _pob plentyn_ yn cal u cyflwyno i'r Gymrag _yn drwyadl_ o Flwyddyn 3 ymlaen. H.y., Cymrag fel pwnc _a_ rhywfaint o addysgu drwy'r Gymrag mewn pwnc ne ddau arall - pob ysgol yn Gategori B felly (nid C). Os ta dim ond awr ne ddwy yr wthnos ma nhw'n cal, os rhyfedd nad yn nhw'n galle siarad yr iaith!
(2) Ma'r Cwricwlwm Cymreig yn orfodol a draws y pyncie ym mhob ysgol drwy Gymru. Felly, dos dim esgus anghofio am bethe Cymru, hyd yn od mewn ysgolion cyfrwng Sisneg.
Pwnt da am awr neu ddwy. Mae 'na ysgol gynradd yn ein pentref, ie, un sy wedi goroesi hyd yn hyn, ac mae plant 'na yn cael un awr yr wythnos yn y Gymraeg. Pan ddechreuais i ddysgu Cymraeg 7 mlynedd yn ôl, dw i'n cofio gofyn yr athrawes am gymorth, ond wnaeth hi orfod gan nad oedd ei Chymraeg yn ddigon da. Sgen i ddim syniad am y trefniant heddiw
Post a Comment